Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Swyddog Systemau Gwybodaeth

Noder: Derbynnir y wybodaeth a ddangosir am bob swydd wag yn uniongyrchol gan y cyflogwr a enwir. Er ein bod ni (Grŵp Llandrillo Menai) yn gwneud pob ymdrech i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chanllawiau cydraddoldeb ac amrywiaeth, nid ydym yn gyfrifol am unrhyw wallau neu anwaith yn y geiriad a ddefnyddir.

Mae Grŵp Cynefin wedi bod yn darparu tai o ansawdd, sy’n ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014.

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig i sicrhau gwasanaeth cyfrifiadurol a chyfathrebu fel bo Grŵp Cynefin yn rhagori. Byddwch yn cefnogi’r Rheolwr a’r Cydlynydd Systemau Gwybodaeth a chyd-weithio gydag aelodau eraill i gyflawni nodau ac amcanion y Tîm. Byddwch yn cynorthwyo i ddatblygu a chynnal systemau gwybodaeth effeithiol ac effeithlon a chefnogi staff y Grŵp yn eu gwaith tra’n defnyddio’r systemau fel y gall y Grŵp roi'r gwasanaeth gorau i’w chwsmeriaid.

​Dylai eich gwerthoedd adlewyrchu ein gwerthoedd ni.

Os oes gennych yr ysfa a’r angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i'n dyfodol, hon yw’r swydd i chi


Sut i wneud cais

Drwy wefan y cwmni


Manylion Swydd

Lleoliad

Denbigh

Sir

Sir Ddinbych

categori

Llawn Amser

Sector

Arbenigol/Arall - Specialist / Other

Gwefan

https://www.grwpcynefin.org/ymunwch-ar-tim/swyddi-gwag/

Dyddiad cau

20.01.25

Logo Ariennir gan Lywordaeth Cymru

Biwro Cyflogaeth a Menter yw CAMVA@LlandrilloMenai a ariennir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r Gwarant Pobl Ifanc.


Oes gennych chi swyddi gwag yr hoffech eu llenwi?

Hoffech chi allu cyrraedd cynulleidfa darged o filoedd o fyfyrwyr?

Felly beth am hysbysebu eich swyddi AM DDIM ar ein hysbysfwrdd.

Gall y swyddi y rhown sylw iddynt ar eich rhan gynnwys:

  • Prentisiaethau
  • Swyddi llawn amser
  • Swyddi rhan-amser
  • Contractau cyfnod penodol

I hysbysebu swydd wag, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen isod a'i hanfon i employerjobs@gllm.ac.uk.

Ffurflen Hysbysfwrdd Swyddi