Calendr y Dysgwyr
Mae calendr y dysgwyr GLlM yn rhan hanfodol o’r rhaglen tiwtorialau i ddysgwyr, sy’n cynnwys dyddiadau pwysig yn ystod y flwyddyn sy’n dathlu digwyddiadau cenedlaethol a rhyngwladol, gan gynnig cyfle i ddysgwyr arwain y mentrau hyn tra hefyd yn tynnu sylw at ddyddiadau allweddol sy’n rhoi pwyslais ar gefnogi lles dysgwyr, a chynyddu ymwybyddiaeth am faterion cymdeithasol dybryd.
Lawrlwythwch y Calendr Dysgwr PDF yma, neu gallwch weld ein Calendr y Dysgwyr ar-lein yma.
Cefnogir y digwyddiadau hyn gan staff, myfyrwyr a sefydliadau allanol. Mae'r digwyddiadau hyn yn sicrhau bod dysgwyr yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael yn fewnol ac yn allanol i'w cefnogi tra byddant yn astudio gyda ni.
Dyma rai enghreifftiau o ddyddiadau sy'n cael eu dathlu yn ein colegau;
Diwrnod y Llyfr
Dathlwyd hyn gyda chefnogaeth gan staff llyfrgell y Grŵp. Cynhaliwyd gweithgareddau trwy gydol y dydd, a oedd yn cynnwys cwisiau difyr am lyfrau adnabyddus fel Harry Potter a'r awdur Roald Dahl. Bu'r dysgwyr yn cydweithio i ddod o hyd i'r atebion drwy ddarllen y llyfrau.
Wythnos Ymlaen i'r Dyfodol
Bu Gyrfa Cymru yn rhannu gwybodaeth yn ystod Wythnos Ymlaen i'r Dyfodol. Bu staff Gyrfa Cymru yn y gwahanol gampysau gyda'u gwibdaith 'Symud ymlaen.' Roedd hwn yn gyfle gwych i ddysgwyr ofyn cwestiynau am fynd i'r brifysgol, byd gwaith, prentisiaethau neu hyfforddeiaethau, i gynghorwyr Gyrfa Cymru a staff Gwasanaethau i Ddysgwyr. Roedd hyn yn cyd-fynd â’r broses Cyrchfan Arfaethedig yr oedd dysgwyr yn ei chwblhau yn eu tiwtorialau.
Cynaliadwyedd: Sero Net
Rhoddodd digwyddiad cynaliadwyedd ein coleg gyfle i ddysgwyr drafod pa mor bwysig yw cyflawni allyriadau Sero Net. Fel rhan o weithgareddau Calendr y Dysgwyr, cynhaliodd GLlM stondinau a gweithgareddau tiwtorial grŵp yn y derbynfeydd i amlygu sut y gallwn ni i gyd helpu i wneud gwahaniaeth, o ddefnyddio ynni adnewyddadwy i leihau gwastraff. Rydym yn dysgu ffyrdd syml o fod yn fwy ecogyfeillgar.
Am ragor o wybodaeth neu os oes gennych unrhyw ddigwyddiadau yr hoffech i ni eu hyrwyddo, cysylltwch â'n Swyddog Cyfoethogi Profiadau Myfyrwyr, Aaron Beacher on studentunion@gllm.ac.uk