Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Undeb Myfyrwyr

Cewch gyfle i ymuno ag Undeb y Myfyrwyr yn y coleg. Mae'r Undeb wedi ennill gwobr yn ddiweddar am ddathlu rhagoriaeth yn Llais y Dysgwyr.

Mae Llywyddion Undeb y Myfyrwyr yn cael eu hethol gan eu cyd-ddysgwyr i fod yn llais i’w coleg a chefnogi dysgwyr tra byddant yn astudio gyda ni yma yn GLlM.

Mae Llywyddion Undeb y Myfyrwyr yn gweithio'n agos gyda chynrychiolwyr dosbarth eu cwrs i sicrhau y gwrandewir ar eu llais. Bob tymor rydym yn cynnal Paneli Dysgwyr ac o’r fan honno rydym yn cael adborth ar yr hyn sy’n mynd yn dda iawn tra rydych gyda ni a’r hyn y gellir ei wella. Yn deillio o hynny rydym yn creu “Mi Ddwedoch Chi, Mi Wnaethon Ni” sydd i’w weld yma.

Eleni Llywyddion Undeb y Myfyrwyr ydi:

Coleg Llandrillo - Rhys Morris

Mae Rhys yn astudio Gwasanaethau Cyhoeddus ar ein campws yn y Rhyl. Mae Rhys yn addo y bydd yn ceisio gwella tryloywder, cynyddu ymgysylltiad myfyrwyr a sicrhau bod llais y myfyrwyr wrth wraidd popeth yr ydym am ei gyflawni. Da iawn Rhys!

Coleg Menai - Munachi Nneji

Mae Munachi yn astudio pynciau Lefel A ar ein campws yn Llangefni. Mae Munachi yn addo cynyddu ymwybyddiaeth myfyrwyr o iechyd corfforol a lles, a hyrwyddo arferion cynaliadwy fel ailgylchu, lleihau gwastraff, ac arbed ynni er mwyn cael amgylchedd gwyrdd ac iach ar y campysau. Da iawn Munachi!

Coleg Meirion Dwyfor - Troy Maclean

Mae Troy yn astudio Sgiliau Bywyd ar ein campws yn Nolgellau. Mae Troy yn addo gwella llesiant ac iechyd meddwl myfyrwyr, a hyrwyddo amgylchedd mwy cefnogol lle gall pob myfyriwr deimlo’n gyfforddus wrth drafod materion yn gysylltiedig â'i gwrs a materion fel ansawdd a chostau cynyddol bwyd ar y campysau. Nid dim ond y campws lle mae'n astudio ei hun - mae'n awyddus iawn i sicrhau bod pob dysgwr yn cael ei gynnwys. Da iawn Troy!

Cynrychiolydd Addysg Uwch Undeb y Myfyrwyr - Rhiannon Williams

Mae Rhiannon yn astudio'r rhaglen Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg i Raddedigion ar ein campws ym Mangor. Mae'n addo y bydd yn helpu myfyrwyr i oresgyn rhwystrau a gwireddu eu breuddwydion trwy'r cyfleoedd a gynigir gan addysg uwch. Da iawn Rhiannon!

Opsiynau'r Dyfodol

Bob blwyddyn mae gennym ni Galendr y Dysgwyr ble mae'r Swyddog Cyfoethogi Profiadau Myfyrwyr a'r Llywyddion yn sicrhau ein bod yn dathlu ac yn cefnogi dysgwyr trwy gydol y flwyddyn gyda digwyddiadau gwahanol yn amrywio o Fis Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl i ddiwrnodau ymwybyddiaeth ADHD. Rydym yn sicrhau bod staff a dysgwyr yn cefnogi'r digwyddiadau hyn ar draws ein campysau.

Bob blwyddyn rydym yn cynnal Cynhadledd y Dysgwyr sy'n cael ei threfnu a'i chefnogi gan Lywyddion Undeb y Myfyrwyr. Yn y gynhadledd bydd dysgwyr Addysg Bellach ac Addysg Uwch yn dod at ei gilydd am ddiwrnod a byddwn yn trafod pynciau amrywiol. Thema Cynhadledd y Dysgwyr yn 2023/2024 oedd 'Llais y Dysgwr' lle buom yn edrych ar ein gwerthoedd a'r hyn y gallwn ei wneud yn wahanol wrth symud ymlaen. Roedd gennym ni siaradwyr gwadd hefyd, yn amrywio o Lywodraeth Cymru i Shelter Cymru.

Cynhadledd Undeb y Myfyrwyr
Aelodau Undeb y Myfyrwyr

Darllenwch ragor am Undeb y Myfyrwyr

Enillodd Undeb y Myfyrwyr lu o wobrau yn Seremoni Wobrwyo UCM Cymru yn Aberystwyth yn ddiweddar! Cafodd Undeb y Myfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai ei chydnabod yn genedlaethol am y gwaith a wneir i sicrhau bod Llais y Dysgwr yn cael ei glywed. Cydnabu UCM Cymru waith caled Undeb y Myfyrwyr yn ymgysylltu a chyfoethogi profiadau dros 3,000 o ddysgwyr mewn un tymor academaidd ar 12 campws ac mewn pedair sir.

Cliciwch yma i ddarllen mwy am yr Undeb Myfyrwyr

Cynrychiolwyr Dosbarth

Mae pob cwrs llawn amser a rhai o'r cyrsiau rhan amser yn dewis cynrychiolydd dosbarth. Bydd o neu hi yn gweithredu fel llefarydd ar gyfer y grŵp myfyrwyr hynny.

Dewisir cynrychiolydd dosbarth ar gyfer pob grŵp o fyfyrwyr sy'n dilyn rhaglen benodol, ac mae rhai rhaglenni/cyrsiau hefyd yn ethol dirprwy. Mae'r cynrychiolwyr dosbarth yw llais eu dosbarth am y flwyddyn academaidd gyfan.

Prif gyfrifoldebau'r cynrychiolwyr dosbarth ydy cynrychioli barn y myfyrwyr yn ystod y cyfarfodydd Paneli Dysgwyr. Byddant yn cael cyfle i amlygu unrhyw faterion yr hoffai'r myfyrwyr eu gwella a thynnu sylw at feysydd sy'n cynnwys arfer da er mwyn rhannu'n arferion hynny. Eu swyddogaeth yw mynegi barn y grŵp cyfan - nid cyfrifoldeb y cynrychiolwyr yw gweithredu ar ran unigolyn a allai fod â phroblemau gyda'u tiwtor neu gydlynydd cwrs.

Cliciwch yma am arweiniad am yr hyn mae angen i chi ei wybod am fod yn gynrychiolydd dosbarth.

Paneli Dysgwyr

Mae Panel Dysgwyr yn cael eu cynnal yn draddodiadol dair gwaith y flwyddyn (unwaith y tymor) ar bob prif gampws a'u cadeirio gan Bennaeth y coleg perthnasol neu'r Pennaeth Cynorthwyol. Bwriedir i'r dysgwyr gymryd rhan amlwg yn y cyfarfodydd hyn a chanolbwyntir ar faterion penodol sydd o ddiddordeb neu sy'n achosi pryder. Cyn pob Panel Dysgwyr anfonir set o gwestiynau yr hoffai’r Pennaeth neu’r Pennaeth Cynorthwyol eu trafod. Fodd bynnag, ar ddiwedd pob cyfarfod panel gofynnir i chi a oes unrhyw beth arall yr hoffech siarad amdano a rhoi'r cyfle i chi sôn am unrhyw beth rydych chi wedi'i drafod gyda'ch dosbarth.

Gofynnir i gynrychiolwyr dosbarth ddod i'r cyfarfod i rannu eu barn, eu syniadau, eu gofidiau a thrafod awgrymiadau sut i wella. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, cynhaliwyd Cynhadledd y Dysgwyr y Grŵp yn hytrach na chyfarfodydd Panel Dysgwyr yn yr ail dymor. Mae camau gweithredu o'r Paneli Dysgwyr yn cael eu bwydo'n ôl trwy'r adran 'Mi Ddywedoch Chi, Mi Wnaethom Ni' yn eDrac.

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date