Uwch Drydanwr Gweithredol a Chynnal a Chadw
Noder: Derbynnir y wybodaeth a ddangosir am bob swydd wag yn uniongyrchol gan y cyflogwr a enwir. Er ein bod ni (Grŵp Llandrillo Menai) yn gwneud pob ymdrech i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chanllawiau cydraddoldeb ac amrywiaeth, nid ydym yn gyfrifol am unrhyw wallau neu anwaith yn y geiriad a ddefnyddir.
Wedi'i sefydlu ym 1997, mae GRUPOTEC wedi esblygu i fod yn gwmni peirianneg a phensaernïaeth amlddisgyblaethol a
rhyngwladol mawr, ac yn arweinydd yn y sector ynni ffotofoltäig.
Rydym yn chwilio am Uwch Drydanwr Gweithredol a Chynnal a Chadw i ymuno â’n prosiectau ffotofoltäig a systemau
storio ynni mewn batris (BESS) yn Ynys Môn ar hyn o bryd.
Bydd rhai o’r prif GYFRIFOLDEBAU yn cynnwys:
• Cyflawni gwaith cynnal a chadw ataliol a glanhau'r paneli ffotofoltäig yn unol â'r Llawlyfr Gweithrediadau a Chynnal
a Chadw, gan gynnwys modiwlau ffotofoltäig, strwythurau mowntio, tracwyr, blychau cyfuno llinynnol (foltedd
isel), ceblau, gwrthdroyddion, offer mesur a systemau cyfathrebu, gan ddefnyddio offer llaw, offer mesur, camerâu
delweddu thermol, ac ati.
• Nodi a thrwsio mân ddiffygion mewn systemau foltedd isel, modiwlau ffotofoltäig, tracwyr, ceblau ac ati, gan
gyflawni mân dasgau cynnal a chadw.
• Cynnal archwiliadau gweledol cydrannau'r system, gan nodi namau a diffygion a hysbysu'r rheolwyr am y
canfyddiadau.
• Cynnal ac archwilio cydrannau ac offer trydanol, gan gynnwys gwrthdroyddion, paneli dosbarthu, paneli
cyfathrebu, a phaneli amddiffyn DC / AC, yn unol â llawlyfrau ac amserlenni cynnal a chadw.
• Archwilio a thrwsio gwifrau, cysylltwyr, terfynellau a chydrannau cysylltiedig.
• Cwblhau archebion gwaith, llenwi cofnodion presenoldeb a chadw dogfennaeth ddigidol yn unol â gweithdrefnau
sefydledig.
Y PROFFIL SY'N OFYNNOL:
• Hyfforddiant yn y maes trydanol neu yn y maes ynni adnewyddadwy.
• BS 7671:2018 (18fed Argraffiad)
• Cerdyn JIB Aur neu achrediad cyfatebol.
• Hyfforddiant fel Person Awdurdodedig Foltedd Uchel yn werthfawr ac yn ddymunol.
• Hyfforddiant iechyd a diogelwch (Cymorth Cyntaf + cerdyn EMSS neu gerdyn CCNSG neu CSCS neu SMSTS).
• O leiaf blwyddyn o brofiad blaenorol mewn prosiectau ffotofoltäig / systemau storio ynni mewn batris gan
gyflawni'r swyddogaethau a ddisgrifiwyd (profiad a werthfawrogir).
• Gwybodaeth am offer a pheiriannau, technolegau, pensaernïaeth cyfathrebu a synwyryddion ffotofoltäig a
systemau storio ynni mewn batris
Sut i wneud cais
Os hoffech wneud cais am y swydd, anfonwch eich CV i'r cyfeiriad e-bost
canlynol: abella@grupotec.es
Byddem yn falch iawn o'ch cyfarfod chi a thrafod rhagor o fanylion gyda chi.
Manylion Swydd
Lleoliad
Anglesey
Sir
Ynys Môn
categori
Llawn Amser
Sector
Diwydiannau'r Tir / Land Based
Dyddiad cau
01.06.25


Biwro Cyflogaeth a Menter yw CAMVA@LlandrilloMenai a ariennir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r Gwarant Pobl Ifanc.
Oes gennych chi swyddi gwag yr hoffech eu llenwi?
Hoffech chi allu cyrraedd cynulleidfa darged o filoedd o fyfyrwyr?
Felly beth am hysbysebu eich swyddi AM DDIM ar ein hysbysfwrdd.
Gall y swyddi y rhown sylw iddynt ar eich rhan gynnwys:
- Prentisiaethau
- Swyddi llawn amser
- Swyddi rhan-amser
- Contractau cyfnod penodol
I hysbysebu swydd wag, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen isod a'i hanfon i employerjobs@gllm.ac.uk