Uwch Swyddog Adnoddau Dynol
Noder: Derbynnir y wybodaeth a ddangosir am bob swydd wag yn uniongyrchol gan y cyflogwr a enwir. Er ein bod ni (Grŵp Llandrillo Menai) yn gwneud pob ymdrech i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chanllawiau cydraddoldeb ac amrywiaeth, nid ydym yn gyfrifol am unrhyw wallau neu anwaith yn y geiriad a ddefnyddir.
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig ac egniol i ddarparu gwasanaeth adnoddau dynol effeithiol drwy roi cyngor a chefnogaeth i’r rheolwyr a’r staff. Byddwch yn cynorthwyo’r Rheolwr a’r Cydlynydd i roi cyngor ac arweiniad i’r Tîm Arweinyddiaeth a Rheolwyr eraill ar strategaethau a materion adnoddau dynol, fel y gall y grŵp gyflawni ei nodau a’i amcanion. Byddwch yn gweithio'n rhagweithiol i sicrhau bod y grŵp yn cydymffurfio a deddfau cyflogaeth ac annog ymarfer da gan arwain ar holl brosesau Adnoddau Dynol Grŵp Cynefin.
Rydym yn chwilio am rywun i adlewyrchu ein gwerthoedd ac sydd â’r un ysfa a ni i ddarparu gwasanaeth rhagorol i'n staff, lle mae ein tenantiaid yn greiddiol i'n gwaith.
Sut i wneud cais
Ar wefan y cyflogwyr
Manylion Swydd
Lleoliad
Penygroes
Sir
Gwynedd
categori
Llawn Amser
Sector
Arbenigol/Arall - Specialist / Other
Gwefan
https://www.grwpcynefin.org/ymunwch-ar-tim/swyddi-gwag/
Dyddiad cau
06.05.25


Biwro Cyflogaeth a Menter yw CAMVA@LlandrilloMenai a ariennir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r Gwarant Pobl Ifanc.
Oes gennych chi swyddi gwag yr hoffech eu llenwi?
Hoffech chi allu cyrraedd cynulleidfa darged o filoedd o fyfyrwyr?
Felly beth am hysbysebu eich swyddi AM DDIM ar ein hysbysfwrdd.
Gall y swyddi y rhown sylw iddynt ar eich rhan gynnwys:
- Prentisiaethau
- Swyddi llawn amser
- Swyddi rhan-amser
- Contractau cyfnod penodol
I hysbysebu swydd wag, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen isod a'i hanfon i employerjobs@gllm.ac.uk