Arolwg Seren Iaith
Menter i gynyddu defnydd cymdeithasol dysgwyr Cymraeg Grŵp Llandrillo Menai o'r Gymraeg, ac i godi ymwybyddiaeth o'r Gymraeg fel sgil yn y gweithle.
Gwyliwch y fideo hon i ddysgu mwy am Seren Iaith
Yr Arolwg Seren Iaith
Mae'r arolwg hwn yn gofyn 10 cwestiwn am eich agwedd a'ch defnydd cymdeithasol o'r Gymraeg. Bydd angen i chi raddio'ch hun o 1 - 10 (gydag 1 yn golygu 'anghytuno'n llwyr' a 10 yn golygu 'cytuno'n llwyr') ar gyfer pob cwestiwn.
Bydd yr arolwg yn cymryd llai na 10 munud i'w gwblhau.
Cliciwch y botwm isod i gwblhau'r arolwg. Bydd y botwm yn mynd â chi i dudalen mewngofnodi Dysgwr eDrac. Ar ôl i chi fewngofnodi (gan ddefnyddio'ch enw defnyddiwr a'ch cyfrinair), cliciwch ar y faner arolwg Seren Iaith ar yr hafan. Pan fyddwch wedi cwblhau'r arolwg byddwch yn gallu gweld eich Seren Iaith.
COFIWCH bydd angen i chi ail-gymryd yr arolwg yn ystod tymor 3 fel y gallwn weld a fu unrhyw newid yn eich defnydd o'r Gymraeg yn ystod y flwyddyn academaidd.
Adnoddau Seren Iaith
Mae yna bum adnodd digidol i chi eu cwblhau yn ystod y flwyddyn academaidd:
- Ymwybyddiaeth Iaith Gymraeg
- Astudio yn Gymraeg neu'n Ddwyieithog
- Cymraeg yn y Gweithle
- Byw yn Gymraeg
- Cerddoriaeth Gymraeg
Bydd eich tiwtor personol naill ai'n eu cwblhau gyda chi neu'n gofyn i chi eu cwblhau'n annibynnol.
Mae'r adnoddau'n rhyngweithiol ac yn hwyl a dylent gymryd tua awr yr un i'w cwblhau. Gallwch chi gwblhau'r adnoddau yn Saesneg neu Gymraeg a newid rhwng y ddwy iaith yn ystod yr adnoddau.