Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Byddwch yn barod ar gyfer mis Medi!

Fel y coleg mwyaf yng Nghymru, rydym yn cynnig ystod eang o gyfleoedd - o gyrsiau galwedigaethol a chyrsiau Lefel A i gyrsiau gradd a chymwysterau proffesiynol. Beth bynnag yw'ch nod, mae gennym gwrs sy'n addas i chi.

Mae'r llefydd yn llenwi'n gyflym, felly peidiwch â cholli cyfle – gwnewch gais heddiw.

Myfyriwr Lefel-A Pwllheli yn defnyddio microsgop

Lefel A

Mae ein canolfannau Chweched Dosbarth yn gam nesaf delfrydol i chi os ydych yn gobeithio mynd ymlaen i brifysgol neu i waith ar ôl dilyn eich cyrsiau Lefel A.

Dewch i wybod mwy…
Myfyriwr Dolgellau yn defnyddio peirianwaith

Cyrsiau Llawn Amser

Yn y coleg, cewch gyfleoedd gwych i wneud ffrindiau newydd, i roi cynnig ar rywbeth newydd ac i gael ychydig o annibyniaeth.

Cynigiwn ddewis eang o gyrsiau academaidd a galwedigaethol mewn mwy na 35 maes pwnc, gan ei gwneud yn hawdd i chi ddod o hyd i’ch cwrs delfrydol.

Dewch i wybod mwy…
Myfyriwr yn darllen yn y llyfrgell

Graddau

Rydym yn cynnig ystod eang o gymwysterau lefel prifysgol ar draws Gogledd Cymru, yn cynnwys Graddau Sylfaen a Graddau Anrhydedd a ddilyswyd gan rai o brifysgolion gorau Cymru a Lloegr.

Dewch i wybod mwy…
Myfyrwyr yn yfed coffi wrth fwrdd

Digwyddiadau Agored

Mae digwyddiadau agored yn gyfle i fyfyrwyr a rhieni weld ein campysau a'n cyfleusterau tan gamp, i gyfarfod a'r tiwtoriaid ac i ddod i wybod rhagor am y dewis eang o gyrsiau rydym yn eu cynnig.

Archebwch eich lle yn ein digwyddiad nesaf yma.

Gwnewch gais rŵan!

I gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais am gwrs llawn amser sy'n dechrau fis Medi ewch i'n tudalen 'Sut i Wneud Cais' yma.

Fel arall, os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses, mae croeso i chi gysylltu â thîm ein Gwasanaethau i Ddysgwyr ar unrhyw un o'n campysau.