Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cludiant

Mae Grŵp Llandrillo Menai yn darparu cludiant i'ch campws agosaf ar fysiau'r coleg.

Mae'r wybodaeth bwysig isod yma i'ch cefnogi gyda threfniadau cludiant ar gyfer eich taith i'r coleg ac oddi yno.

Trefniadau Trafnidiaeth

Dydy'r coleg ddim yn trefnu na'n rheoli bysus o'r coleg i'ch cartref, gwasanaethau tacsi na thrafnidiaeth gyhoeddus i ddysgwyr. ⁠ ⁠ Yr Awdurdod Lleol sy'n gyfrifol am y gwasanaethau hyn. ⁠. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch cludiant coleg bydd angen i chi gysylltu â nhw'n uniongyrchol.

Gellir dod o hyd i fanylion am leoliadau ac amseroedd casglu cludiant trwy ddewis eich coleg o'r dewisiadau uchod..

Cyngor a Chanllawiau Cludiant Arbenigol

Mae'r tîm Gwasanaethau i Ddysgwyr yma i roi cyngor, arweiniad a gwybodaeth i chi ynghylch opsiynau trafnidiaeth a gall y tîm eich cefnogi wrth godi pryderon gyda'r Awdurdod Lleol. Os oes gennych gwestiynau am gymhwysedd, neu os byddwch angen cymorth gyda'r broses ymgeisio, neu gyngor trafnidiaeth cyffredinol, rydym yma i'ch cynorthwyo. Cysylltwch â Thîm Gwasanaethau Dysgwyr eich campws am gymorth.

Gyda rhai awdurdodau lleol, yr adran Gwasanaethau i Ddysgwyr fydd yn gyfrifol am roi eich tocyn bws coleg i chi.

Disgwyliadau Ymddygiad ar Drafnidiaeth

Er mwyn sicrhau profiad diogel a chadarnhaol i bawb, mae'r coleg, mewn cydweithrediad â'r awdurdod lleol, wedi sefydlu disgwyliadau ymddygiad ar drafnidiaeth. Disgwylir i bob dysgwr gadw at y canllawiau hyn wrth ddefnyddio gwasanaethau cludiant coleg. Gall methu â chydymffurfio arwain at wrthod mynediad i'r cludiant a gallai arwain at gamau disgyblu gan y coleg.

Cod Ymddygiad Trafnidiaeth (PDF)

Gwasanaethau Cludiant a weinyddir gan y Coleg

I ddysgwyr Sir Ddinbych, Conwy ac Ynys Môn, bydd y coleg yn gweinyddu gwasanaethau trafnidiaeth ar ran yr awdurdod lleol. Os ydych yn astudio yng Ngwynedd, bydd angen i chi gael mynediad i'ch tocynnau bws drwy Ap Trafnidiaeth Cyngor Gwynedd.

Cymorth Ariannol ar gyfer Costau Trafnidiaeth

Mewn rhai achosion, gall yr awdurdod lleol godi tâl ar ddysgwyr am ddefnyddio eu gwasanaethau trafnidiaeth. Os ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, mae cronfa ar gael a allai helpu i dalu canran o'r costau hyn. I gael rhagor o fanylion am wneud cais am gymorth ariannol, cysylltwch â'r adran Gwasanaethau i Ddysgwyr ar eich campws.

Gwybodaeth Ychwanegol a Pholisïau Awdurdod Lleol

I gael rhagor o wybodaeth ac i adolygu polisïau trafnidiaeth yr awdurdod lleol, ewch i’r gwefannau perthnasol isod:

Rydym yn gwerthfawrogi eich cydweithrediad ac rydym yma i'ch cefnogi i sicrhau taith esmwyth a diogel i'r coleg ac oddi yno.

Am ragor o gymorth neu ymholiadau, cysylltwch â Thîm Gwasanaethau Dysgwyr eich campws.

Beth sydd angen i chi ei wybod cyn mynd ar y bws

Bydd angen i chi ddangos eich cerdyn adnabod i deithio ar y bws. Peidiwch â phoeni! Yn ystod eich dyddiau cyntaf yn y coleg, cewch fynd ar y bws heb ddangos eich cerdyn adnabod. Dylai dysgwyr sy'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a ddarperir gan y cyngor ddangos y llythyr y maent wedi ei gael.

Y Cod Ymddygiad ar gyfer Teithio ar Wasanaethau Cludiant y Coleg

Ni oddefir ymddygiad drwg a gwrthgymdeithasol ar gerbydau'r coleg. Bydd y rhai sy'n troseddu'n gyson ac/neu'n ddifrifol yn colli eu hawl i deithio ar gerbydau'r coleg.

Bydd y coleg yn monitro'r ymddygiad ar y bysiau, gan roi trefnau disgyblu'r coleg ar waith os bydd angen.

Mae'r Cod Ymddygiad hwn yn adlewyrchu canllawiau Llywodraeth Cymru a gall newidiadau i ganllawiau cenedlaethol effeithio arno.

Er mwyn sicrhau diogelwch pawb, rhaid i ddysgwyr sy'n defnyddio cludiant y coleg gytuno â'r canlynol:

  1. Rhaid i ddysgwyr sydd â hawl i bàs bws fod â'u pàs yn eu meddiant bob amser, gan ei ddangos bob tro y gofynnir iddynt wneud hynny. Oni fyddant yn gwneud hynny, gellir gwrthod iddynt deithio ar y bws neu codir tâl arnynt.
  2. Disgwylir i ddysgwyr barchu hawliau pobl eraill sy'n defnyddio'r bws, ac ni oddefir unrhyw aflonyddu neu fwlio.
  3. Ni chaniateir ysmygu ar gerbydau'r coleg.
  4. Ni ddylai dysgwyr yfed alcohol na bod o dan ddylanwad alcohol nac unrhyw sylweddau eraill ar gerbydau'r coleg.
  5. Ni ddylai dysgwyr ddifrodi na difwyno unrhyw gerbyd.

Mae gan yrrwr y bws awdurdod llwyr ar fws y coleg. Bydd peidio â dilyn ei gyfarwyddiadau'n cael ei ystyried yn drosedd ddifrifol.

Cliciwch yma i lawrlwytho cod ymddygiad y coleg (PDF).

Eicon teithio

Pwy i gysylltu â nhw os oes gennych gwestiynau am fysiau'r coleg

Os oes gennych unrhyw gwestiynau'n ymwneud â chludiant, anfonwch neges e-bost i cludiant@gllm.ac.uk.