Prentis Cyllid
Noder: Derbynnir y wybodaeth a ddangosir am bob swydd wag yn uniongyrchol gan y cyflogwr a enwir. Er ein bod ni (Grŵp Llandrillo Menai) yn gwneud pob ymdrech i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chanllawiau cydraddoldeb ac amrywiaeth, nid ydym yn gyfrifol am unrhyw wallau neu anwaith yn y geiriad a ddefnyddir.
Siemens Healthineers Llanberis, sydd wedi’i leoli wrth droed yr Wyddfa yng ngogledd Cymru, yw unig wneuthurwr adweithyddion IMMULITE a ddefnyddir mewn dadansoddwyr gwaed i gynorthwyo gyda diagnosis a thriniaeth i gleifion.
Mae'r rôl hon yn berffaith ar gyfer rhywun sy'n frwdfrydig am gyllid, sy'n awyddus i ddysgu ac sy’n barod i ddechrau eu gyrfa ym maes cyllid.
Bydd y Brentisiaeth Gyllid 1-i-2 flynedd hon yn rôl hybrid – gweithio gartref ac o'n swyddfa ar ein safle Gweithgynhyrchu yn Llanberis o bryd i'w gilydd; felly bydd rhaid i chi fyw o fewn pellter cymudo rhesymol.
Amdanoch chi:
Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac yn ysgrifenedig
Sgiliau trefnu a rheoli amser
Y gallu i ddefnyddio eich menter, a pharodrwydd i ddysgu sgiliau newydd
Defnyddiwr hyderus o Microsoft Office 365 (Word, Excel, PowerPoint, Outlook)
Cymwysterau Angenrheidiol:
TGAU gradd 4/5 (C) neu uwch, gan gynnwys Mathemateg a Saesneg
Bydd angen o leiaf Tystysgrif Lefel 2 AAT mewn Cyfrifeg arnoch
Rhaid i chi hefyd fod yn gymwys i weithio yn y DU am gyfnod y Brentisiaeth 1-2 flynedd hon.
Sut i wneud cais
Drwy ddilyn y ddolen isod - https://jobs.siemens-healthine...
Manylion Swydd
Lleoliad
Llanberis/Hybrid
Sir
Gwynedd
categori
Prentisiaethau
Sector
Busnes a Rheoli / Business & Management
Gwefan
https://findanapprenticeship.service.gov.wales/find-apprenticeship/finance-apprentice-25
Dyddiad cau
30.04.25


Biwro Cyflogaeth a Menter yw CAMVA@LlandrilloMenai a ariennir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r Gwarant Pobl Ifanc.
Oes gennych chi swyddi gwag yr hoffech eu llenwi?
Hoffech chi allu cyrraedd cynulleidfa darged o filoedd o fyfyrwyr?
Felly beth am hysbysebu eich swyddi AM DDIM ar ein hysbysfwrdd.
Gall y swyddi y rhown sylw iddynt ar eich rhan gynnwys:
- Prentisiaethau
- Swyddi llawn amser
- Swyddi rhan-amser
- Contractau cyfnod penodol
I hysbysebu swydd wag, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen isod a'i hanfon i employerjobs@gllm.ac.uk