Cyfieithydd
Noder: Derbynnir y wybodaeth a ddangosir am bob swydd wag yn uniongyrchol gan y cyflogwr a enwir. Er ein bod ni (Grŵp Llandrillo Menai) yn gwneud pob ymdrech i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chanllawiau cydraddoldeb ac amrywiaeth, nid ydym yn gyfrifol am unrhyw wallau neu anwaith yn y geiriad a ddefnyddir.
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a chryf ei gymhelliad i ymuno â’n tîm yng Nghaerdydd neu Borthmadog.
Dyma gyfle i ddefnyddio’ch sgiliau a’ch profiad i gynhyrchu cyfieithiadau o’r radd flaenaf i CThEF.
- Bydd gennych sgiliau iaith rhagorol (Cymraeg a Saesneg), a naill ai gradd yn y
Gymraeg, cymhwyster Cymraeg cyfatebol neu brofiad o gyfieithu i’r Gymraeg. - Dylech hefyd feddu ar brofiad o brosesau, meddalwedd ac adnoddau cyfieithu
Cymraeg, a gallu cynhyrchu a phrawf-ddarllen cyfieithiadau i safon uchel. - Cewch gyfle i ddefnyddio pecynnau meddalwedd modern i gyfieithu dogfennau ac i
fod yn rhan o brosiectau cyfieithu allweddol. - Bydd cyfle hefyd i drafod terminoleg ac arddull ysgrifennu newydd a phenderfynu arnyn nhw.
- Cyflog - £29,475 - £31,536
Hoffech chi glywed gan y tîm? Hoffech chi ddysgu sut i gyflwyno ffurflen gais addas?
Rydym yn cynnal gweminar rithwir ar ddydd Mercher 8 Ionawr, o 11 o’r gloch y bore tan 12 hanner dydd.
Dewch i gael clywed gan y tîm am y swydd, a gan y tîm recriwtio am sut i wneud cais.
Ni fydd y cyfarfod yn cael ei recordio, a bydd angen i chi gofrestru er mwyn cael gwahoddiad. Gallwch gofrestru drwy anfon e-bost i fewnflwch y tîm: trainingwelshlanguage@hmrc.gov.uk
Plîs rhowch “Gweminar Swydd Cyfieithydd” yn y llinell pwnc. Mae gennych tan 7 Ionawr i wneud hyn. Byddwch yn cael e-bost mewn da bryd a fydd yn cynnwys gwahoddiad Teams i’r weminar.
Sut i wneud cais
I gael gwybodaeth am y buddion a sut i wneud cais, chwiliwch am swydd rhif 382323 ar borth Swyddi’r Gwasanaeth Sifil drwy fynd i www.civilservicejobs.service.gov.uk
Fel arall, cysylltwch â gareth.w.williams@hmrc.gov.uk ar 07796 566525.
Manylion Swydd
Lleoliad
Porthmadog / Cardiff
Sir
Arall
categori
Llawn Amser
Sector
Arbenigol/Arall - Specialist / Other
Gwefan
https://www.civilservicejobs.service.gov.uk
Dyddiad cau
21.01.25
Biwro Cyflogaeth a Menter yw CAMVA@LlandrilloMenai a ariennir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r Gwarant Pobl Ifanc.
Oes gennych chi swyddi gwag yr hoffech eu llenwi?
Hoffech chi allu cyrraedd cynulleidfa darged o filoedd o fyfyrwyr?
Felly beth am hysbysebu eich swyddi AM DDIM ar ein hysbysfwrdd.
Gall y swyddi y rhown sylw iddynt ar eich rhan gynnwys:
- Prentisiaethau
- Swyddi llawn amser
- Swyddi rhan-amser
- Contractau cyfnod penodol
I hysbysebu swydd wag, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen isod a'i hanfon i employerjobs@gllm.ac.uk.