Menter
Crynodeb Blynyddol ar gyfer Grŵp Llandrillo Menai
Yn fyr, ein huchelgais gyffredinol ar gyfer Entrepreneuriaeth yn GLLM yw:
Rhoi cyfle i bob dysgwr gymryd rhan mewn gweithgareddau entrepreneuraidd, gan gefnogi’r rhai hynny sydd ag uchelgeisiau penodol i ddechrau busnes a datblygu, eu helpu i fynd yn eu blaenau drwy’r ecosystem fenter ranbarthol a helpu i gynyddu nifer y busnesau newydd ledled Gogledd Cymru.
Wel pwy fyddai wedi meddwl y byddai 2020 yn troi allan i fod mor wahanol i bob blwyddyn arall mewn cof. Dechreuodd GLLM y flwyddyn yn llawn brwdfrydedd gyda lawnsiad ein hwb AU yn Nolgellau ac roedd cynlluniau ar waith ar gyfer ystod o weithgareddau ar hyd a lled pob safle. Fodd bynnag, wrth gloi, daeth newidiadau mawr i'n bywydau i gyd ac roedd angen ail-feddwl yn gyflym i ymgysylltu a chefnogi ein entrepreneuriaid ifanc. Isod mae ein hadroddiad blynyddol ar gyfer 2020 yn ddogfen ddiddorol iawn ac mae'n adroddiad o falchder aruthrol i ni fel tim wrth ini adlewyrchu ar y lefel o weithgaredd a gymerodd lle mewn amgylchiadau nas gwelwyd yn flaenrorol.
Mae GLLM yn ffodus bod ganddo Hyrwyddwyr Menter hynod wybodus a phrofiadol sy’n gyfrifol am gydlynu a chyflwyno digwyddiadau, trefnu gweithgareddau a monitro ym mhob un o’r 9 campws. Caiff y tîm ei arwain gan Karen Aerts, sy’n rhedeg ei busnes cwnsela ei hun, ac un o’r meysydd y mae’n arbenigo ynddynt yw gweithdai hyder a gwytnwch. Ym mis Medi 2020 ymunodd Shoned Owen â ni gyda chyfrifoldeb am safleoedd Coleg Menai a Choleg Meirion Dwyfor a dod â set o sgiliau unigryw gyda hi o redeg ei busnes llwyddiannus ei hun gyda ffocws ar gyfryngau cymdeithasol. Mae'r tîm yn parhau i gael ei gryfhau gan Stephanie Harding, darlithydd Busnes sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am hyrwyddo menter i'n myfyrwyr AU.
Nodau Menter GLLM
- Sicrhau bod pob dysgwr yn cael mynediad at addysg a gweithgareddau Menter fel rhan o’u cwricwlwm er mwyn gwella eu rhagolygon gwaith ac elwa o economi wybodaeth sy’n tyfu
- Ymgysylltu â thua 4000 o ddysgwyr bob blwyddyn (ar wahân i 2020) o ganlyniad i sefydlu Menter ac Entrepreneuriaeth mewn cyrsiau amser llawn
- Grymuso staff dysgu ac addysgu i sefydlu ethos entrepreneuraidd yn eu cwricwlwm penodol
- Gweithredu a meddwl mewn ffyrdd arloesol a mentrus er mwyn sicrhau bod y Grŵp yn cyflawni ar y lefel uchaf
- Canfod, creu a chynllunio ar gyfer cyfleoedd newydd yn gysylltiedig â’n blaenoriaethau sector rhanbarthol a gwybodaeth am y farchnad leol
- Gweld addysg menter fel proses ddysgu gydol oes
- Cynyddu ein capasiti drwy ddefnyddio partneriaid allanol ac adnoddau rhanddeiliaid
- Fel rhan o weithgareddau Creu Sbarc, annog dysgwyr i gofrestru ac ymgysylltu er mwyn helpu i adeiladu a chysylltu â’r gymuned entrepreneuraidd yng Nghymru.
2020 | Myfyrwyr |
---|---|
Ymgysylltu (gweithgareddau codi ymwybyddiaeth o entrepreneuriaeth) | 1285 |
Grymuso (Myfyrwyr yn cymryd rhan mewn gweithgareddau i gynyddu capasiti entrepreneuraidd) | 288 |
Myfyrwyr a gefnogwyd i ddechrau busnes | 19 |
Nifer y busnesau a ddechreuwyd | 7 |