Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Noder: Derbynnir y wybodaeth a ddangosir am bob swydd wag yn uniongyrchol gan y cyflogwr a enwir. Er ein bod ni (Grŵp Llandrillo Menai) yn gwneud pob ymdrech i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chanllawiau cydraddoldeb ac amrywiaeth, nid ydym yn gyfrifol am unrhyw wallau neu anwaith yn y geiriad a ddefnyddir.

Cymorth Llaw Cyf - asiantaeth gofal cartref a gofal cymhleth mwyaf blaenllaw Gogledd Cymru

Mae Cymorth Llaw Cyf yn darparu ystod o wasanaethau i grŵp cleient amrywiol yn ardaloedd Gwynedd, Ynys Môn a Chonwy yng Ngogledd Orllewin Cymru.

Rydym yn asiantaeth gofal cartref deuluol sy’n gweithio ar draws Gogledd Orllewin Cymru. Mae gennym bron i 25 mlynedd o brofiad o ddarparu gofal o ansawdd uchel a chefnogi staff i gyrraedd a chyflawni eu nodau.

Rydym yn gyflogwr cyfeillgar i deuluoedd, sydd wedi ennill gwobrau.

Mae'r gofal a ddarparwn yn cael ei gynllunio yn unol ag anghenion yr Unigolyn. Gall cleientiaid fod yn agored i niwed, yn dioddef o anabledd corfforol a/neu yn dioddef o gyflyrau iechyd cronig. Gall gofynion gofal y cleient fod dros gyfnod byr neu dymor hir.

- Gwaith hyblyg
- Mae cytundebau rhan-amser neu llawn amser ar gael
- Darperir cymorth hefyd wrth gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
- Gyrrwr car yn ddymunol; fodd bynnag, mae croeso i rai nad ydynt yn yrwyr wneud cais oherwydd gallai rhai pecynnau gofal fod o fewn pellter rhesymol i'r cartref
- Telir cyfradd lawn fesul awr i staff am yr holl hyfforddiant a ddarperir

Cyfradd dydd o £12.07 yr awr (Dydd Llun i Ddydd Sul)

Telir £114.40 - £135.80 y noson. Sifftiau fel arfer o 10pm - 8am (Cwsg neu effro)

Telir lwfans milltiredd o 45c y filltir

Meini Prawf Ymgeisio (Isafswm)
· Rhaid bod yn 18 oed neu drosodd
· Rhaid bod â chludiant eich hun / mynediad dibynadwy at gerbyd addas at ddefnydd personol.
· Mae angen yswiriant busnes
· Ffafrir profiad ond nid yw'n hanfodol - darperir hyfforddiant


Sut i wneud cais

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'n Prif Swyddfa ym Mangor ar 01248 679922 neu e-bostiwch hr@cymorthllaw.org


Manylion Swydd

Lleoliad

Gwynedd ac Ynys Môn

Sir

Arall

categori

Llawn Amser

Sector

Sector Gofal / Care Sector

Gwefan

http://www.cymorthllaw.org/recruitment/

Dyddiad cau

29.11.24

Logo Ariennir gan Lywordaeth Cymru

Biwro Cyflogaeth a Menter yw CAMVA@LlandrilloMenai a ariennir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r Gwarant Pobl Ifanc.


Oes gennych chi swyddi gwag yr hoffech eu llenwi?

Hoffech chi allu cyrraedd cynulleidfa darged o filoedd o fyfyrwyr?

Felly beth am hysbysebu eich swyddi AM DDIM ar ein hysbysfwrdd.

Gall y swyddi y rhown sylw iddynt ar eich rhan gynnwys:

  • Prentisiaethau
  • Swyddi llawn amser
  • Swyddi rhan-amser
  • Contractau cyfnod penodol

I hysbysebu swydd wag, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen isod a'i hanfon i employerjobs@gllm.ac.uk.

Ffurflen Hysbysfwrdd Swyddi