Gweithiwr Chwarae
Noder: Derbynnir y wybodaeth a ddangosir am bob swydd wag yn uniongyrchol gan y cyflogwr a enwir. Er ein bod ni (Grŵp Llandrillo Menai) yn gwneud pob ymdrech i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chanllawiau cydraddoldeb ac amrywiaeth, nid ydym yn gyfrifol am unrhyw wallau neu anwaith yn y geiriad a ddefnyddir.
Cymwysterau/profiad gofynnol: Dylai'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar gymhwyster gwaith chwarae Lefel 2/3, neu fod yn barod i weithio tuag ato. Mae angen gwiriad manwl gan y gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer y swydd.
Disgrifiad o'r dyletswyddau: Cynorthwyo Rheolwr y Clwb gyda'r gwaith o redeg y clwb ar ôl ysgol/clwb gwyliau a chynnig amgylchedd chwarae diogel ac ysgogol i'r plant sy'n mynychu'r clwb. Gweithio yn unol â'r safonau a osodir ym mholisïau a gweithdrefnau Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) a Playworks Childcare.
Mae rôl Gweithiwr Chwarae yn cynnwys -
- Cynorthwyo gyda gwaith y clwb o ddydd i ddydd, paratoi'r clwb cyn sesiynau a glanhau ar eu diwedd.
- Gweithio mewn partneriaeth â'r rhieni a Rheolwr y Clwb i gynllunio ar gyfer anghenion a dewisiadau'r plant.
- Cynnig cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau chwarae a dysgu sy'n annog datblygiad ym mhob maes.
- Sicrhau bod awyrgylch croesawgar a chyfeillgar yn y clwb gan ystyried pob mater iechyd a diogelwch.
- Cynnig byrbrydau iach a maethlon i'r plant.
- Sicrhau bod polisïau Playworks Childcare yn cael eu dilyn bob amser.
Sut i wneud cais
Anfon neges e-bost a CV at lyrd5@hwbcymru.net Neu anfonwch at
Llandrillo yn Rhos Daycare,
Elwy Road,
Conwy.
LL28 4LX
Manylion Swydd
Lleoliad
Llandrillo-yn-Rhos
Sir
Conwy
categori
Rhan Amser
Sector
Sector Gofal / Care Sector
Dyddiad cau
31.01.25
Biwro Cyflogaeth a Menter yw CAMVA@LlandrilloMenai a ariennir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r Gwarant Pobl Ifanc.
Oes gennych chi swyddi gwag yr hoffech eu llenwi?
Hoffech chi allu cyrraedd cynulleidfa darged o filoedd o fyfyrwyr?
Felly beth am hysbysebu eich swyddi AM DDIM ar ein hysbysfwrdd.
Gall y swyddi y rhown sylw iddynt ar eich rhan gynnwys:
- Prentisiaethau
- Swyddi llawn amser
- Swyddi rhan-amser
- Contractau cyfnod penodol
I hysbysebu swydd wag, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen isod a'i hanfon i employerjobs@gllm.ac.uk