GWEITHIWR PARATOI BWYD
Noder: Derbynnir y wybodaeth a ddangosir am bob swydd wag yn uniongyrchol gan y cyflogwr a enwir. Er ein bod ni (Grŵp Llandrillo Menai) yn gwneud pob ymdrech i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chanllawiau cydraddoldeb ac amrywiaeth, nid ydym yn gyfrifol am unrhyw wallau neu anwaith yn y geiriad a ddefnyddir.
Rydym angen unigolyn cryf yn gorfforol i ymuno â'r tîm yn uned brosesu ganolog Allports Fish & Chips ym Mhorthmadog i brosesu'r sachau o datws a'u rhannu'n fagiau llai, torri sglodion, ffiledu'r pysgod a pharatoi'r cyw iâr i'w dosbarthu i’r pedair siop pysgod a sglodion. Does dim angen profiad, dim ond parodrwydd i weithio a bod yn rhan o dîm. Yn ddelfrydol, dylai'r ymgeisydd allu gyrru a meddu ar drwydded yrru lân, ond nid yw hyn yn hanfodol. Os oes gan yr ymgeisydd drwydded yrru, bydd y swydd hefyd yn cynnwys rhywfaint o yrru / danfon y nwyddau i'r siopau. Oriau ar gael rhwng 18 a 30 yr wythnos. Cyfraddau tâl cystadleuol.
Sut i wneud cais
ANFON E-BOST AT RHONWEN ALLPORT – INFO@ALLPORTS.CYMRU
Manylion Swydd
Lleoliad
PORTHMADOG
Sir
Gwynedd
categori
Rhan Amser
Sector
Lletygarwch ac Arlwyo / Hospitality & Catering
Dyddiad cau
04.04.25


Biwro Cyflogaeth a Menter yw CAMVA@LlandrilloMenai a ariennir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r Gwarant Pobl Ifanc.
Oes gennych chi swyddi gwag yr hoffech eu llenwi?
Hoffech chi allu cyrraedd cynulleidfa darged o filoedd o fyfyrwyr?
Felly beth am hysbysebu eich swyddi AM DDIM ar ein hysbysfwrdd.
Gall y swyddi y rhown sylw iddynt ar eich rhan gynnwys:
- Prentisiaethau
- Swyddi llawn amser
- Swyddi rhan-amser
- Contractau cyfnod penodol
I hysbysebu swydd wag, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen isod a'i hanfon i employerjobs@gllm.ac.uk