Darlithydd Peirianneg, Dolgellau
Mae Adran Adeiladwaith a Pheirianneg Coleg Meirion Dwyfor yn adran flaengar sy'n cynnig cyrsiau mewn ystod o ddisgyblaethau. Mae addysgu a dysgu yn digwydd gyda mynediad at offer safonol y diwydiant ac mewn cyfleusterau modern. O fewn yr adran, mae gennym ddau safle; Hafan (Pwllheli) a CaMDA (Dolgellau), sydd ill dau yn darparu cymwysterau Peirianneg.
Rydym yn chwilio am aelod o staff llawn amser i ymuno ag ochr Beirianneg yr adran; a rydym yn barod i gyflogi person brwd a brwdfrydig sydd â phrofiad mewn meysydd cysylltiedig a pheirianneg, megis dylunio cynnyrch / dylunio a thechnoleg / Ffiseg, a’u huwchsgilio o fewn y Coleg . Gallwn gynnig cyrsiau byr yn unrhyw un o’n chwaer safleoedd, gan gynnwys roboteg, electroneg ddiwydiannol, CAD a CAD/CAM, a gallem edrych ar gyrsiau allanol hefyd. Ar hyn o bryd mae gennym ni ddarlithwyr peirianneg fecanyddol, peirianneg cynhyrchu, peiriannu a weldio rhagorol, a rydym yn edrych am aelod o staff fydd yn ategu hyn. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno safonau uchel o addysgu a dysgu a rhoi cymorth, cyngor ac arweiniad parhaus i fyfyrwyr sy'n hyrwyddo llwyddiant. Hoffem weithio gyda chi i ddatblygu eich sgiliau i gynnig y profiad gorau i ddysgwyr, ac i helpu i symud yr adran yn ei blaen.
Disgwyliadau allweddol y rôl:
1. Addysgu i safon uchel er mwyn creu cyfleoedd dysgu effeithiol ac er mwyn galluogi'r holl ddysgwyr i gyflawni hyd eithaf eu gallu.
2. Darparu profiadau allgyrsiol rhagorol i’n dysgwyr.
3. Cynnal safonau uchel y ddarpariaeth â’r gefnogaeth a roddir i’r dysgwyr.
4. Sichrau bod polisiau a gweithdrefnau’r Grŵp yn cael ei dilyn.
5. Cefnogi dysgwyr i lwyddo er mwyn cyflawni eu targedau neu uwch gan herio ac ymestyn ein dysgwyr.
Noder os gwelwch yn dda : Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus wedi'i leoli ar gampws Pwllheli am 2 ddiwrnod yr wythnos
Am wybodaeth bellach, cysylltwch gyda Marius Jones, Rheolwr Maes Rhaglen - Dolgellau 01341 422 827 ext 8302 neu symudol: 07814068884
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CMD/117/24
Cyflog
£32, 303.72- £49, 934.18 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Lleoliad Gwaith
- Dolgellau
- Wedi ei nodi yn y Swydd Ddisgrifiad
Hawl gwyliau
46 diwrnod y flwyddyn yn ogystal â Gwyliau Banc a diwrnodau effeithlonrwydd/cau y flwyddyn (hyd at 5 diwrnod)
Patrwm gweithio
37 awr yr wythnos 835 awr o amser addysgu blynyddol – 24 i 26 awr yr wythnos. Hyd at 5 awr yr wythnos o weithio oddi ar safle gyda chytundeb y rheolwr. |
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Athrawon
Math o gytundeb
Llawn Amser Parhaol
Dyddiad cau
17 Chwef 2025
12:00 YH
(Ganol dydd)
Lawrlwythiadau
Sut i wneud cais
Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg neu’r Saesneg; ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol nac yn arwain at unrhyw oedi.
- Lawrlwythwch eich ffurflen gais a’i chadw ar eich cyfrifiadur/dyfais (e.e. ffolder My Documents neu Downloads).
- Ewch i'r ffolder sy'n cynnwys y ffurflen gais ac agor y PDF gan ddefnyddio rhaglen megis Adobe Acrobat Reader.
Peidiwch ag agor y ddogfen yn eich porwr oherwydd efallai na fyddwch yn gallu ei chadw. - Llenwch y ffurflen, gan gynnwys y ffurflen monitro cyfle cyfartal.
- Anfonwch eich ffurflen gais orffenedig i jobs@gllm.ac.uk. Dylid defnyddio teitl y swydd a ymgeisir admdani fel llinell pwnc eich e-bost.
Cysylltwch a ni drwy ebost jobs@gllm.ac.uk os ydych angen cymorth neu os oes gennych ymholiad pellach.
Mae ein ffurflen gais ar ffurf PDF. Bydd angen rhaglen megis Adobe Acrobat Reader ar eich cyfrifiadur / dyfais i agor a golygu'r ddogfen hon.
Pam gweithio i ni?
Diffiniadau o sgiliau iaith
Canllawiau i Ddarlithwyr
Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
Swyddi eraill
Mae gennym nifer o swyddi eraill gan gyflogwyr mewn busnesau bach a mawr ledled yr ardal. Mae'r cyflogwyr a restrir yma'n awyddus i roi cyfle i'r person ifanc iawn.
Achrediadau Cyflogaeth
Datganiad Gwrth-hiliaeth
Yng Ngrŵp Llandrillo Menai, rydym yn rhoi blaenoriaeth i'r egwyddorion sylfaenol o Degwch, Parch, Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant ac Ymgysylltu (FREDIE) ym mhob agwedd ar waith y sefydliad. Rydym yn gadarn yn ein hymrwymiad i feithrin gweithle lle mae pob unigolyn yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi a'i rymuso.
Rydym yn dathlu amrywiaeth ac yn falch o fod yn gymuned lle gall pob unigolyn ffynnu a chyflawni ei botensial. Safwn yn gadarn yn erbyn pob math o hiliaeth, gwahaniaethu, a rhagfarn. Mae ein perthynas â’r Black Leadership Group yn tanlinellu ein hymrwymiad i ysgogi newid systematig ac i gefnogi tegwch mewn addysg a chyflogaeth.
Fel cyflogwr, rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn annog ceisiadau gan unigolion o bob cefndir ac yn ymroddedig i sicrhau proses recriwtio gynhwysol a diragfarn.
Tegwch, Parch, Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant ac Ymgysylltu (FREDIE)
- Mae tegwch wrth wraidd ein gweithrediadau, gan sicrhau triniaeth ddiduedd ar bob lefel.
- Mae parch yn arwain ein rhyngweithiadau, gan feithrin diwylliant o empathi.
- Nid nod yn unig yw cydraddoldeb, ond safon ofynnol, gan hyrwyddo cyfle cyfartal waeth beth fo'i gefndir.
- Mae amrywiaeth yn cael ei ddathlu, gan gydnabod cryfder ein gwahaniaethau a sut y gallant ein gyrru ymlaen.
- Mae cynhwysiant yn ffynnu trwy ddeialog agored a llwybrau hygyrch i bob llais.
- Mae ymgysylltu yn hanfodol, gan ein bod yn cynnwys cyflogeion yn weithredol yn y broses o wneud penderfyniadau, gan greu ymdeimlad o berthyn.
Trwy addysg barhaus, ymwybyddiaeth, a mentrau ymroddedig, rydym yn hyrwyddo FREDIE i greu gweithle cytûn a ffyniannus i bawb.
I drafod mater cydraddoldeb ac amrywiaeth, e-bostiwch gt.williams@gllm.ac.uk