Polisïau a Datganiadau
Ein Gwerthoedd:
Disgwylir i holl ddysgwyr ac aelodau staff y Grŵp barchu ein siarter cydraddoldeb gan sicrhau ein bod yn adnabod a dathlu'r amrywiaeth sydd gennym a herio unrhyw ragfarnau, fwlio neu aflonyddu.

Yng Ngrŵp Llandrillo Menai, rydym yn rhoi blaenoriaeth i'r egwyddorion sylfaenol o Degwch, Parch, Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant ac Ymgysylltu (FREDIE) ym mhob agwedd ar ein gwaith. Rydym yn gadarn yn ein hymrwymiad i feithrin gweithle lle mae pob unigolyn yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi a'i rymuso.