Canolfan Beirianneg - Coleg Llandrillo
Mae Canolfan Beirianneg y Rhyl yn gyfleuster tri llawr o’r radd flaenaf sy’n ymestyn dros 3000m² ac yn cynnwys gwerth dros £2m o’r offer hyfforddi arbenigol diweddaraf.
O roboteg a pheiriannau prototeipio cyflym i beiriannau torri metel diwydiannol mawr a reolir gan gyfrifiaduron, mae’r ganolfan wedi’i chynllunio i ddarparu profiadau dysgu na ellir eu curo.
Yn ddi-os, mae Canolfan Beirianneg Coleg Llandrillo yn ganolfan ragoriaeth benigamp sy’n cynnig i ddysgwyr yr offer diweddaraf ac uchaf ei safon yng Nghymru a’r cyfle i feithrin sgiliau a fydd yn bodloni gofynion y sector Beirianneg.
Bwriad y datblygiad, a ariennir ar y cyd gan ‘Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy’ Lywodraeth Cymru a Grŵp Llandrillo Menai, yw rhoi i drigolion yr ardal y sgiliau sydd eu hangen arnynt i gael gyrfaoedd llewyrchus ym maes peirianneg, ac mae hyn yn cynnwys y diwydiant ynni adnewyddadwy.
Elfen allweddol o’r datblygiad trawsnewidiol hwn yw’r cyfleuster hyfforddi ym maes technoleg ynni adnewyddadwy, sy’n bartneriaeth ar y cyd â RWE Renewables, cwmni rhyngwladol sy’n adnabyddus am reoli nifer o safleoedd ynni adnewyddadwy ledled y DU. Nodwedd amlwg o’r ganolfan fydd neuadd i wasanaethu a chynnal a chadw tyrbinau gwynt ar raddfa ddiwydiannol, sy’n brawf o’r ymrwymiad i arloesi a hyrwyddo addysg ym maes ynni adnewyddadwy.I ddysgu rhagor am yr amrywiaeth eang o gyrsiau peirianneg sydd ar gael yng Ngholeg Llandrillo a sut i wneud cais, ewch i www.gllm.ac.uk/engineering
Labordy Electroneg
Yn ein Labordy Electroneg gall hyd at 18 myfyriwr ddylunio, efelychu, adeiladu, dilysu a phrofi prototeipiau o gylchedau electronig cyn eu bod yn cael eu cynhyrchu ar fyrddau cylched printiedig. Yn y labordy hefyd ceir system echdynnu i gael gwared yn effeithlon ar yr holl fygdarthau a ryddheir yn ystod y broses sodro.
Ystafelloedd CAD/CAM
Ystafelloedd Dylunio gyda Chymorth Cyfrifiadur a Gweithgynhyrchu gyda Chymorth Cyfrifiadur lle gall hyd at 24 o fyfyrwyr weithio ar gyfrifiaduron cyflym i greu modelau 3D o gydrannau peirianneg i’w gweithgynhyrchu. Mae’r feddalwedd ddiweddaraf ar gael i’r myfyrwyr allu troi eu dyluniadau’n gyflym yn rhaglenni cyfrifiadurol i’w rhedeg ar beiriannau CNC.
Gweithdy Peiriannau
Mae’r 10 turn a’r 5 peiriant melino newydd yn ein Gweithdy Peiriannu yn rhoi cyfle i’r myfyrwyr feithrin y sgiliau gwaith llaw sydd eu hangen i durnio a melino metelau amrywiol. Mae myfyrwyr yn datblygu’r arferion gorau wrth ddefnyddio’r peiriannau, gan gynnwys ymwybyddiaeth o iechyd a diogelwch a phwysigrwydd offer diogelu personol.
Gweithdy CNC
Yn y gweithdy Rheolaeth Rifol Gyfrifiadurol bydd y myfyrwyr yn rhedeg eu rhaglenni cyfrifiadurol eu hunain ar beiriannau CNC sydd o’r un safon ag a geir mewn diwydiant. Mae’r myfyrwyr yn dysgu am raglennu cyfnewidiadol, gan gynnwys prosesau peiriannu 2D a 3D. Yn ogystal, gallant wirio cywirdeb a goddefiannau’r cydrannau y maent wedi’u peiriannu ar beiriant mesur cyfesurynnau.
Gweithdai a Labordai Peirianneg
Mae’r Gweithdai a’r Labordai Peirianneg wedi’u cynllunio i roi cyfle i’r myfyrwyr ddysgu gydag offer modern o’r un safon ag a geir mewn diwydiant a phrofi amgylchedd gwaith go iawn mewn modd diogel. Mae’r Ganolfan Beirianneg yn cynnwys:
- Labordy Electroneg
- Labordy Gwyddoniaeth Fecanyddol
- Labordy Roboteg
- Labordy Prototeipio Cyflym
- Diwydiant 4.0 a Realiti Rhithwir
- Gweithdy Tyrbinau Gwynt
- Gweithdy Gosod Meinciau
- Gweithdy Peiriannu
- Gweithdy CNC
- Ystafelloedd CAD/CAM
Mae myfyrwyr galwedigaethol yn treulio cyfran uchel o’u hamser yn y gweithdai a’r labordai, gan ddod yn gyfarwydd ag amgylchedd diwydiannol, termau peirianneg, pwysigrwydd iechyd a diogelwch ac wrth gwrs feithrin gwybodaeth a sgiliau galwedigaethol ym maes peirianneg. Mae’r holl weithdai’n cynnwys sgriniau cyffwrdd 86” i’r staff gyflwyno theori ochr yn ochr â sesiynau ymarferol. Yn y Ganolfan Beirianneg hefyd ceir saith ystafell ddosbarth ychwanegol ar gyfer rhoi gwersi traddodiadol, ac ym mhob un mae un prif gyfrifiadur, sgrin gyffwrdd 86” a 24 Chromebook.