Staff Swyddfa Tymhorol
Noder: Derbynnir y wybodaeth a ddangosir am bob swydd wag yn uniongyrchol gan y cyflogwr a enwir. Er ein bod ni (Grŵp Llandrillo Menai) yn gwneud pob ymdrech i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chanllawiau cydraddoldeb ac amrywiaeth, nid ydym yn gyfrifol am unrhyw wallau neu anwaith yn y geiriad a ddefnyddir.
Rydym yn chwilio am unigolyn arbennig i ymuno â’n tîm ar Gytundeb Dros Dro, am ddau fis; mis Gorffennaf ac Awst.
Mae Cymdeithas Amaethyddol Sir Ddinbych a Sir y Fflint yn gweithio tuag at ei 161ain Sioe. Fel elusen gofrestredig, ein nod craidd yw hyrwyddo amaethyddiaeth gynaliadwy, garddwriaeth, cadwraeth a’r amgylchedd yng Nghymru.
Dylai’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn canolbwyntio’n llawn ar y cwsmer, fod a chefndir gweinyddol cryf, bod â llygad craff am fanylion a meddu ar sgiliau aml-dasgio gwych.
Pwrpas y swydd:
Bydd Deiliad y Swydd yn gweithio i Gydlynydd y Sioe ac yn ymgymryd â dyletswyddau gweinyddol angenrheidiol i sicrhau bod Cymdeithas Amaethyddol Siroedd Dinbych a Fflint yn rhedeg yn effeithiol. Rydym yn chwilio am rywun sydd â sgiliau cyfryngau cymdeithasol da a lefel uchel o lythrennedd cyfrifiadurol.
Amcanion Allweddol:
- Mae gwaith yn ymwneud â phrosesu ceisiadau arddangoswyr ar gyfer Sioe'r Sir.
- Gweithio gydag aelodau'r pwyllgor i hyrwyddo'r Sioe er mwyn cynyddu presenoldeb
- Cynorthwyo Cydlynydd y Sioe gyda gweithgareddau yn arwain at ddiwrnod y Sioe
- Cynhyrchu cyhoeddiadau’r Gymdeithas
- Cynorthwyo gyda rheoli aelodaeth o'r Gymdeithas
- Cysylltu a chydlynu gyda chadeiryddion pwyllgorau'r Sioe
- Datblygu a chynnal gwefan y Gymdeithas a phresenoldeb cyfryngau cymdeithasol ar-lein
- Cadw cofnodion a dogfennaeth y Gymdeithas
- Gweithredu fel y prif gyswllt ar gyfer Cymdeithas Amaethyddol Siroedd Dinbych a Fflint a'i Sioe Sirol.
Sut i wneud cais
I wneud cais am y rôl hon, anfonwch CV, llythyr eglurhaol a dogfen gefnogi dim mwy na dwy dudalen A4 yn nodi pam y byddech yn addas ar gyfer y rôl at Clwyd Spencer, clwyd.maesygroes@outlook.com, erbyn 14eg Mai.
Manylion Swydd
Lleoliad
Llandyrnog
Sir
Sir Ddinbych
categori
Cytundeb Cyfnod Penodedig
Sector
Arbenigol/Arall - Specialist / Other
Dyddiad cau
14.05.25


Biwro Cyflogaeth a Menter yw CAMVA@LlandrilloMenai a ariennir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r Gwarant Pobl Ifanc.
Oes gennych chi swyddi gwag yr hoffech eu llenwi?
Hoffech chi allu cyrraedd cynulleidfa darged o filoedd o fyfyrwyr?
Felly beth am hysbysebu eich swyddi AM DDIM ar ein hysbysfwrdd.
Gall y swyddi y rhown sylw iddynt ar eich rhan gynnwys:
- Prentisiaethau
- Swyddi llawn amser
- Swyddi rhan-amser
- Contractau cyfnod penodol
I hysbysebu swydd wag, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen isod a'i hanfon i employerjobs@gllm.ac.uk