Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Gwahoddiad i Ddigwyddiad Clirio yn y Coleg

Hoffem eich gwahodd i Ddigwyddiad Clirio ddydd Gwener 1 Medi, sydd wedi cael ei deilwra'n benodol ar gyfer dysgwyr fel chi sydd ar restr aros neu sydd heb sicrhau lle eto ar y cwrs maent am ei ddilyn.

Deallwn eich bod wedi bod yn aros am le ar y cwrs rydych wedi ei ddewis yn y coleg ac rydym yn gwerthfawrogi eich amynedd.

Hoffem eich gwahodd i Ddigwyddiad Clirio ddydd Gwener 1 Medi, sydd wedi cael ei deilwra'n benodol ar gyfer dysgwyr fel chi sydd ar restr aros neu sydd heb sicrhau lle eto ar y cwrs maent am ei ddilyn. Mae'r digwyddiad hwn yn gyfle i chi edrych ar y dewisiadau addysgol cyffrous eraill sydd ar gael ar hyn o bryd.

Mae ein coleg yn falch o allu cynnig ystod eang o gyrsiau mewn disgyblaethau amrywiol, a bydd y Digwyddiad Clirio yn dangos pa ddewisiadau eraill sydd ar gael sy'n cyd-fynd â'ch diddordebau a'ch dyheadau. Bydd cynghorwyr ymroddedig y Gwasanaethau i Ddysgwyr a thiwtoriaid ar gael yn y digwyddiad i rannu gwybodaeth am y gwahanol gyrsiau, i ateb eich cwestiynau ac i'ch helpu i wneud penderfyniad doeth am eich dyfodol.

Dyddiad: Dydd Gwener 1 Medi 2023

Amser: 10am – 3pm

Lleoliadau:

  • l Coleg Llandrillo: Campysau Llandrillo-yn-Rhos a'r Rhyl ⁠

  • l Coleg Menai: Campysau Bangor a Llangefni

  • l Coleg Meirion-Dwyfor: Campysau Pwllheli a Dolgellau

  • l Campws Glynllifon

Os oes gennych unrhyw gwestiynau penodol neu bryderon, cofiwch gysylltu â'r tîm a fydd yn fwy na pharod i'ch helpu. Anfonwch neges e-bost i generalenquiries@gllm.ac.uk neu ffoniwch 01492 546 666 i ofyn am gael siarad ag aelod o'r tîm Gwasanaethau i Ddysgwyr.

Edrychwn ymlaen at eich croesawu i'r Digwyddiad Clirio a'ch helpu i gymryd y cam nesaf tuag at eich llwyddiant academaidd.

Myfyrwyr yn siarad mewn grŵp