Cynllun Prentisiaethau Cyngor Gwynedd x13
Noder: Derbynnir y wybodaeth a ddangosir am bob swydd wag yn uniongyrchol gan y cyflogwr a enwir. Er ein bod ni (Grŵp Llandrillo Menai) yn gwneud pob ymdrech i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chanllawiau cydraddoldeb ac amrywiaeth, nid ydym yn gyfrifol am unrhyw wallau neu anwaith yn y geiriad a ddefnyddir.
Pwrpas y Swydd
Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
Prif Ddyletswyddau
Trosolwg
Diolch i chi am ystyried gwneud cais ar gyfer ein prentisiaethau flwyddyn yma!
Mae'r cynllun yn gyfle gwych i ddatblygu sgiliau, ennill profiad gwerthfawr a cychwyn gyrfa yma efo ni.
Rydym yn edrych ymlaen i dderbyn eich cais.
Cliciwch ar y 'lincs‘ i fynd â chi i’n gwefan a Prosbectws Talent a Phrentisiaethau 2025
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Rydym yn chwilio am bobl sydd â’r agwedd a’r ymddygiad priodol fydd yn gallu arddangos eu hawydd a’u penderfyniad i weithio i lywodraeth leol.
• Dangos ymddygiad ac agwedd cywir
• Dangos ymrwymiad i'r gwaith
• Gweithio’n effeithiol fel rhan o dîm
• Cyfathrebu gyda hyder
• Yn barod i ddysgu pethau newydd ac i hunan wella
• Yn barod i herio
Cyfleoedd 2025 yw:
Prentis Gradd Peirianneg Meddalwedd
• Prentis Gradd Gwyddor Data ACGCC (Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru)
• Prentis Cyllid
• Prentis Systemau Digidol
• Prentis Gradd Ynni
• Prentis Peirianneg Sifil ACGCC (Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru)
• Prentis Cefnogi Prosiectau
• Prentis Technegydd Fflyd (Mecanic)
• Prentis Busnes ACGCC (Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru)
• Prentis Trethi
• Prentis Cefnogi Buddion y Dyfodol
• Prentis Busnes Tai ac Eiddo
• Prentis Democratiaeth
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Wedi cymhwyso i lefel 2 o leiaf gan gyrraedd y gofynion isod:
Un ai
• 4 TGAU gradd D neu uwch (gradd C neu uwch mewn mathemateg)
• Cymhwyster galwedigaethol Lefel 2 cyfatebol (e.e. BTEC Cyntaf Lefel 2 Diploma)
37 o oriau y wythnos
Sut i wneud cais
Manylion Swydd
Lleoliad
Caernarfon
Sir
Gwynedd
categori
Prentisiaethau
Sector
Arbenigol/Arall - Specialist / Other
Gwefan
https://diogel.gwynedd.llyw.cymru/SwyddiArLein/cy/Swydd/Manylion/28166
Dyddiad cau
08.05.25


Biwro Cyflogaeth a Menter yw CAMVA@LlandrilloMenai a ariennir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r Gwarant Pobl Ifanc.
Oes gennych chi swyddi gwag yr hoffech eu llenwi?
Hoffech chi allu cyrraedd cynulleidfa darged o filoedd o fyfyrwyr?
Felly beth am hysbysebu eich swyddi AM DDIM ar ein hysbysfwrdd.
Gall y swyddi y rhown sylw iddynt ar eich rhan gynnwys:
- Prentisiaethau
- Swyddi llawn amser
- Swyddi rhan-amser
- Contractau cyfnod penodol
I hysbysebu swydd wag, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen isod a'i hanfon i employerjobs@gllm.ac.uk