Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cynllunydd Cynhyrchu a'r Gadwyn Gyflenwi

Noder: Derbynnir y wybodaeth a ddangosir am bob swydd wag yn uniongyrchol gan y cyflogwr a enwir. Er ein bod ni (Grŵp Llandrillo Menai) yn gwneud pob ymdrech i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chanllawiau cydraddoldeb ac amrywiaeth, nid ydym yn gyfrifol am unrhyw wallau neu anwaith yn y geiriad a ddefnyddir.

Rydym ni'n chwilio am Gynllunydd Cynhyrchu a'r Gadwyn Gyflenwi i ymuno â'n Tîm. Mae hon yn swydd gyffrous gyda llawer o gyfle i ddysgu, tyfu a datblygu eich gyrfa!

Mae International Safety Components (ISC) yn ddarparwr blaenllaw offer diogelwch gweithio ar uchder ledled y byd. Rydym ni'n dylunio ac yn cynhyrchu offer ar gyfer amrywiaeth o ddiwydiannau gan gynnwys arbenigwyr trin coed, timau sy'n sicrhau mynediad â rhaffau ac achub â rhaffau, a pharciau antur.

Elfennau allweddol i'n llwyddiant yw gwerthoedd a diwylliant ein cwmni. Fel cwmni annibynnol, sy'n canolbwyntio ar y tîm, rydym yn gofalu am bobl - o'n gweithwyr, i'n partneriaid, i'n cwsmeriaid. Rydym yn trin gweithio ar uchder fel cymuned - nid ydym am gyflenwi cynhyrchion yn unig, rydym am ymgysylltu a thrafod â'n defnyddwyr a diwallu eu hanghenion.

Bydd y Cynllunydd Cynhyrchu a'r Gadwyn Gyflenwi yn gyfrifol am gynllunio, amserlennu, a chydlynu gweithgareddau gweithgynhyrchu'r ffatri ar draws adrannau lluosog (prosesau yn amrywio o weithio haearn, stampio, gorffeniad siglo, defnyddio peiriannau CNC (Rheoli Rhifyddol Cyfrifiadurol), gwnïo, cydosod terfynol a danfon) a bydd hefyd yn gyfrifol am brynu i gefnogi gweithgynhyrchu a'r sefydliad ehangach, a rheoli'r rhestr eiddo i gyflawni targedau strategol.

Gallwn roi hyfforddiant i chi fel bo gennych chi'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch i lwyddo fel Cynllunydd Cynhyrchu a'r Gadwyn Gyflenwi. Rydym ni'n chwilio am ymgeiswyr sy'n gallu dangos agwedd dda tuag at waith, sy'n hyblyg ac yn gallu gweithio fel rhan o dîm sy'n awyddus i gefnogi ein busnes.

Mae manylion llawn y swydd i'w gweld ar ein tudalen gyrfaoedd www.iscwales.com/About-ISC/Careers/


Sut i wneud cais

I wneud cais, anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol i recruitment@iscwales.com


Manylion Swydd

Lleoliad

Bangor

Sir

Gwynedd

categori

Llawn Amser

Sector

Arbenigol/Arall - Specialist / Other

Gwefan

https://www.iscwales.com/About-ISC/Careers/

Dyddiad cau

30.11.24

Logo Ariennir gan Lywordaeth Cymru

Biwro Cyflogaeth a Menter yw CAMVA@LlandrilloMenai a ariennir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r Gwarant Pobl Ifanc.


Oes gennych chi swyddi gwag yr hoffech eu llenwi?

Hoffech chi allu cyrraedd cynulleidfa darged o filoedd o fyfyrwyr?

Felly beth am hysbysebu eich swyddi AM DDIM ar ein hysbysfwrdd.

Gall y swyddi y rhown sylw iddynt ar eich rhan gynnwys:

  • Prentisiaethau
  • Swyddi llawn amser
  • Swyddi rhan-amser
  • Contractau cyfnod penodol

I hysbysebu swydd wag, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen isod a'i hanfon i employerjobs@gllm.ac.uk.

Ffurflen Hysbysfwrdd Swyddi