Cynorthwydd Arlwyo Tymhorol
Noder: Derbynnir y wybodaeth a ddangosir am bob swydd wag yn uniongyrchol gan y cyflogwr a enwir. Er ein bod ni (Grŵp Llandrillo Menai) yn gwneud pob ymdrech i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chanllawiau cydraddoldeb ac amrywiaeth, nid ydym yn gyfrifol am unrhyw wallau neu anwaith yn y geiriad a ddefnyddir.
Rydym ar hyn o bryd yn chwilio am Gynorthwyydd Arlwyo i ymuno â ein tîm yma yng Nghaffi y Pwll Trai (Rockpool) yn Sŵ Môr Môn. Rydym yn chwilio am rhywun sydd gyda agwedd gyfeillgar a hyblyg, a all weithio mewn tîm, addasu i newidiadau yn unol â galw cwsmeriaid a fyddd yn gallu helpu i hyrwyddo awyrgylch cynnes a chroesawgar.
Mae profiad o gegin/Caffi prysur a gwasanaeth cwsmeriaid yn ddymunol, er y bydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu.
Byddai'r swydd hon yn addas ar gyfer person sydd ag angerdd am fwyd neu rhywun sy'n gogydd cartref brwdfrydig gyda dealltwriaeth dda o hylendid bwyd.
Mae ardystiad hylendid bwyd yn well na ddim ond nid yw'n hanfodol.
Bydd disgwyl i chi baratoi bwyd ffres syml, gan gynnwys prydau poeth ac oer, a gweini cacennau wedi'u coginio yn barod, cynnwys crwst a diodydd ymlaen llaw a chynnal safonau glanweithdra a hylendid bwyd gorau posibl.
Mi fyddwch yn gallu cynorthwyo i drefnu archebu stoc a gwnued thasgau eraill sydd eu angen i rhedeg cegin brysur. Bydd y dyletswyddau hyn yn cael eu drafod yn y cyfweliad.
Yr oriau yw 4-5 diwrnod yr wythnos o 9:00 - 17:00 tan mis Medi. Fydd yno ddim sifftiau hollt a fydd yn disgwyl rhywfaint o hyblygrwydd gydag oriau gwaith o gwmpas amseroedd craidd ac o gwmpas gweithwyr tymhorol eraill. Mae disgwyl rhywfaint o weithio ar benwythnosau ac ar wyliau banc.
Bydd cyfradd talu fesul awr gyda buddion yn cael ei drafod yn dibynnu ar brofiad, cyfrifoldebau ac argaeledd.
Sut i wneud cais
Gyrrwch e-bost i frankie@angleseyseazoo.co.uk
Manylion Swydd
Lleoliad
Brynsiencyn, LLanfairpwll
Sir
Ynys Môn
categori
Cytundeb Cyfnod Penodedig
Sector
Lletygarwch ac Arlwyo / Hospitality & Catering
Gwefan
http://www.angleseyseazoo.co.uk
Dyddiad cau
30.04.25


Biwro Cyflogaeth a Menter yw CAMVA@LlandrilloMenai a ariennir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r Gwarant Pobl Ifanc.
Oes gennych chi swyddi gwag yr hoffech eu llenwi?
Hoffech chi allu cyrraedd cynulleidfa darged o filoedd o fyfyrwyr?
Felly beth am hysbysebu eich swyddi AM DDIM ar ein hysbysfwrdd.
Gall y swyddi y rhown sylw iddynt ar eich rhan gynnwys:
- Prentisiaethau
- Swyddi llawn amser
- Swyddi rhan-amser
- Contractau cyfnod penodol
I hysbysebu swydd wag, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen isod a'i hanfon i employerjobs@gllm.ac.uk