Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Rheolwr Prosiectau Cyfalaf ( Cytundeb 3 blynedd, cyfnod penodol)

Pwrpas y Swydd

Rydym yn chwilio am Reolwr Prosiectau Cyfalaf profiadol i gyflwyno rhaglen o brosiectau cyfalaf yn ddiogel ac yn effeithiol ar draws 16 safle’r Coleg. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am dîm gweithredol gan gynnwys y Swyddfa Rheoli Rhaglen (PMO), Clercod Gwaith a Goruchwylwyr NEC. Bydd y rôl yn gyfrifol am gyrchu a gweithio’n effeithiol gydag ymgynghorwyr i sicrhau bod prosiectau’n cael eu dylunio a’u cyflawni’n effeithiol, am ddatblygu prosiectau unigol trwy gamau dylunio amlinellol a manwl (gan weithio’n effeithiol gyda Grwpiau Defnyddwyr), ac am reolaeth ariannol effeithiol prosiectau o fewn y gyllideb.

Bydd deiliad y swydd yn rheoli’r prosesau rheoleiddio (fel cael trwyddedau perthnasol) sy’n gysylltiedig â’r prosiectau cyfalaf a bydd yn gyfrifol am nodi, olrhain, rheoli a lliniaru’r holl risgiau a materion perthnasol ar draws cylch bywyd cyfan y prosiect. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am sicrhau bod pob prosiect yn cael ei gwblhau mewn modd amserol gan ddatrys problemau wrth iddynt godi, a chynnal systemau rheoli newid cryf drwyddo draw. Yn ystod y cam gwaith safle, bydd deiliad y swydd yn rheoli caffael prif gontractwyr ac yn sicrhau bod systemau cadarn ar waith i fonitro ansawdd a diogelwch contractwyr, ac i reoli newid a chostau.

Bydd deiliad y swydd yn cynnal ac yn cynhyrchu'r holl gofnodion gweithredol, adroddiadau prosiect ac adroddiadau cau fel sy'n ofynnol gan yr holl randdeiliaid, gan gynnwys cyllidwyr Grant allanol. Yn yr un modd, sicrhau bod yr holl fuddion cymunedol y cytunwyd arnynt yn cael eu gwireddu. Yn gyfathrebwr rhagorol, bydd yn rhaid i Ddeilydd y Swydd weithio'n effeithiol gyda'r holl randdeiliaid, gan weithio'n rhagweithiol gyda'u Tîm, y Cyfarwyddwr, uwch-ddeiliaid swyddi eraill yn fewnol, ac ar adegau perthnasol, ymgynghorwyr allanol a chontractwyr.

Manylion Swydd

Cyfeirnod y Swydd

CS/093/24

Cyflog

£50, 319 - £53, 609 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Lleoliad Gwaith

  • Llangefni

Hawl gwyliau

  • 37 diwrnod y flwyddyn (1 Medi - 31 Awst).
  • Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
  • Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.

Patrwm gweithio

37 awr yr wythnos

Hawliau Pensiwn

Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Math o gytundeb

Llawn Amser Cyfnod Penodol

Dyddiad cau

09 Ion 2025
12:00 YH (Ganol dydd)

Sut i wneud cais

Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg neu’r Saesneg; ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol nac yn arwain at unrhyw oedi.

  1. Lawrlwythwch eich ffurflen gais a’i chadw ar eich cyfrifiadur/dyfais (e.e. ffolder My Documents neu Downloads).
  2. Ewch i'r ffolder sy'n cynnwys y ffurflen gais ac agor y PDF gan ddefnyddio rhaglen megis Adobe Acrobat Reader.
    Peidiwch ag agor y ddogfen yn eich porwr oherwydd efallai na fyddwch yn gallu ei chadw.
  3. Llenwch y ffurflen, gan gynnwys y ffurflen monitro cyfle cyfartal.
  4. Anfonwch eich ffurflen gais orffenedig i jobs@gllm.ac.uk. Dylid defnyddio teitl y swydd a ymgeisir admdani fel llinell pwnc eich e-bost.

Cysylltwch a ni drwy ebost jobs@gllm.ac.uk os ydych angen cymorth neu os oes gennych ymholiad pellach.

Lawrlwytho'r Ffurflen Gais pdf

Mae ein ffurflen gais ar ffurf PDF. Bydd angen rhaglen megis Adobe Acrobat Reader ar eich cyfrifiadur / dyfais i agor a golygu'r ddogfen hon.

Swyddi eraill

Mae gennym nifer o swyddi eraill gan gyflogwyr mewn busnesau bach a mawr ledled yr ardal. Mae'r cyflogwyr a restrir yma'n awyddus i roi cyfle i'r person ifanc iawn.

Hysbysfwrdd Swyddi Cyflogwyr

Achrediadau Cyflogaeth

Logo Leaders in diversity

Datganiad Gwrth-hiliaeth

Yng Ngrŵp Llandrillo Menai, rydym yn rhoi blaenoriaeth i'r egwyddorion sylfaenol o Degwch, Parch, Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant ac Ymgysylltu (FREDIE) ym mhob agwedd ar waith y sefydliad. Rydym yn gadarn yn ein hymrwymiad i feithrin gweithle lle mae pob unigolyn yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi a'i rymuso.

Rydym yn dathlu amrywiaeth ac yn falch o fod yn gymuned lle gall pob unigolyn ffynnu a chyflawni ei botensial. Safwn yn gadarn yn erbyn pob math o hiliaeth, gwahaniaethu, a rhagfarn. ⁠Mae ein perthynas â’r Black Leadership Group yn tanlinellu ein hymrwymiad i ysgogi newid systematig ac i gefnogi tegwch mewn addysg a chyflogaeth.

Fel cyflogwr, rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. ⁠Rydym yn annog ceisiadau gan unigolion o bob cefndir ac yn ymroddedig i sicrhau proses recriwtio gynhwysol a diragfarn.

Tegwch, Parch, Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant ac Ymgysylltu (FREDIE)

  • Mae tegwch wrth wraidd ein gweithrediadau, gan sicrhau triniaeth ddiduedd ar bob lefel.
  • Mae parch yn arwain ein rhyngweithiadau, gan feithrin diwylliant o empathi.
  • Nid nod yn unig yw cydraddoldeb, ond safon ofynnol, gan hyrwyddo cyfle cyfartal waeth beth fo'i gefndir.
  • Mae amrywiaeth yn cael ei ddathlu, gan gydnabod cryfder ein gwahaniaethau a sut y gallant ein gyrru ymlaen.
  • Mae cynhwysiant yn ffynnu trwy ddeialog agored a llwybrau hygyrch i bob llais.
  • Mae ymgysylltu yn hanfodol, gan ein bod yn cynnwys cyflogeion yn weithredol yn y broses o wneud penderfyniadau, gan greu ymdeimlad o berthyn.

Trwy addysg barhaus, ymwybyddiaeth, a mentrau ymroddedig, rydym yn hyrwyddo FREDIE i greu gweithle cytûn a ffyniannus i bawb.

I drafod mater cydraddoldeb ac amrywiaeth, e-bostiwch gt.williams@gllm.ac.uk