Activities and campaigns
Grŵp Cefnogi Dysgwyr LHDTC+
Dyma gyfle gwych i ddysgwyr sy'n uniaethu â'r gymuned LHDTC+ neu ffrindiau a chefnogwyr i gysylltu â'i gilydd, rhannu profiadau ac adeiladu rhwydwaith gefnogol. Os ydych chi'n chwilio am gyfle i gymryd rhan mewn sgyrsiau ystyrlon neu ddim ond yn awyddus i gefnogi eraill, mae'r grŵp cymorth i Ddysgwyr LHDTC+ yn agored i bawb.
Gweithdy Zine
Mewn gweithdy Zine caiff dysgwyr archwilio byd diddorol cyhoeddi DIY. Gan ganolbwyntio ar hunanfynegiant a chreadigrwydd, mae'r gweithdai hyn yn rhoi llwyfan i unigolion greu eu cylchgronau bach unigryw, neu 'zines', eu hunain sy'n rhoi sylw i faterion cydraddoldeb.
Grŵp darllen
Mae grwpiau darllen sy'n canolbwyntio ar gydraddoldeb yn bwysig ar gyfer meithrin dealltwriaeth ac ysgogi camau gweithredu yn ein cymunedau. Trwy gyd-ddarllen a chyd-drafod, mae'r cyfranogwyr yn edrych ar anghydraddoldebau systemig ac mae hyn yn ei dro yn herio eu safbwyntiau ac yn dyfnhau eu dealltwriaeth o'r byd o'u cwmpas.
Panel Profiad Bywyd
Mae'r Panel Profiad Bywyd yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o ffurfio dyfodol ein sefydliad trwy gynnig barn ar bolisïau neu gynlluniau newydd yr ydym yn ystyried eu cyflwyno. Mae profiadau a safbwyntiau unigryw'r aelodau yn hanfodol i sicrhau bod ein penderfyniadau’n gynhwysol ac yn adlewyrchu anghenion amrywiol ein cymuned.
Grŵp Cefnogi Staff Niwroamrywiol
Mae’r Grŵp Cefnogi Staff Niwroamrywiol yn ofod croesawgar a chynhwysol ar gyfer aelodau staff sy’n cael diagnosis o niwroamrywiaeth, sy’n credu y gallent fod yn niwroamrywiol, neu’n gynghreiriaid i’r gymuned niwroamrywiol.
Gweithdy ar ficro-ymosodedd
Mae'r sesiwn hon yn edrych ar yr ymddygiadau cynnil ond dylanwadol sy'n bwydo gwahaniaethu ac ymyleiddio yn ein bywydau bob dydd. Trwy edrych ar wahanol sefyllfaoedd a chynnal trafodaethau rhyngweithiol ac ymarferion adfyfyriol, mae'r cyfranogwyr yn meithrin dealltwriaeth ddyfnach o ficro-ymosodedd, y ffordd mae'n amlygu ei hun, a'i effaith ar unigolion a chymunedau.