Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Ymddygiad cadarnhaol a phresenoldeb dysgwyr

Canllawiau ar Ymddygiad Cadarnhaol i Fyfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai

Croeso i Grŵp Llandrillo Menai! Rydym yn falch iawn o'ch croesawu i'n cymuned.

Ein Hymrwymiad i Chi

Yma yng Ngrŵp Llandrillo Menai, rydym wedi ymroi i greu amgylchedd cadarnhaol, cynhwysol a chefnogol i bawb. Credwn fod gan bob unigolyn yr hawl i deimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi, ei barchu a'i rymuso. Mae ein hymrwymiad i chi'n seiliedig ar yr egwyddorion canlynol:

Eicon parch

Parch

Rydym wedi ymroi i drin pob unigolyn gyda'r parch mwyaf. Rydym yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi'r cryfderau, y profiadau a'r safbwyntiau unigryw y mae pawb yn eu cynnig. Mae parch yn sylfaenol i'n cymuned, ac rydym yn gwneud ein gorau glas i sicrhau bod pob unigolyn yn cael ei glywed a'i werthfawrogi bob amser.

Eicon cydraddoldeb

Cydraddoldeb

Mae cydraddoldeb yn rhan greiddiol o'n hymrwymiad i chi. Credwn fod pawb yn haeddu cael eu trin yn deg, heb unrhyw wahaniaethu na rhagfarn. Rydym wedi ymrwymo i greu amgylchedd cynhwysol lle mae'r cyfleoedd i ddatblygu a llwyddo ar gael i bawb, waeth beth fo'u cefndir neu'u hamgylchiadau.

Eicon gonestrwydd

Gonestrwydd

Mae gonestrwydd yn hanfodol i adeiladu perthynas gref o ymddiriedaeth rhwng pobl. Rydym wedi ymrwymo i gyfathrebu mewn ffordd eglur a thryloyw er mwyn sicrhau eich bod bob amser yn gwybod beth yw ein disgwyliadau, ein polisïau a'n gweithdrefnau. Byddwn yn darparu adborth cywir ac adeiladol i gefnogi eich datblygiad personol a phroffesiynol.

Eicon ymddiried

Ymddiriedaeth⁠

Deallwn fod ymddiriedaeth yn cael ei ennill trwy weithredu mewn ffordd gyson a dibynadwy. Rydym wedi ymrwymo i greu amgylchedd lle y gallwch ddibynnu arnom i weithredu'n gywir a theg. Byddwn yn gweithio'n ddiwyd i adeiladu a chadw eich ymddiriedaeth trwy gefnogi eich holl ymdrechion.

Eicon uchelgais

Uchelgais

Rydym wedi ymrwymo i greu amgylchedd sy'n annog ac yn meithrin uchelgais. Credwn mewn cefnogi eich dyheadau a'ch helpu i gyrraedd eich nod. Trwy gydnabod eich ymdrechion a thrwy gynnig cyfleoedd datblygu a chefnogaeth barhaus, ein bwriad yw rhoi'r gallu i chi gyflawni eich potensial yn llawn.

Eicon tegwch

Tegwch

Mae tegwch yn rhan annatod o'r ffordd rydym yn gweithredu ac yn gwneud penderfyniadau. Rydym wedi ymroi i weithredu ein polisïau a'n gweithdrefnau mewn ffordd gyson a theg. Byddwn yn ystyried amgylchiadau unigol tra hefyd yn gweithredu'n deg, gan sicrhau bod pawb yn cael eu trin yn gyfiawn a chyda pharch.

Eicon diogelwch

Amgylchedd Diogel a Chefnogol

Rydym yn ymdrechu i ddarparu amgylchedd diogel a chefnogol lle mae ymddygiad cadarnhaol yn cael ei annog a'i gydnabod. Ein nod yw sicrhau ein bod bob amser yn dangos caredigrwydd, cydymdeimlad a dealltwriaeth wrth ymwneud â chi.

O ran ymddygiad ac uniondeb, rydym yn gweithredu'n unol â'r safonau uchaf. Byddwn yn cymryd cyfrifoldeb am ein gweithredoedd a’n penderfyniadau ein hunain, ac rydym yn disgwyl yr un ymrwymiad gennych chi. Trwy ddilyn yr egwyddorion hyn, ein nod yw creu amgylchedd cadarnhaol a chynhwysol sy'n rhoi’r grym i chi ffynnu. Ein hymrwymiad i Barch, Cydraddoldeb, Gonestrwydd, Ymddiriedaeth, Uchelgais, a Thegwch yw sylfaen ein perthynas â chi, ac rydym yma i'ch cefnogi ar bob cam o'ch taith.

Yr hyn rydym yn ei ddisgwyl gan ein dysgwyr

I greu amgylchedd dysgu cefnogol a llwyddiannus, rydym yn disgwyl i'r holl ddysgwyr ymddwyn yn y ffordd gadarnhaol hon. Dylai'r canllawiau hyn fod yn sylfaen ar gyfer creu amgylchedd cynhyrchiol lle mae pawb yn parchu ei gilydd a lle mae pob myfyriwr yn ffynnu.

Eicon parch

Parch a Chynhwysiant

  • Trin pawb gyda pharch, caredigrwydd a thegwch.
  • Croesawu amrywiaeth trwy barchu barn, cefndiroedd a diwylliannau eraill.
  • Defnyddio iaith a gweithredu mewn ffordd sy'n meithrin amgylchedd cadarnhaol a chroesawgar i bawb.
Eicon dibynadwyedd

Proffesiynoldeb a Chyfrifoldeb

  • Mynychu dosbarthiadau, gweithdai a gweithgareddau ar amser a bod yn barod i gymryd rhan lawn ynddynt.
  • Bod yn gyfrifoldeb am eich dysgu eich hun trwy gwblhau aseiniadau a chymryd rhan mewn ffordd weithredol.
  • Gwisgo'n addas ar gyfer eich cwrs ac ymddwyn yn broffesiynol, yn enwedig mewn lleoliadau gwaith a sesiynau ymarferol.
Eicon Cydweithio

Cydweithio a Gwaith Tîm

  • Gweithio ar y cyd â'ch cyd-fyfyrwyr ac aelodau staff.
  • Bod yn barod i roi a derbyn adborth cadarnhaol.
  • Cefnogi eich cyd-fyfyrwyr trwy rannu gwybodaeth, helpu eraill os ydych yn gallu, a dathlu llwyddiannau ar y cyd.
Eicon cyfathrebu

Cyfathrebu Cadarnhaol

  • Cyfathrebu mewn ffordd barchus â chyd-fyfyrwyr, darlithwyr a staff, wyneb yn wyneb ac ar-lein.
  • Codi pryderon neu faterion mewn ffordd adeiladol, a gofyn am gymorth os oes angen.
  • Gwrando mewn ffordd weithredol, gan sicrhau bod lleisiau pawb yn cael eu clywed a'u parchu mewn trafodaeth.
Eicon lles

Iechyd a Llesiant

  • Rhoi blaenoriaeth i'ch iechyd corfforol a meddyliol. Mae'r coleg yn cynnig adnoddau a chefnogaeth, felly cofiwch ofyn am help.
  • Byw bywyd cytbwys, gan reoli eich amser yn effeithiol i gyflawni eich ymrwymiadau academaidd a phersonol.
  • Parchu lles pobl eraill trwy greu amgylchedd cadarnhaol ac ystyried effaith eich gweithredoedd.
Eicon gonestrwydd

Uniondeb a Gonestrwydd

  • Cynnal uniondeb academaidd trwy gyflwyno eich gwaith eich hun yn unig ac osgoi llên-ladrad.
  • Bod yn onest yn eich holl ymwneud â'r coleg.
  • Cydnabod eich camgymeriadau a dysgu oddi wrthynt – mae pawb yn eu gwneud nhw ac mae'n rhan o'r broses ddysgu.
Eicon diogelwch

Iechyd a Diogelwch

  • Rhoi gwybod i aelodau priodol o staff am ddigwyddiadau'n ymwneud â Diogelu
  • Tîm Diogelu (PDF)
  • Diogelu dysgwyr, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed
  • Parchu amgylchedd y coleg trwy ei gadw'n lân a rhoi gwybod am unrhyw beryglon neu ddifrod.
  • Dilyn yr holl ganllawiau iechyd a diogelwch, yn y dosbarth ac mewn lleoliadau ymarferol.
  • Gofalu am eiddo ac adnoddau'r coleg, gan sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio'n briodol ac yn gynaliadwy.
Eicon ymgysylltiad

Ymgysylltu â Chymuned y Coleg

  • Cymryd rhan ym mywyd y coleg trwy gyfrwng gweithgareddau allgyrsiol, sesiynau grŵp a digwyddiadau.
  • Cyfrannu'n gadarnhaol i'r gymuned ehangach trwy wirfoddoli/gweithio fel llysgennad neu gymryd rhan mewn cynlluniau lleol.
  • Bod yn llysgennad i'r coleg trwy gadw'r gwerthoedd hyn ar y campws ac oddi arno.
Eicon teithio

Teithio i'r coleg ac oddi yno

Cliciwch yma i ddarllen ein cod ymddygiad trafnidiaeth (PDF)

Mae cadw'r cod ymddygiad wrth deithio'n hanfodol er mwyn sicrhau amgylchedd diogel a pharchus i bob teithiwr. Mae dilyn y canllawiau hyn nid yn unig yn hybu ymddygiad cadarnhaol wrth deithio i'r coleg ac oddi yno ond yn helpu hefyd i sicrhau bod y gwasanaeth cludiant yn rhedeg fel y dylai a bod pawb yn gallu teithio'n gyfforddus ac yn ddiogel.

Cofiwch fod gan bob Awdurdod Lleol eu canllawiau ymddygiad eu hunain ar gyfer teithwyr ac mae'n rhaid i ddysgwyr eu dilyn:

Cofiwch, mae eich ymddygiad yn adlewyrchiad ohonoch chi fel unigolyn ond hefyd yn adlewyrchiad o holl gymuned y coleg. Trwy ddilyn y canllawiau hyn, byddwch yn helpu i adeiladu amgylchedd dysgu cadarnhaol, cefnogol a llwyddiannus i bawb.

Canllawiau i Ddysgwyr ar Bolisi Presenoldeb

Credwn fod presenoldeb rheolaidd yn allweddol i'ch llwyddiant. Dyma ychydig o ganllawiau i'ch helpu i ddeall a chadw at ein polisi presenoldeb.

Eicon presenoldeb

1. Deall pwysigrwydd y Presenoldeb

Mae presenoldeb rheolaidd:

  • Yn gwella eich profiad dysgu
  • Mae'n eich paratoi ar gyfer disgwyliadau proffesiynol yn y dyfodol.
  • Mae'n cyfrannu'n sylweddol at eich llwyddiant academaidd.

2. ⁠Gofynion Presenoldeb

  • Bod yn bresennol: Anelwch at bresenoldeb 100%, ond cofiwch fod yn rhaid i chi fodloni cyfradd presenoldeb o 85% o leiaf i osgoi camau disgyblu.
  • Byddwch yn Brydlon: Cyrhaeddwch yn brydlon ar gyfer pob sesiwn.

3. Rhoi Gwybod am Absenoldebau

  • Rhoi gwybod yn gynnar: Rhowch wybod i diwtor eich cwrs a gwnewch gofnod ar eDRAC y dysgwr cyn gynted ag y byddwch yn gwybod y byddwch yn absennol.
  • Dogfennaeth: Os ydych yn absennol am fwy na thri diwrnod yn olynol, bydd angen i chi ddarparu rheswm dilys fel tystysgrif feddygol.
  • Absenoldebau Awdurdodedig: Am resymau fel apwyntiadau meddygol, profedigaeth, gwyliau crefyddol, argyfyngau personol, neu gyfleoedd addysgol (fel cyfweliadau prifysgol), rhaid i chi ddarparu dogfennaeth ategol i'ch tiwtor personol i ofyn am absenoldeb awdurdodedig.

4. Monitro a Chefnogi

  • Gwiriadau Rheolaidd: Mae eich presenoldeb yn cael ei fonitro. Os bydd yn disgyn o dan 85%, byddwn yn cysylltu â chi am gymorth.
  • Cefnogaeth sydd ar gael: Cael trafferth gyda phresenoldeb? ⁠Gofynnwch am:
    • Cyfarfodydd un-i-un gyda'u tiwtor.
    • Mentor penodol i gefnogi gwell presenoldeb
    • Cynllun gweithredu presenoldeb
    • Cyfeiriad at wasanaethau Lles a/neu Gwnsela.
    • Cyfeirio at wasanaethau allanol

5. Camau ar gyfer Mynd i'r Afael â Phresenoldeb Gwael

  • Rhybudd Cychwynnol: Os bydd eich presenoldeb yn disgyn o dan 85%, byddwch yn cael rhybudd cychwynnol a rhaid i chi gwrdd â'ch tiwtor.
  • Cynllun Gweithredu:⁠ Os na fydd presenoldeb yn gwella, caiff cynllun gweithredu ei greu yn amlinellu camau i wella presenoldeb.
  • Rhybudd Terfynol: Bydd materion parhaus yn arwain at rybudd terfynol ac adolygiad ffurfiol.
  • Camau Disgyblu: Fel dewis olaf, gall dysgwyr wynebu gwaharddiad dros dro neu waharddiad parhaol o'u cwrs.

6. Proses Apelio:

  • Siaradwch â'ch tiwtor: Ar gyfer unrhyw faterion yn ymwneud â phresenoldeb rhaid i chi yn gyntaf gysylltu â'ch Tiwtor Personol i drafod eich pryderon

Os nad yw wedi'i ddatrys a bod camau disgyblu'n cael eu gweithredu, mae gennych hawl i;

  • Yr Hawl i Apelio: Gallwch apelio yn erbyn unrhyw benderfyniad yn ymwneud â phresenoldeb o fewn deg diwrnod gwaith.
  • Cyflwyno Apêl: Cyflwynwch eich apêl yn ysgrifenedig i'r Rheolwr Maes Rhaglen.
  • Adolygiad Annibynnol: Bydd eich apêl yn cael ei hadolygu gan banel annibynnol, a bydd penderfyniad y panel yn derfynol.

7. Aros yn Wybodus

  • Bod yn gyfarwydd â'r Polisi: Ymgyfarwyddwch â'r polisi presenoldeb llawn sydd ar gael ar wefan y coleg.
  • Diweddariadau rheolaidd: Cadwch lygad am nodiadau atgoffa a diweddariadau trwy sianeli cyfathrebu'r coleg.

8. Eich Cyfrifoldebau Chi

  • Byddwch yn gyfrifol: Mae'n ddyletswydd arnoch i fynychu dosbarthiadau a rhoi gwybod am unrhyw faterion presenoldeb yn brydlon.
  • Ymgysylltu a chymryd rhan: Cymerwch ran weithredol yn eich dysgu i wneud y gorau o'ch addysg.

Drwy ddilyn yr arweiniad hwn, byddwch nid yn unig yn bodloni gofynion presenoldeb y coleg ond hefyd yn paratoi eich hun ar gyfer llwyddiant yn eich bywyd academaidd a phroffesiynol yn y dyfodol. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen cymorth arnoch, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â'ch tiwtor neu'r swyddog presenoldeb.

Defnyddio eDRAC dysgwyr i adrodd am absenoldeb

I roi gwybod am absenoldeb bydd angen i chi lenwi'r ffurflen ar-lein ar eDRAC y dysgwyr. Dylech fod yn ymwybodol y bydd angen i chi lenwi'r ffurflen hon am bob diwrnod y byddwch yn absennol. Os byddwch yn colli gwers, oherwydd absenoldeb awdurdodedig, mae'n hanfodol eich bod yn cofnodi'r amser y byddwch yn absennol amdano. Dilynwch y pwyntiau isod ar sut i roi gwybod am absenoldeb.

  1. Cliciwch ⁠ar deilsen Rhoi Gwybod eich bod yn Absennol ar eDRAC y Dysgwyr
  2. Clicio ychwanegu absenoldeb newydd
  3. Dewis rheswm dros eich absenoldeb - Cofiwch fod angen i'ch Tiwtor Personol neu'ch Arweinydd Cwrs awdurdodi pob absenoldeb nad yw'n salwch neu argyfwng.
  4. Os oes rheswm arall - rhowch y manylion yn y blwch
  5. Rhowch wybod am faint o amser y byddwch chi'n absennol.
  6. Ticiwch oes neu nac oes os oes angen cymorth pellach arnoch o ganlyniad i'ch absenoldeb. Cofiwch na fydd y coleg yn ymateb yn syth i hyn. Os oes angen cymorth brys arnoch ffoniwch 999.

Os ydych wedi datgan absenoldeb o'r blaen, gellir dod o hyd iddo yn yr adran absenoldeb a ddatganwyd eleni. Bydd hyn hefyd yn cadarnhau bod eich absenoldeb wedi'i gofnodi a'i anfon at eich tiwtor personol.

Bydd angen i chi lenwi'r ffurflen hon ar gyfer pob cyfnod o absenoldeb.

Marciau Absenoldeb

  • / → Presennol
  • o → ⁠Absennol
  • L → Hwyr
  • H → Gwyliau
  • S → Cyfnod astudio
  • E → Esgusodwyd
  • I → ⁠Salwch
  • Z → Absenoldeb gyda Chaniatâd
  • T → Hwyr (ar-lein)
  • A → Absennol (ar-lein)
  • X → Profiad Gwaith
Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date