Rheolwr Adnoddau Dynol
Noder: Derbynnir y wybodaeth a ddangosir am bob swydd wag yn uniongyrchol gan y cyflogwr a enwir. Er ein bod ni (Grŵp Llandrillo Menai) yn gwneud pob ymdrech i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chanllawiau cydraddoldeb ac amrywiaeth, nid ydym yn gyfrifol am unrhyw wallau neu anwaith yn y geiriad a ddefnyddir.
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig ac egniol i ddatblygu y strategaethau pobl a’r prosesau sydd eu hangen i alluogi Grŵp Cynefin allu cyrraedd ei hamcanion corfforaethol. Byddwch yn goruchwilio holl brosesau ac ymarferion adnoddau dynol Grŵp Cynefin ac yn arwain a rheoli y Tîm Adnoddau Dynol.
Mae'r swydd hon yn gofyn am Reolwr deinamig sydd â phrofiad helaeth yn y maes Adnoddau Dynol ac ymrwymiad cryf i feithrin diwylliant gweithle cynhwysol sy'n gwerthfawrogi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI).
Rydym yn chwilio am rywun i adlewyrchu ein gwerthoedd ac sydd â’r un ysfa a ni i ddarparu gwasanaeth rhagorol i'n staff, lle mae ein tenantiaid yn greiddiol i'n gwaith.
Sut i wneud cais
ar wefan y cyflogwyr
Manylion Swydd
Lleoliad
Penygroes/Dinbych
Sir
Sir Ddinbych
categori
Llawn Amser
Sector
Arbenigol/Arall - Specialist / Other
Gwefan
https://www.grwpcynefin.org/ymunwch-ar-tim/swyddi-gwag/
Dyddiad cau
06.05.25


Biwro Cyflogaeth a Menter yw CAMVA@LlandrilloMenai a ariennir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r Gwarant Pobl Ifanc.
Oes gennych chi swyddi gwag yr hoffech eu llenwi?
Hoffech chi allu cyrraedd cynulleidfa darged o filoedd o fyfyrwyr?
Felly beth am hysbysebu eich swyddi AM DDIM ar ein hysbysfwrdd.
Gall y swyddi y rhown sylw iddynt ar eich rhan gynnwys:
- Prentisiaethau
- Swyddi llawn amser
- Swyddi rhan-amser
- Contractau cyfnod penodol
I hysbysebu swydd wag, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen isod a'i hanfon i employerjobs@gllm.ac.uk