Interniaethau Dyfodol Morol Gogledd Cymru x2
Noder: Derbynnir y wybodaeth a ddangosir am bob swydd wag yn uniongyrchol gan y cyflogwr a enwir. Er ein bod ni (Grŵp Llandrillo Menai) yn gwneud pob ymdrech i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chanllawiau cydraddoldeb ac amrywiaeth, nid ydym yn gyfrifol am unrhyw wallau neu anwaith yn y geiriad a ddefnyddir.
Cyflog: £12.60 yr awr (Cyflog Byw Gwirioneddol) gyda 6% o Gyfraniad Pensiwn y Cyflogwr
Oriau Gwaith: Llawn Amser (35 awr yr wythnos) yn y cyfnod 23 Mehefin - 23 Rhagfyr 2025
Lleoliad: Bydd y ddwy Interniaeth wedi’u lleoli yn bennaf ym Mhencadlys YNGC ym Mangor gyda chymysgedd o
waith maes ar draws gogledd Cymru a rhywfaint o deithio i Lundain a Chaerdydd.
Mae’r rhaglen Interniaeth Dyfodol Morol yn cynnig cyfle unigryw i ymgeiswyr sydd â diddordeb mewn gyrfa yn yr amgylchedd morol ddysgu sgiliau, gwybodaeth a phrofiad ar draws amrywiaeth o sectorau morol, gan helpu fel sail i lunio cyfleoedd gyrfaol yn y dyfodol.
Cyllidir y Rhaglen gan Ystad y Goron ac mae’n cael ei rheoli gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru a'i gweithredu mewn partneriaeth â Ystad y Goron, M-SParc, Menter Môn a Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Mae pob sefydliad partner yn darparu cyfleoedd i’r intern ddatblygu sgiliau yn y gwaith mewn meysydd arbenigol, gan gynnwys cyngor cadwraeth forol, pysgodfeydd cynaliadwy, datblygu ynni adnewyddadwy, polisi morol, ac ymgysylltu â chymunedau. Drwy’r rhaglen bydd yr intern yn cael cynnig profiad a golwg gytbwys ar yrfa yn yr amgylchedd morol a sut gall gwahanol sectorau gydweithio. Bydd yr intern yn cael cyfle i ymgymryd â phrosiect ymchwil annibynnol yn canolbwyntio ar bwnc sy'n berthnasol i bob partner. Bydd gweithgareddau ychwanegol yn cynnwys ymgysylltu â rhanddeiliaid, creu deunyddiau allgymorth addysgol rhithwir a gwaith maes ecolegol.
Mae’n hanfodol bod gan yr ymgeiswyr llwyddiannus ddealltwriaeth o ddiwylliant Cymru a’r iaith Gymraeg, gyda’r gallu i weithio o fewn tîm dwyieithog ac yn ymrwymo i ddysgu’r iaith os nad ydynt yn medru'r Gymraeg.
Dyddiad cau: 11 Ebrill 2025 am hanner dydd
Cyfweliadau i'w cynnal: 28 Ebrill 2025
Sut i wneud cais
Lawrlwythwch a chwblhewch y Ffurflen Gais am Swydd a'i anfon i marinefutures@cumbriawildlifetrust.org.uk
Manylion Swydd
Lleoliad
Bangor
Sir
Gwynedd
categori
Cytundeb Cyfnod Penodedig
Sector
Arbenigol/Arall - Specialist / Other
Gwefan
https://www.northwaleswildlifetrust.org.uk/cy/jobs
Dyddiad cau
11.04.25


Biwro Cyflogaeth a Menter yw CAMVA@LlandrilloMenai a ariennir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r Gwarant Pobl Ifanc.
Oes gennych chi swyddi gwag yr hoffech eu llenwi?
Hoffech chi allu cyrraedd cynulleidfa darged o filoedd o fyfyrwyr?
Felly beth am hysbysebu eich swyddi AM DDIM ar ein hysbysfwrdd.
Gall y swyddi y rhown sylw iddynt ar eich rhan gynnwys:
- Prentisiaethau
- Swyddi llawn amser
- Swyddi rhan-amser
- Contractau cyfnod penodol
I hysbysebu swydd wag, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen isod a'i hanfon i employerjobs@gllm.ac.uk