Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Dechrau yn Ionawr

Mae gennym ddewis helaeth o gyrsiau llawn amser a rhan-amser yn dechrau fis Ionawr. Mae gennym ni rywbeth at ddant pawb – p'un ai a ydych am wella eich sgiliau a'ch gwybodaeth neu am ddod o hyd i hobi newydd.

Pobl yn defnyddio gliniadur

Cyrsiau Llawn Amser

Does dim rhaid i chi aros tan fis Medi i ddechrau eich stori yn y coleg. ⁠Mae gennym ychydig o lefydd ar ôl ar gyrsiau llawn amser sy'n dechrau ym mis Ionawr.

Mae'r rhaglenni llawn amser hyn yn cynnwys prif gymhwyster yn ogystal â sgiliau hanfodol i ddatblygu eich llythrennedd a'ch rhifedd, ac maen nhw'n ffordd wych o baratoi ar gyfer parhau â'ch astudiaethau ym mis Medi.

Coleg Llandrillo, Campws Llandrillo-yn-Rhos:

Coleg Llandrillo, Campws Y Rhyl:

Coleg Meirion-Dwyfor, Campws Dolgellau:

I gael rhagor o wybodaeth e-bostiwch generalenquiries@gllm.ac.uk neu ffoniwch 01492 542 338

Myfyriwr ac athro yn defnyddio cyfrifiadur

Dysgwyr sy'n Oedolion

Mae’n cynnwys gwybodaeth am yr amrediad eang o gyrsiau hamdden, cyrsiau proffesiynol a chyrsiau gwella gyrfa sy’n dechrau fis Ionawr. Ymhlith y pynciau a gynigir, mae:

  • Celf a Dylunio
  • Cyfrifiadura
  • Saesneg a Mathemateg
  • Datblygiad Personol
  • A llawer rhagor...

Lawrlwythwch gopi o'r prosbectws oddi ar ein gwefan.

Neu edrychwch ar ein prosbectws ar-lein i weld pa gyrsiau sydd ar gael ac i archebu lle arnynt.

Mae cyrsiau eraill yn cynnwys:

Diploma Mynediad i Addysg Uwch (Gofal Iechyd)
Ar y cwrs hwn, cewch y wybodaeth, y sgiliau a’r hyder sy’n angenrheidiol i fynd ymlaen i ddilyn cwrs gradd mewn gofal iechyd neu nyrsio.

Hyfforddwr Ffitrwydd Lefel 2
Os ydych chi'n angerddol ynghylch ffitrwydd ac eisiau helpu eraill i gyflawni eu nodau iechyd, mae'r Dystysgrif Lefel 2 Hyfforddwr Ffitrwydd yn fan cychwyn perffaith i'ch gyrfa.

Cyfrifon Dysgu Personol
Mae Cyfrif Dysgu Personol yn ffordd hyblyg o gael hyfforddiant am ddim mewn amrywiaeth eang o feysydd.

Pobl yn gweithio mewn campfa

Cyrsiau Lefel Prifysgol

Mae gennym nifer o gyrsiau lefel prifysgol yn dechrau ym mis Ionawr.

Mae’r rhain yn cynnwys:

Coleg Llandrillo, Campws Llandrillo-yn-Rhos:

Rydym hefyd yn cynnig ystod o fodiwlau addysg uwch unigol, yn cynnwys:

Coleg Llandrillo, Campws Llandrillo-yn-Rhos:

Lletygarwch:

Gall cyllid fod ar gael i dalu costau'r cwrs trwy'r Cynllun Hepgor Ffioedd i Israddedigion. Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth – graddau@gllm.ac.uk