Cymorth Ariannol a Chyllid ar gyfer Graddau
Mae gwahanol fathau o gefnogaeth ariannol a bwrsariaethau ar gael.
ARIANNU DY BENNOD NESAF
Y ddwy brif gost fydd yn wynebu myfyrwyr llawn amser yw ffioedd dysgu a chostau byw. Mae cymorth ariannol ar gael i helpu gyda'r rhain - naill ai trwy fenthyciadau (y byddwch yn eu talu'n ôl) a bwrsarïau neu grantiau (nad ydych yn eu talu'n ôl).
Ceir rhagor o wybodaeth am gymorth ariannol a sut i wneud cais ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru: www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk
Bwrsarïau:
Mae bwrsari o £1000 ar gael yng Ngrŵp Llandrillo Menai i fyfyrwyr a ddilynodd gwrs Lefel 3 yn y Grŵp ac sy'n symud ymlaen yn uniongyrchol i gwrs lefel prifysgol llawn amser.
Yn dibynnu ar eu hamgylchiadau personol, gall bwrsarïau ychwanegol fod ar gael.
- Bwrsari ardaloedd Cymunedau'n Gyntaf neu MALIC - £300 y flwyddyn
- £300 y flwyddyn i blentyn neu berson ifanc sy'n derbyn gofal
- Bwrsari'r Gymraeg gwerth £300 y flwyddyn i siaradwyr Cymraeg sy'n astudio rhan sylweddol o'u cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg
- Bwrsariaeth CCAUC ar gyfer Cyflogadwyedd wedi’i Dargedu (symiau amrywiol)
Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol:
Mae ysgoloriaethau ar gael i fyfyrwyr ar raglenni penodol sy'n astudio cyfran sylweddol o'u cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'n bosibl i fyfyrwyr dderbyn £800 os ydynt yn llwyddo i ennill Ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg sy'n werth £500 a Bwrsari’r Gymraeg GLlM sy'n werth £300.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i: www.colegcymraeg.ac.uk
Bwrsariaeth Dyfodol Myfyrwyr (Cronfa Cyflogadwyedd wedi'i Dargedu CCAUC):
Gall myfyrwyr Addysg Uwch o grwpiau a dangynrychiolir fod yn gymwys i gael bwrsariaeth Dyfodol Myfyrwyr i’w cynorthwyo i fynd ar brofiad gwaith a datblygu sgiliau cyflogadwyedd. I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch neges e-bost i dyfodolmyfyrwyr@gllm.ac.uk
Cynllun Hepgor Ffioedd i Israddedigion Rhan-Amser:
Gall myfyrwyr rhan-amser sy'n astudio rhaglen o fodiwlau sy'n werth llai na 30 credyd fod yn gymwys i wneud cais am grant hepgor ffioedd CCAUC. Uchafswm y ffioedd y gellir eu hepgor ym mhob blwyddyn academaidd yw £875. I gael rhagor o wybodaeth anfonwch neges e-bost i degrees@gllm.ac.uk
Eithriad a gostyngiad ar Dreth y Cyngor:
Ydych chi wedi ystyried a ydych yn gymwys i gael eich eithrio neu gael gostyngiad ar Dreth y Cyngor? Edrychwch ar wefan y Llywodraeth i gael rhagor o wybodaeth.
https://gov.wales/council-tax-...
Os ydych yn gwneud cais am eithriad neu ostyngiad ar Dreth y Cyngor, gallwch ofyn am ffurflen 'Cadarnhau Statws Myfyriwr' gan y Coleg a fydd yn rhoi cadarnhad o'ch statws fel myfyriwr cofrestredig i'r Awdurdod Lleol. Siaradwch â staff yr adran Gwasanaethau i Ddysgwyr am fwy o wybodaeth.
RHAGOR O WYBODAETH
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am yr ystod o gymorth ariannol sydd ar gael i chi, neu os oes angen cymorth arnoch i wneud cais am gyllid, anfonwch neges e-bost i graddau@gllm.ac.uk
Cyllid Myfyrwyr - Astudiaeth Achos (Claire)
Yn 36 oed, mae Claire wedi dychwelyd i astudio’n llawn amser ar y cwrs Gradd Sylfaen mewn Rheoli Busnes. Mae’n byw gyda’i gŵr a dau o blant:
Bydd Claire yn derbyn (ar sail lwfansau cyllido 2023/24):
- Benthyciad ffioedd dysgu i dalu cost lawn ei ffioedd (£8,300)
- £1,896 y flwyddyn o Lwfans Rhieni sy’n Dysgu
- £3,322 y flwyddyn o Grant Oedolion Dibynnol am fod ei gŵr yn ennill llai na swm penodol o gyflog
- £321 yr wythnos i dalu costau gofal plant ar gyfer ei dau blentyn – meithrinfa, a chlwb brecwast a chlwb ar ôl ysgol
- £11,720 o gymorth cynhaliaeth (benthyciad a grant)
- Brecwast iach AM DDIM bob bore
Cyllid Myfyrwyr - Astudiaeth Achos (Mark)
Mae Mark yn 18 oed ac yn symud ymlaen i gwrs arall yn y coleg – o gwrs Lefel 3 mewn Chwaraeon i astudio’n llawn amser ar y cwrs Gradd Sylfaen
mewn Chwaraeon. Mae’n astudio rhan o’i gwrs trwy gyfrwng y Gymraeg. Nid oes ganddo blant ac mae’n byw gartref gyda’i rieni.
Bydd Mark yn derbyn (ar sail lwfansau cyllido 2023/24):
- Benthyciad ffioedd dysgu i dalu cost lawn ei ffioedd (£8,300)
- £9,950 o gymorth cynhaliaeth (benthyciad a grant)
- £1,000 Bwrsari Dilyniant
- £300 Bwrsari’r Gymraeg (am astudio rhan o’i gwrs yn y Gymraeg)
- Brecwast iach AM DDIM bob bore