Eich Llwybr Sgiliau
Cefnogaeth i ddatblygu eich sgiliau ymhellach
Esbonio eich Llwybr Sgiliau
Yn rhan o'u rhaglen astudio, mae dysgwyr llawn amser yn elwa ar y gefnogaeth sydd ar gael i feithrin eu sgiliau ymhellach. Mae cyflogwyr a phrifysgolion yn dweud wrthym fod sgiliau rhifedd a llythrennedd yn bwysig iawn. Yn y coleg, mae eichllwybr sgiliau yn unigryw i chi ac yn rhoi cyfle i chi ennill cymhwyster neu wella eich
gradd bresennol.
Darllenwch y wybodaeth isod i ddysgu rhagor am eich llwybr sgiliau unigryw chi.

Gwella ar eich graddau TGAU / Cymwysterau Sgiliau Hanfodol
Gwella ar eich graddau TGAU mewn Rhifedd / Mathemateg, Cymraeg ac/neu Saesneg, neu, wella’ch sgiliau Mathemateg, eich Cymraeg a/neu’ch Saesneg drwy ennill Cymwysterau Sgiliau Hanfodol

Llythrennedd Digidol a Sgiliau Hanfodol Cyflogadwyedd
Os oes gennych radd C neu uwch yn eich TGAU (naill ai Mathemateg/Rhifedd, Cymraeg/Saesneg neu’r ddau), byddwn yn gweithio gyda chi i ddatblygu eich sgiliau digidol a chyflogadwyedd. Bydd hyn yn eich helpu chi gyda'ch camau nesaf i gyflogaeth neu brifysgol.

Pecyn Cymorth Sgiliau Hanfodol
Pecyn ar-lein sy’n asesu eich sgiliau llythrennedd a rhifedd ac yn cynnig adnoddau a chefnogaeth i lenwi unrhyw fylchau yn eich gwybodaeth.