Darlithydd Dysgu fel Teulu
Mae hwn yn gyfle prin i berson cymwys, egnïol a brwdfrydig ymuno ag un o'r timau Addysg Oedolion gorau yng Nghymru. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu: cyflwyno cynlluniau dysgu fel teulu mewn cydweithrediad ag ysgolion cynradd lleol darparu addysg o ansawdd uchel a chreu cyfleoedd i ddysgu a fydd yn galluogi pob dysgwr i gyflawni hyd eithaf ei allu rhoi gwersi llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol cynorthwyo i ddatblygu’r ddarpariaeth Addysg Oedolion a Chymunedol yng Ngwynedd a Môn. Mae hwn yn gyfnod cyffrous i'r sector Addysg Oedolion gan fod iddo ran flaenllaw i’w chwarae yn y gwaith o gefnogi'r adfywiad economaidd trwy nid yn unig ddarparu cyfleoedd hyfforddiant ond hefyd ysgogi diwylliant o Ddysgu Gydol Oes er budd unigolion a chymunedau. Dysgu Teulu Mewn cydweithrediad ag ysgolion cynradd rydym yn awyddus i ddatblygu ein cynlluniau dysgu fel teulu. Bwriad y rhaglen yw cefnogi rhieni / gwarcheidwaid i feithrin sgiliau sy’n eu galluogi i helpu eu plant gyda gwaith ysgol. Cyflwynir y cyrsiau dysgu fel teulu mewn partneriaeth ag ysgolion cynradd Gwynedd maent yn rhedeg am 12 wythnos ac fe’u targedir at grwpiau blwyddyn a bennir ar y cyd â’r ysgolion unigol. Mae’r cyrsiau'n ymdrin â phynciau llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol i helpu i gefnogi a datblygu sgiliau plant yn y meysydd hyn. Mae'r sesiynau’n rhai hwyliog ac anffurfiol, ac yn adeiladu ar wybodaeth rhieni / gwarcheidwaid ynghylch sut y maent yn mynd ati i gefnogi eu plant I ddysgu. Maent yn cynnig cyfleoedd delfrydol i rieni / gwarcheidwaid wella eu sgiliau eu hunain, gweld sut y gallant gefnogi eu plant i ddysgu a chwrdd â rhieni / gwarcheidwaid a gofalwyr eraill. |
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CM/107/25
Cyflog
£21.83 - £33.74 yr awr (sy'n cynnwys hawl gwyliau), yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Lleoliad Gwaith
- Bangor
- Caernarfon
- Pwllheli
Hawl gwyliau
Bydd hawl i wyliau â thâl pro rata ym mhob blwyddyn academaidd (1 Medi i 31 Awst), sy'n cynnwys hawl pro-rata i 8 Gŵyl Banc a Gwyliau Cyhoeddus a welir fel arfer yng Nghymru a hawl pro-rata o hyd at 5 o wyliau effeithlonrwydd (sylwer y gall hyn newid yn flynyddol). Mae gwyliau blynyddol yn deillio o hawl pro rata cyfwerth ag amser llawn o 46 diwrnod sydd wedi'i gynnwys yn y gyfradd fesul awr a delir.
Patrwm gweithio
Hyd at 6 awr yr wythnos ar gael
Noder - Bydd canran ychwanegol o rhwng 10% - 63.33% (yn amodol ar feini prawf) yn cael ei gymhwyso i'r oriau cytundebol a weithiwyd i adlewyrchu paratoi a marcio.
Wythnosau gwaith - 12 wythnos y flwyddyn heb ei chlymu i tymhorau academaidd.
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Math o gytundeb
Rhan Amser a Delir wrth yr Awr
Dyddiad cau
27 Ion 2025
12:00 YH
(Ganol dydd)
Lawrlwythiadau
Sut i wneud cais
Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg neu’r Saesneg; ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol nac yn arwain at unrhyw oedi.
- Lawrlwythwch eich ffurflen gais a’i chadw ar eich cyfrifiadur/dyfais (e.e. ffolder My Documents neu Downloads).
- Ewch i'r ffolder sy'n cynnwys y ffurflen gais ac agor y PDF gan ddefnyddio rhaglen megis Adobe Acrobat Reader.
Peidiwch ag agor y ddogfen yn eich porwr oherwydd efallai na fyddwch yn gallu ei chadw. - Llenwch y ffurflen, gan gynnwys y ffurflen monitro cyfle cyfartal.
- Anfonwch eich ffurflen gais orffenedig i jobs@gllm.ac.uk. Dylid defnyddio teitl y swydd a ymgeisir admdani fel llinell pwnc eich e-bost.
Cysylltwch a ni drwy ebost jobs@gllm.ac.uk os ydych angen cymorth neu os oes gennych ymholiad pellach.
Mae ein ffurflen gais ar ffurf PDF. Bydd angen rhaglen megis Adobe Acrobat Reader ar eich cyfrifiadur / dyfais i agor a golygu'r ddogfen hon.
Pam gweithio i ni?
Diffiniadau o sgiliau iaith
Canllawiau i Ddarlithwyr
Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
Swyddi eraill
Mae gennym nifer o swyddi eraill gan gyflogwyr mewn busnesau bach a mawr ledled yr ardal. Mae'r cyflogwyr a restrir yma'n awyddus i roi cyfle i'r person ifanc iawn.
Achrediadau Cyflogaeth
Datganiad Gwrth-hiliaeth
Yng Ngrŵp Llandrillo Menai, rydym yn rhoi blaenoriaeth i'r egwyddorion sylfaenol o Degwch, Parch, Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant ac Ymgysylltu (FREDIE) ym mhob agwedd ar waith y sefydliad. Rydym yn gadarn yn ein hymrwymiad i feithrin gweithle lle mae pob unigolyn yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi a'i rymuso.
Rydym yn dathlu amrywiaeth ac yn falch o fod yn gymuned lle gall pob unigolyn ffynnu a chyflawni ei botensial. Safwn yn gadarn yn erbyn pob math o hiliaeth, gwahaniaethu, a rhagfarn. Mae ein perthynas â’r Black Leadership Group yn tanlinellu ein hymrwymiad i ysgogi newid systematig ac i gefnogi tegwch mewn addysg a chyflogaeth.
Fel cyflogwr, rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn annog ceisiadau gan unigolion o bob cefndir ac yn ymroddedig i sicrhau proses recriwtio gynhwysol a diragfarn.
Tegwch, Parch, Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant ac Ymgysylltu (FREDIE)
- Mae tegwch wrth wraidd ein gweithrediadau, gan sicrhau triniaeth ddiduedd ar bob lefel.
- Mae parch yn arwain ein rhyngweithiadau, gan feithrin diwylliant o empathi.
- Nid nod yn unig yw cydraddoldeb, ond safon ofynnol, gan hyrwyddo cyfle cyfartal waeth beth fo'i gefndir.
- Mae amrywiaeth yn cael ei ddathlu, gan gydnabod cryfder ein gwahaniaethau a sut y gallant ein gyrru ymlaen.
- Mae cynhwysiant yn ffynnu trwy ddeialog agored a llwybrau hygyrch i bob llais.
- Mae ymgysylltu yn hanfodol, gan ein bod yn cynnwys cyflogeion yn weithredol yn y broses o wneud penderfyniadau, gan greu ymdeimlad o berthyn.
Trwy addysg barhaus, ymwybyddiaeth, a mentrau ymroddedig, rydym yn hyrwyddo FREDIE i greu gweithle cytûn a ffyniannus i bawb.
I drafod mater cydraddoldeb ac amrywiaeth, e-bostiwch gt.williams@gllm.ac.uk