Darlithydd Peirianneg (Peirianneg a Thechnolegau Adnewyddadwy)
Pwrpas y swydd Addysgu i safon uchel, creu cyfleoedd dysgu effeithiol a galluogi'r holl ddysgwyr i gyflawni hyd eithaf eu gallu. Eich prif ddiben fel darlithydd peirianneg fydd addysgu ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf trwy ddarparu hyfforddiant o ansawdd uchel, datblygu'r cwricwlwm a mentora'r myfyrwyr. Byddwch yn gyfrifol am gyflwyno gwersi ysgogol a diddorol, asesu cynnydd y myfyrwyr, meithrin sgiliau ymarferol a hyrwyddo datblygiadau newydd. Bydd eich swydd yn ymestyn y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth, ac yn golygu ymgymryd â Datblygiad Proffesiynol Parhaus er mwyn sicrhau eich bod yn gwybod am y datblygiadau diweddaraf yn eich maes, cydweithio â phartneriaid mewn diwydiant i sicrhau perthnasedd y cwricwlaidd a chyfrannu at gynlluniau adrannol. Trwy gydbwyso gwybodaeth ddamcaniaethol â phrofiad ymarferol a chynnal amgylchedd dysgu diogel, eich nod fydd rhoi i'r myfyrwyr y sgiliau, y wybodaeth a'r galluoedd datrys problemau fydd eu hangen arnynt i gael gyrfa lwyddiannus ym maes peirianneg. Ble byddwch chi'n gweithio: Y Ganolfan Peirianneg a Thechnolegau Adnewyddadwy newydd ar gampws y Rhyl Mae'r ganolfan newydd yn darparu addysg a hyfforddiant o'r radd flaenaf i'r sector peirianneg ac yn galluogi dysgwyr i ddatblygu'r sgiliau a fydd yn cefnogi anghenion y diwydiant yn y dyfodol, yn cynnwys sgiliau hanfodol ar gyfer llwybrau dilyniant ym maes: mecaneg, cynnal a chadw, electroneg, trydan, ynni adnewyddadwy, gweithgynhyrchu ychwanegion a thrawsnewid digidol. Mae gan y ganolfan newydd gyfleusterau hyfforddi ac arbenigedd ym maes ynni adnewyddadwy, a rhan o'ch gwaith fydd cefnogi rhaglen brentisiaeth genedlaethol i dechnegwyr tyrbinau gwynt ar y tir a'r môr. Yr adran hefyd sy'n arwain y gystadleuaeth sgiliau Ynni Adnewyddadwy yng Nghymru. Mae'r cyfleuster tri llawr newydd yn 2,886m² ac yn cynnwys gwerth dros £2m o'r offer hyfforddi arbenigol diweddaraf – o ystafelloedd dylunio gyda chymorth cyfrifiaduron i beiriannau prototeipio 3D a gweithdy CNC. Ceir hefyd labordai ar gyfer electroneg, egwyddorion mecanyddol, roboteg, PLCs, Diwydiant 4.0, Realiti Rhithwir a Realiti Estynedig. Dysgwch fwy am ein Canolfan Beirianneg o'r radd flaenaf, campws y Rhyl |
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CL/152/25
Cyflog
£30,619 - £47,330 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Lleoliad Gwaith
- Y Rhyl
Hawl gwyliau
● 46 diwrnod o wyliau yn flynyddol
● Pob gwyliau cyhoeddus a arsylwir fel arfer, yn cael eu pennu'n flynyddol.
● Hyd at 5 diwrnod o ddiwrnodau cau effeithlonrwydd y flwyddyn, a bennir yn flynyddol.
Patrwm gweithio
37 awr yr wythnos 835 awr o amser addysgu blynyddol – 24 i 26 awr yr wythnos. Hyd at 5 awr yr wythnos o weithio'r safle gyda chytundeb y rheolwr. |
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Athrawon
Math o gytundeb
Llawn Amser Parhaol
Dyddiad cau
14 Ebr 2025
12:00 YH
(Ganol dydd)
Lawrlwythiadau
Sut i wneud cais
Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg neu’r Saesneg; ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol nac yn arwain at unrhyw oedi.
- Lawrlwythwch eich ffurflen gais a’i chadw ar eich cyfrifiadur/dyfais (e.e. ffolder My Documents neu Downloads).
- Ewch i'r ffolder sy'n cynnwys y ffurflen gais ac agor y PDF gan ddefnyddio rhaglen megis Adobe Acrobat Reader.
Peidiwch ag agor y ddogfen yn eich porwr oherwydd efallai na fyddwch yn gallu ei chadw. - Llenwch y ffurflen, gan gynnwys y ffurflen monitro cyfle cyfartal.
- Anfonwch eich ffurflen gais orffenedig i jobs@gllm.ac.uk. Dylid defnyddio teitl y swydd a ymgeisir admdani fel llinell pwnc eich e-bost.
Cysylltwch a ni drwy ebost jobs@gllm.ac.uk os ydych angen cymorth neu os oes gennych ymholiad pellach.
Mae ein ffurflen gais ar ffurf PDF. Bydd angen rhaglen megis Adobe Acrobat Reader ar eich cyfrifiadur / dyfais i agor a golygu'r ddogfen hon.
Pam gweithio i ni?
Diffiniadau o sgiliau iaith
Canllawiau i Ddarlithwyr
Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
Swyddi eraill
Mae gennym nifer o swyddi eraill gan gyflogwyr mewn busnesau bach a mawr ledled yr ardal. Mae'r cyflogwyr a restrir yma'n awyddus i roi cyfle i ddysgwyr Grŵp Llandrillo Menai.
Achrediadau Cyflogaeth
Datganiad Gwrth-hiliaeth
Yng Ngrŵp Llandrillo Menai, rydym yn rhoi blaenoriaeth i'r egwyddorion sylfaenol o Degwch, Parch, Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant ac Ymgysylltu (FREDIE) ym mhob agwedd ar waith y sefydliad. Rydym yn gadarn yn ein hymrwymiad i feithrin gweithle lle mae pob unigolyn yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi a'i rymuso.
Rydym yn dathlu amrywiaeth ac yn falch o fod yn gymuned lle gall pob unigolyn ffynnu a chyflawni ei botensial. Safwn yn gadarn yn erbyn pob math o hiliaeth, gwahaniaethu, a rhagfarn. Mae ein perthynas â’r Black Leadership Group yn tanlinellu ein hymrwymiad i ysgogi newid systematig ac i gefnogi tegwch mewn addysg a chyflogaeth.
Fel cyflogwr, rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn annog ceisiadau gan unigolion o bob cefndir ac yn ymroddedig i sicrhau proses recriwtio gynhwysol a diragfarn.
Tegwch, Parch, Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant ac Ymgysylltu (FREDIE)
- Mae tegwch wrth wraidd ein gweithrediadau, gan sicrhau triniaeth ddiduedd ar bob lefel.
- Mae parch yn arwain ein rhyngweithiadau, gan feithrin diwylliant o empathi.
- Nid nod yn unig yw cydraddoldeb, ond safon ofynnol, gan hyrwyddo cyfle cyfartal waeth beth fo'i gefndir.
- Mae amrywiaeth yn cael ei ddathlu, gan gydnabod cryfder ein gwahaniaethau a sut y gallant ein gyrru ymlaen.
- Mae cynhwysiant yn ffynnu trwy ddeialog agored a llwybrau hygyrch i bob llais.
- Mae ymgysylltu yn hanfodol, gan ein bod yn cynnwys cyflogeion yn weithredol yn y broses o wneud penderfyniadau, gan greu ymdeimlad o berthyn.
Trwy addysg barhaus, ymwybyddiaeth, a mentrau ymroddedig, rydym yn hyrwyddo FREDIE i greu gweithle cytûn a ffyniannus i bawb.
I drafod mater cydraddoldeb ac amrywiaeth, e-bostiwch gt.williams@gllm.ac.uk