Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Hostel Glynllifon

Rydym yn cydnabod bod darparu llety o ansawdd da yn ganolog i'ch galluogi i ddysgu a dyma pam mae Grŵp Llandrillo Menai wedi ymrwymo i’r cod UUK ymarfer ar gyfer rheoli tai myfyrwyr. Mae copi o ganllaw cod ymarfer UUK i fyfyrwyr ar gael ar lein: www.uukcode.info

Cyrraedd ac ymgartrefu

Mae’r Coleg wedi ei leoli o fewn waliau hen stad Glynllifon a oedd yn gartref dros y canrifoedd i'r Newboroughs, nes bod y Coleg yn prynu’r safle yn 1953.

Mae’r hostel yng Nglynllifon yn rhan o brif safle’r coleg ac mae wedi ei leoli ar ddiwedd y ffordd i mewn. Mae llety ar gyfer 70 o ddysgwyr yn yr hostel. Mae’r coleg wedi ei leoli tua phedair milltir o Gaernarfon, ar gyrion Parc Cenedlaethol Eryri a thraeth Dinas Dinlle sydd yn llai na dwy filltir i ffwrdd, gan wneud y Coleg yn addas i’r rhai sydd wrth eu bodd gyda’r môr a’r mynyddoedd.
Hostel Glynllifon

Goruchwyliaeth nos

Mae staff ar y safle i’ch goruchwylio tra byddwch yn yr hostel.

Eu prif gyfrifoldebau yw:

  • Sicrhau eich bod yn setlo i mewn.
  • Sicrhau eich bod yn byw mewn amgylchedd diogel
  • Darparu cyngor cyffredinol a chefnogaeth i chi
  • Cyd-weithio gyda chi i drefnu gweithgareddau hamdden

Llety a chyfleusterau

Yn y llety ceir ystafelloedd dwbl yn bennaf, gyda myfyrwyr yn rhannu gyda myfyrwyr o’r un rhyw. Drwy rannu ystafelloedd bydd hyn yn cynorthwyo dysgwyr i gymdeithasu a gwneud ffrindiau newydd yn ystod eu harhosiad yng Nglynllifon.

Disgwylir i chi fod wedi gadael eich ystafell erbyn 8:50yb bob bore. Mi fydd wardeiniaid yn gwirio bod yr ystafelloedd yn wag rhwng 8:50yb a 9yb i wneud yn siŵr bod pawb yn holliach ar ddechrau’r diwrnod.

Yr hyn yr ydym yn ei ddarparu

Ystafell

Mae pob ystafell wely yn ein llety cynnwys

  • Desg a chadair ar gyfer bob myfyriwr
  • Cabinet sydd yn cloi wrth ochr y gwely ar gyfer pob myfyriwr
  • Y rhyngrwyd a phwyntiau mynediad freeview
  • Ystafell gawod ‘ensuite’
  • Mae un ystafell 'twin' wedi ei addasu ar gyfer dysgwyr ag anableddau.

Cegin

  • Microdon
  • Oergell gyda blwch iâ
  • Tostiwr
  • Tegell

Beth i ddod efo chi


  • Ddillad digonol ar gyfer arhosiad wythnosol
  • Duvet, gorchudd duvet, cynfasau, gobennydd a chas gobennydd
  • Tywelion
  • Cloc larwm
  • Sychwr gwallt
  • Ychydig o lestri a chyllyll a ffyrc

Dylai pob eitem drydanol gael ei raddio ar gyfer 220-240 folt a chydymffurfio a Safonau Prydeinig Diogelwch perthnasol. Mae angen archwilio a phrofi pob eitem (Gweler Tudalen 15 Rheol 13)

Mae modd i chi ddod ag eiddo personol arall i’r Coleg, ond ni fydd y Coleg yn gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod. Mae drôr a gellir ei gloi wedi cael ei ddarparu ar gyfer cadw arian ac eiddo personol.

Caniateir posteri gan ddefnyddio’r hysbysfwrdd a ddarperir ym mhob ystafell. Mae gosod posteri ar waliau yn debygol o achosi difrod i waith paent ac os bydd hyn yn digwydd efallai y codir bil arnoch am ailaddurno.

Mae pob ystafell yn cael ei archwilio’n wythnosol. Pwrpas yr archwiliadau hyn yw sicrhau bod y coleg a’r trigolion yn cydymffurfio a gofynion iechyd a diogelwch, megis rheoliadau tân, ac yn cydymffurfio a’r amodau preswylio mewn perthynas â materion cadw cyffredinol o fewn yr ystafell wely a’r ystafelloedd cymunedol.

Efallai y bydd contractwyr neu ofalwyr angen mynediad i’ch ystafell o bryd i’w gilydd a rhoddir gwybod i chi ymlaen llaw os bydd angen hyn. Bydd pob ystafell yn cael ei harchwilio’n rheolaidd gan staff glanhau'r hostel, fodd bynnag, cyfrifoldeb y myfyriwr yw gwneud y gwely a chadw’r ystafell yn daclus.

Efallai y byddwch eisiau dod a theledu eich hun gyda chi, fodd bynnag, mae angen i chi sicrhau bod gennych drwydded ar ei gyfer. Mae gennych hawl hefyd i ddod ag eitemau trydanol eraill cyn belled ag y byddwch yn sicrhau nad yw socedi trydan yn cael eu gorlwytho (ni chaniateir tanau trydan neu unrhyw offer a allai gychwyn y larwm mwg neu dân, mae hyn yn cynnwys tegellau ac oergelloedd mewn ystafelloedd gwely unigol).

Os ydych yn anhapus â threfniadau rhannu ystafelloedd, yna dylech fynd at warden yr hostel fel pwynt cyswllt cyntaf ac yna’r Pennaeth Gwasanaethau Dysgwyr a Marchnata er mwyn sicrhau bod y mater yn cael ei ddatrys.

Mae’r wardeniaid yn sicrhau bod rhaid i bawb o dan 18 oed fod yn eu hystafelloedd ddim hwyrach na 11pm. Mae posib i rai sydd dros 18 oed fynd i’w hystafelloedd yn hwyrach, ond mae’n rhaid defnyddio’r ardal gymunedol agosaf i’w ystafell wely ei hun ar ôl 11pm. Mae’r gwardeiniaid hefyd yn cadw llygad ar yr adeilad er mwyn sicrhau nad oes unrhyw berson anawdurdodedig yn cael mynediad i’r safle. Nid yw gormod o sŵn yn dderbyniol ar unrhyw adeg, ond yn arbennig ar ôl 11pm pan fydd preswylwyr eraill yn ceisio cysgu.

Nid yw Grŵp Llandrillo Menai yn caniatáu'r meddiant neu ddefnydd o unrhyw sylweddau anghyfreithlon, gan gynnwys alcohol yn gyffredinol ac yr ydym yn gwahardd ysmygu/feipio unrhyw sylwedd o fewn adeiladau’r coleg.

BYDD UNRHYW FYFYRIWR WEDI EI DDAL GYDAG ALCOHOL NEU SYLWEDDAU ANGHYFREITHLON YN YR HOSTEL YN CAEL EU DISGYBLU YN SYTH. BYDD Y COLEG HEFYD YN CYSYLLTU GYDA RHIENI/GWARCHODWYR.

Ni chaniateir anifeiliaid anwes yn yr hostel.

Gwasanaethau i ddysgwyr

Mae gan y coleg ddarpariaeth i gefnogi myfyrwyr yn ystod eu hastudiaethau yng Nglynllifon.

Cymorth ariannol

Os yw rhieni/gwarcheidwaid ar incwm isel mae cymorth ar gael. Mae mwy o wybodaeth ar gael trwy ymweld â'r dudalen ymorth ariannol a chyllid, neu drwy gysylltu â:

Cefnogaeth Dysgwr

  • Os ydych yn cael unrhyw broblemau personol ac yn ffeindio hi’n anodd ymdopi, unrhyw faterion aflonyddu neu fwlio neu angen cymorth i astudio, gallwch drafod rhain gyda staff broffesiynol sydd yn gyflogedig gan y Coleg yn gyfrinachol. Gellir cael gafael ar y cymorth hwn drwy e-bostio staysafe@gllm.ac.uk neu drwy fynd i swyddfa Gwasanaethau Dysgwyr, sydd ar gael ar y safle. Mae mwy o wybodaeth i’w gael drwy fynd i'r dudalen cefnogaeth myfyrwyr.
  • Gwasanaeth cwnsela proffesiynol - os byddwch yn cael unrhyw broblemau personol, ac y byddwch yn ei chael hi’n anodd ymdopi. Beth am i chi drafod y rhain gyda chynghorydd proffesiynol sydd wedi’i gyflogi gan y coleg i drafod y materion hyn yn gyfrinachol.
  • O bryd i’w gilydd mae wardeniaid yn defnyddio gwasanaethau proffesiynol eraill lle bo’n berthnasol e.e. gweithwyr iechyd proffesiynol, yr heddlu, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ac ymarferwyr deintyddol.
  • Mae’r wardeniaid ar gael i ddatrys problemau yn yr hostel, o adrodd am iawndal i ddatrys problemau bwlio trwy lunio cynlluniau i ymdrin â’r mater yn gadarnhaol.

Gweithgareddau hamdden

Mae amser yn y coleg i chi gymdeithasu a gwneud ffrindiau newydd trwy ystod o weithgareddau. Efallai y byddwch yn hoffi:

  • Gwrando ar gerddoriaeth, gwylio teledu neu chwarae gemau cyfrifiadur yn eich
    ystafell.
  • Gwylio’r teledu neu DVD yn yr ystafell gyffredin
  • Sgwrsio dros baned yn y ceginau cymunedol
  • Chwarae dartiau neu bŵl yn yr ystafell gyffredin
  • Gwneud ymarfer corff e.e. cerdded y Parc
  • Chwarae rygbi neu bêl-droed 5 bob ochr
  • Cerdded y parc
  • Defnyddio’r ystafell ffitrwydd newydd

Yn y gorffennol mae amrywiaeth o weithgareddau wedi eu trefnu, yn cynnwys:

  • Pêl-droed a gemau rygbi’n erbyn ysgolion a cholegau eraill
  • Cyfleoedd rheolaidd i fynd i’r sinema.
  • Saethu colomennod clai o dan gyfarwyddyd
  • Y Ganolfan Hwyl ac atyniadau lleol eraill
  • Ymweliadau a chanolfannau hamdden lleol.
  • Bowlio Deg
  • Saethu peli paent
  • Go-cartio
Gall rhai gweithgareddau gynnwys costau ychwanegol. Os ydych yn dymuno cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon bydd angen i chi ddod a’ch gwisg nofio eich hun neu cit pêl-droed.

Gofynnwn i rieni/gwarcheidwaid myfyrwyr dan 18 oed lofnodi ein ffurflen ganiatâd i fyfyrwyr adael y safle ar gyfer ymweliadau gyda’r nos. Ein nod yw sicrhau bod risgi i iechyd a diogelwch myfyrwyr o weithgareddau’r
coleg yn cael eu rheoli’n briodol.

Prydau bwyd

Mae prydau bwyd yn cael eu darparu yn y cantîn.

Brecwast

Wedi’i weini rhwng 8-8:45yb mae’n cynnwys grawn fwyd, tost a sudd ffrwythau.

Pryd gyda'r nos

Yn cael ei weini am 5:15pm. O bryd i’w gilydd bydd yr amseroedd yn newid a bydd amseroedd bwyd newydd yn cael ei nodi’n glir ar hysbysfyrddau.

Dylai myfyrwyr ag anghenion dietegol arbennig amlygu hyn yn y gwaith papur wrth gofrestru a siarad â staff yr hostel yn ystod y cyfnod sefydlu.