Gweinyddwr AD o fewn Gwasanaethau Pobl
Noder: Derbynnir y wybodaeth a ddangosir am bob swydd wag yn uniongyrchol gan y cyflogwr a enwir. Er ein bod ni (Grŵp Llandrillo Menai) yn gwneud pob ymdrech i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chanllawiau cydraddoldeb ac amrywiaeth, nid ydym yn gyfrifol am unrhyw wallau neu anwaith yn y geiriad a ddefnyddir.
Darparu cymorth ysgrifenyddol a gweinyddol i'r Tîm Adnoddau Dynol (AD) a Phenaethiaid Gwasanaeth Gweithlu a Datblygu Sefydliadol (WOD) gan sicrhau disgresiwn a chyfrinachedd bob amser.
Bydd yn ofynnol i ddeilydd y swydd weithredu'n effeithlon ac yn effeithiol, gan ddarparu cymorth gweinyddol ragweithiol i'r Tîm AD a chydlynu trefniadau ysgrifenyddol o ddydd i ddydd ar gyfer y Penaethiaid Gwasanaeth yn ddidrafferth.
Bydd deilydd y swydd yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer y Tîm Adnoddau Dynol a byddwch yn sgrinio galwadau gan staff y Bwrdd Iechyd, y cyhoedd ac adrannau allanol neu asiantaethau eraill, gan ymateb mewn modd doeth a chwrtais, gan flaenoriaethu materion, gwneud penderfyniadau yn ymwneud â datgelu gwybodaeth briodol a chadw at derfynau amser penodol.
Bydd deilydd y swydd yn gweithio'n agos gyda Rheolwyr AD a Swyddogion AD i sicrhau bod galwadau sy'n dod i mewn yn cael eu brysbennu'n gywir a'u cyfeirio'n briodol er mwyn rhoi ymateb o ansawdd uchel.
Bydd cyswllt a chyfathrebu â staff ysgrifenyddol a gweinyddol y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol (WOD) a staff ysgrifenyddol y Bwrdd Iechyd yn elfen allweddol o'r rôl hon. Bydd deilydd y swydd yn darparu cefnogaeth i'r Rheolwyr AD a'r Swyddogion AD i sicrhau bod systemau/prosesau cadarn yn cael eu datblygu a'u cynnal i sicrhau bod achosion cyflogaeth yn cael eu cynnal a'u rheoli'n effeithiol e.e. prosesau disgyblu, Cwyno, Bwlio ac Aflonyddu, Chwythu'r Chwiban a Gallu, gan ddefnyddio systemau electronig a phapur i sicrhau bod y wybodaeth a gedwir yn gywir, yn amserol, yn drefnus, yn hygyrch ac wedi'i storio'n gyfrinachol yn yr adran.
Sut i wneud cais
Manylion Swydd
Lleoliad
Rhyl
Sir
Sir Ddinbych
categori
Llawn Amser
Sector
Arbenigol/Arall - Specialist / Other
Dyddiad cau
02.04.25


Biwro Cyflogaeth a Menter yw CAMVA@LlandrilloMenai a ariennir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r Gwarant Pobl Ifanc.
Oes gennych chi swyddi gwag yr hoffech eu llenwi?
Hoffech chi allu cyrraedd cynulleidfa darged o filoedd o fyfyrwyr?
Felly beth am hysbysebu eich swyddi AM DDIM ar ein hysbysfwrdd.
Gall y swyddi y rhown sylw iddynt ar eich rhan gynnwys:
- Prentisiaethau
- Swyddi llawn amser
- Swyddi rhan-amser
- Contractau cyfnod penodol
I hysbysebu swydd wag, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen isod a'i hanfon i employerjobs@gllm.ac.uk