Darlithydd Trydanol/Ynni Adnewyddadwy/Peirianneg Pwer
Mae'r Ganolfan Isadeiledd, Sgiliau a Thechnoleg (CIST) yn ganolfan hyfforddi masnachol arloesol wedi’i lleoli yn Llangefni, sy’n cynnig portffolio unigryw a chynyddol o gyrsiau mewn seilwaith, ôl-osod, ynni adnewyddadwy, a hyfforddiant llinellau trydan uwchben. Fel arweinydd mewn hyfforddiant i'r sectorau adeiladu ac ynni, mae CIST wedi ymrwymo i roi'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen ar ddysgwyr i ffynnu mewn diwydiannau sy'n datblygu'n gyflym tuag at gynaliadwyedd ac effeithlonrwydd ynni. Byddwch yn rhan o dîm arloesol a dyfodol cyffrous yn CIST. Mae ein cyfleusterau blaengar yn cynnwys Canolfan Hyfforddi ynghylch Datgarboneiddio - Tŷ Gwyrddfai - gyda chynlluniau i ehangu i gyfleusterau newydd sbon o’r radd flaenaf yn Llanelwy. Mae campws Llangefni a Thŷ Gwyrddfai yn cynnig amgylchedd dysgu deinamig a chynhwysol, sy'n cynnwys: · Prif ganolfan hyfforddi fodern gyda phedair ystafell hyfforddi helaeth, cyfleusterau lles, pedair ystafell cynnal profion, ac ystafell benodol yn cynnwys yr adnoddau Technoleg Gwybodaeth i gynnal profion y Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) · Canolfan hyfforddi arbenigol yn maes sgaffaldiau, a chynigir hyfforddiant fforch godi, codi a chario deunyddiau a hyfforddiant ynghylch ynni adnewyddadwy, gyda thair ystafell hyfforddi ychwanegol · Canolfan Hyfforddi ac Asesu Nwy ACS · Canolfan Hyfforddi ym maes Technoleg Ddi-Garbon sy'n canolbwyntio ar systemau ynni adnewyddadwy blaengar, technegau adeiladu cynaliadwy, ac ôl-osod i sicrhau · Ardaloedd awyr agored helaeth ar gyfer hyfforddiant Gweithredu Peiriannau, Canfod Tanddaearol, Gweithio ar Uchder, a gweithio ar linellau trydan uwchben gan roi profiad ymarferol gydag offer go iawn Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, blaengar, i ymuno â'n tîm arbenigol. Yn y swydd hon, byddwch yn cael y cyfle i gyflwyno hyfforddiant o'r safon uchaf, gan rymuso dysgwyr i ragori mewn meysydd galw uchel fel ôl-osod, ynni adnewyddadwy, peirianneg pŵer, a gweithio ar linellau trydan uwchben. Byddwch yn allweddol wrth siapio gweithlu’r dyfodol, gan gefnogi dysgwyr wrth iddynt ennill y sgiliau ymarferol a damcaniaethol sydd eu hangen i lwyddo yn y sectorau hollbwysig hyn, yn enwedig wrth i’r Deyrnas Unedig weithio tuag at ei thargedau datgarboneiddio. Os ydych chi'n angerddol am addysg, cynaliadwyedd ac arloesi, ac eisiau bod yn rhan o ganolfan ragoriaeth a gydnabyddir yn genedlaethol, rydym yn eich annog i wneud cais. Gyda'n gilydd, byddwn yn sbarduno cynnydd ac yn cynorthwyo i lunio'r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol medrus. Pwrpas y Swydd: Pwrpas swydd Darlithydd mewn Peirianneg Drydanol, Ynni Adnewyddadwy, a Phŵer yn y Ganolfan Isadeiledd, Sgiliau a Thechnoleg (CIST) yw cyflwyno hyfforddiant damcaniaethol ac ymarferol o ansawdd uchel yn unol â safonau cyfredol y diwydiant, gan gynnwys rheoliadau Trydanol a'r Cynllun Ardystio Microgynhyrchu (MCS). Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn trefnu ac yn cynnal sesiynau yn yr ystafell ddosbarth yn ymdrin â phynciau allweddol megis gosodiadau trydanol, technolegau ynni adnewyddadwy, egwyddorion peirianneg pŵer, a meysydd hyfforddi arbenigol megis Gweithio ar linellau trydan uwchben ac Uniadau Foltedd Isel. Yn ogystal â chyflwyno'r theori yn yr ystafell ddosbarth, bydd y darlithydd yn arwain hyfforddiant ymarferol mewn amgylchedd gweithdy ac yn yr awyr agored, gan gynnwys ardaloedd efelychu'r byd go iawn ar gyfer gweithio ar linellau trydan uwchben, cynhyrchu pŵer, a gosod systemau ynni adnewyddadwy. Bydd y dull cynhwysfawr hwn yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen ar ddysgwyr i fodloni gofynion cynyddol y sectorau seilwaith ac ynni. Mae'r swydd hefyd yn cynnwys asesu gwaith dysgwyr, yn yr ystafell ddosbarth a thrwy asesiadau ar y safle yn y gweithleoedd, gan sicrhau bod myfyrwyr yn dangos cymhwysedd wrth ddefnyddio cymwysiadau'r byd go iawn. Mae cydweithio'n agos â Sefydliadau Dyfarnu yn hanfodol i gynnal ansawdd uchel deilliannau dysgwyr, gan sicrhau bod pob asesiad yn bodloni safonau'r diwydiant. A bydd y darlithydd yn ymwybodol o'r datblygiadau diweddaraf mewn peirianneg drydanol, ynni adnewyddadwy, a pheirianneg pŵer, gan ymgorffori datblygiadau newydd yn eu haddysgu i sicrhau bod dysgwyr yn barod ar gyfer yr heriau a'r cyfleoedd esblygol yn y sector, yn enwedig mewn arferion cynaliadwy ac ynni effeithlon. |
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
BD/106/25
Cyflog
£32,303.72 - £49,934.18 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Lleoliad Gwaith
- Llangefni
Hawl gwyliau
46 diwrnod o wyliau yn flynyddol
Pob gwyliau cyhoeddus a arsylwir fel arfer, yn cael eu pennu'n flynyddol.
Hyd at 5 diwrnod o ddiwrnodau cau effeithlonrwydd y flwyddyn, a bennir yn flynyddol.
Patrwm gweithio
37 awr yr wythnos
835 awr o amser addysgu blynyddol – 24 i 26 awr yr wythnos.
Hyd at 5 awr yr wythnos o weithio'r safle gyda chytundeb y rheolwr.
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Athrawon
Math o gytundeb
Llawn Amser Parhaol
Dyddiad cau
27 Ion 2025
12:00 YH
(Ganol dydd)
Lawrlwythiadau
Sut i wneud cais
Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg neu’r Saesneg; ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol nac yn arwain at unrhyw oedi.
- Lawrlwythwch eich ffurflen gais a’i chadw ar eich cyfrifiadur/dyfais (e.e. ffolder My Documents neu Downloads).
- Ewch i'r ffolder sy'n cynnwys y ffurflen gais ac agor y PDF gan ddefnyddio rhaglen megis Adobe Acrobat Reader.
Peidiwch ag agor y ddogfen yn eich porwr oherwydd efallai na fyddwch yn gallu ei chadw. - Llenwch y ffurflen, gan gynnwys y ffurflen monitro cyfle cyfartal.
- Anfonwch eich ffurflen gais orffenedig i jobs@gllm.ac.uk. Dylid defnyddio teitl y swydd a ymgeisir admdani fel llinell pwnc eich e-bost.
Cysylltwch a ni drwy ebost jobs@gllm.ac.uk os ydych angen cymorth neu os oes gennych ymholiad pellach.
Mae ein ffurflen gais ar ffurf PDF. Bydd angen rhaglen megis Adobe Acrobat Reader ar eich cyfrifiadur / dyfais i agor a golygu'r ddogfen hon.
Pam gweithio i ni?
Diffiniadau o sgiliau iaith
Canllawiau i Ddarlithwyr
Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
Swyddi eraill
Mae gennym nifer o swyddi eraill gan gyflogwyr mewn busnesau bach a mawr ledled yr ardal. Mae'r cyflogwyr a restrir yma'n awyddus i roi cyfle i'r person ifanc iawn.
Achrediadau Cyflogaeth
Datganiad Gwrth-hiliaeth
Yng Ngrŵp Llandrillo Menai, rydym yn rhoi blaenoriaeth i'r egwyddorion sylfaenol o Degwch, Parch, Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant ac Ymgysylltu (FREDIE) ym mhob agwedd ar waith y sefydliad. Rydym yn gadarn yn ein hymrwymiad i feithrin gweithle lle mae pob unigolyn yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi a'i rymuso.
Rydym yn dathlu amrywiaeth ac yn falch o fod yn gymuned lle gall pob unigolyn ffynnu a chyflawni ei botensial. Safwn yn gadarn yn erbyn pob math o hiliaeth, gwahaniaethu, a rhagfarn. Mae ein perthynas â’r Black Leadership Group yn tanlinellu ein hymrwymiad i ysgogi newid systematig ac i gefnogi tegwch mewn addysg a chyflogaeth.
Fel cyflogwr, rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn annog ceisiadau gan unigolion o bob cefndir ac yn ymroddedig i sicrhau proses recriwtio gynhwysol a diragfarn.
Tegwch, Parch, Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant ac Ymgysylltu (FREDIE)
- Mae tegwch wrth wraidd ein gweithrediadau, gan sicrhau triniaeth ddiduedd ar bob lefel.
- Mae parch yn arwain ein rhyngweithiadau, gan feithrin diwylliant o empathi.
- Nid nod yn unig yw cydraddoldeb, ond safon ofynnol, gan hyrwyddo cyfle cyfartal waeth beth fo'i gefndir.
- Mae amrywiaeth yn cael ei ddathlu, gan gydnabod cryfder ein gwahaniaethau a sut y gallant ein gyrru ymlaen.
- Mae cynhwysiant yn ffynnu trwy ddeialog agored a llwybrau hygyrch i bob llais.
- Mae ymgysylltu yn hanfodol, gan ein bod yn cynnwys cyflogeion yn weithredol yn y broses o wneud penderfyniadau, gan greu ymdeimlad o berthyn.
Trwy addysg barhaus, ymwybyddiaeth, a mentrau ymroddedig, rydym yn hyrwyddo FREDIE i greu gweithle cytûn a ffyniannus i bawb.
I drafod mater cydraddoldeb ac amrywiaeth, e-bostiwch gt.williams@gllm.ac.uk