Gweithiwr Gofal Iechyd
Noder: Derbynnir y wybodaeth a ddangosir am bob swydd wag yn uniongyrchol gan y cyflogwr a enwir. Er ein bod ni (Grŵp Llandrillo Menai) yn gwneud pob ymdrech i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chanllawiau cydraddoldeb ac amrywiaeth, nid ydym yn gyfrifol am unrhyw wallau neu anwaith yn y geiriad a ddefnyddir.
Swydd Ddisgrifiad
Mae ein cynorthwywyr gofal yn bobl hynod sy'n gwneud y pethau bob dydd sy'n golygu cymaint i'r cleientiaid.
Fel cynorthwywr gofal byddwch yn cefnogi ein cleientiaid i fyw bywydau mwy diogel yn eu cartrefi eu hunain.
Byddwch yn dilyn cynlluniau gofal unigol ac yn cynorthwyo gyda gofal personol, gan helpu cleientiaid i ymolchi, gwisgo, rheoli anymataliaeth, defnyddio'r toiled a'u cefnogi gyda'u meddyginiaeth.
Byddwch hefyd yn helpu gyda thasgau ymarferol fel siopa, amser bwyd a gwaith tŷ.
Cymwysterau
Nid oes angen unrhyw brofiad o ofal cymdeithasol arnoch i wneud cais am y swydd hon. Mae gennym fwy o ddiddordeb yn eich gallu i ddangos tosturi ac i ofalu. Fel rhan o dîm clos bydd angen i chi fod yn wydn hefyd ac yn barod i ddysgu sgiliau newydd a datblygu eich gwybodaeth.
Sut i wneud cais
Cysylltwch â changen Bangor drwy ffonio 01248 677919, neu dewch o hyd i ni ar facebook AbacarecareBangor candchealthcare.
Manylion Swydd
Lleoliad
Ynys Mon, Conwy a Gwynedd
Sir
Arall
categori
Llawn Amser
Sector
Sector Gofal / Care Sector
Gwefan
https://cch.careers/job-search?postcode=&keywords=BANGOR&role=Care+Assistants
Dyddiad cau
11.04.25
Biwro Cyflogaeth a Menter yw CAMVA@LlandrilloMenai a ariennir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r Gwarant Pobl Ifanc.
Oes gennych chi swyddi gwag yr hoffech eu llenwi?
Hoffech chi allu cyrraedd cynulleidfa darged o filoedd o fyfyrwyr?
Felly beth am hysbysebu eich swyddi AM DDIM ar ein hysbysfwrdd.
Gall y swyddi y rhown sylw iddynt ar eich rhan gynnwys:
- Prentisiaethau
- Swyddi llawn amser
- Swyddi rhan-amser
- Contractau cyfnod penodol
I hysbysebu swydd wag, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen isod a'i hanfon i employerjobs@gllm.ac.uk