Darlithydd Gwasanaethau Cyhoeddus/Amddiffynnol
Rydym yn awyddus i benodi darlithydd ym maes Gwasanaethau Cyhoeddus/Gwasanaethau Amddiffyn ar draws lefelau 1 (Cyflwyniad i Wasanaethau Cyhoeddus/Gwasanaethau Amddiffyn) hyd at Lefel 3 (cyfwerth â Safon Uwch). Gallech fod wedi gwasanaethu yn y Gwasanaethau Cyhoeddus/Amddifyn sydd â Gwisg Swyddogol megis y Fyddin, y Llynges, yr Awyrlu, yr Heddlu, Brigâd Dân, Ambiwlans, Parafeddygon, Tollau a Excise a Diogelwch, neu wedi gweithio'n agos gyda'r sector mewn rhyw ffordd, e.e. ymchwilio/cydweithio/gweithio mewn partneriaeth. Y diffiniad o wasanaethau amddiffyn sydd â gwisg swyddogol yw gwasanaethau arfog, yr heddlu, y gwasanaeth tân ac achub a'r gwasanaethau carchar. Byddem yn croesawu ceisiadau gennych os ydych wedi gwasanaethu yn y sector A/NEU wedi gweithio'n agos gyda'r sector hwn. Bydd y swydd yn gyfle i chi ddatblygu fel darlithydd ym maes Gwasanaethau Cyhoeddus/Gwasanaethau Amddiffyn, o dan arweiniad a chyda chefnogaeth yr Arweinwyr Rhaglen sy'n gyfrifol am y ddarpariaeth yn yr adran. Byddai eich dyletswyddau yn cynnwys paratoi a chyflwyno darlithoedd diddorol i'n dysgwyr ynghyd â'r gwaith gweinyddu, asesu a dilysu sy'n gysylltiedig â'r dyletswyddau hyn. Anogwn y defnydd o ddulliau dysgu ac addysgu ymarferol a gweithredol er mwyn gwneud y dysgu'n ddiddorol. Byddwch yn gallu cymhwyso eich gwybodaeth a'ch profiad i'r dysgu a'r addysgu a gyflwynir. Bydd hyn yn sicrhau bod y dysgwyr yn ennill dealltwriaeth a gwerthfawrogiad trylwyr o'r dyletswyddau a'r swyddi y gall dilyn cyrsiau Gwasanaethau Cyhoeddus/Gwasanaethau Amddiffyn roi cyfle iddynt eu profi. Byddai gan ein hymgeisydd delfrydol brofiad o addysgu a phrofiad o'r diwydiant, un ai yn y lluoedd arfog neu mewn gwasanaeth cyhoeddus/gwasanaeth amddiffyn arall. Fodd bynnag, croesewir ceisiadau hefyd gan arbenigwyr eraill o'r gwasanaethau cyhoeddus/gwasanaethau amddiffyn sy'n awyddus i gymryd eu camau cyntaf i'r maes addysgu. |
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CM/111/25
Cyflog
£21.83 - £33.74 yr awr (sy'n cynnwys hawl gwyliau), yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Lleoliad Gwaith
- Llangefni
Hawl gwyliau
Bydd hawl i wyliau â thâl pro rata ym mhob blwyddyn academaidd (1 Medi i 31 Awst), sy'n cynnwys hawl pro-rata i 8 Gŵyl Banc a Gwyliau Cyhoeddus a welir fel arfer yng Nghymru a hawl pro-rata o hyd at 5 o wyliau effeithlonrwydd (sylwer y gall hyn newid yn flynyddol). Mae gwyliau blynyddol yn deillio o hawl pro rata cyfwerth ag amser llawn o 46 diwrnod sydd wedi'i gynnwys yn y gyfradd fesul awr a delir.
Patrwm gweithio
Hyd at 12 awr yr wythnos Dydd Llun – Dydd Gwener, yn ystod y dydd, yn ystod tymor y Coleg - 35 wythnos. Patrwm gwaith i’w gytuno yn ddibynnol ar argaeledd. Maer pwnc a lefel y ddarpariaeth yn seiliedig ar gymwysterau a phrofiad Bydd canran ychwanegol o rhwng 10% - 63.33% (yn amodol ar feini prawf) yn cael ei gymhwyso i'r oriau cytundebol a weithiwyd i adlewyrchu paratoi a marcio. |
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Athrawon
Math o gytundeb
Rhan Amser a Delir wrth yr Awr
Dyddiad cau
03 Chwef 2025
12:00 YH
(Ganol dydd)
Lawrlwythiadau
Sut i wneud cais
Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg neu’r Saesneg; ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol nac yn arwain at unrhyw oedi.
- Lawrlwythwch eich ffurflen gais a’i chadw ar eich cyfrifiadur/dyfais (e.e. ffolder My Documents neu Downloads).
- Ewch i'r ffolder sy'n cynnwys y ffurflen gais ac agor y PDF gan ddefnyddio rhaglen megis Adobe Acrobat Reader.
Peidiwch ag agor y ddogfen yn eich porwr oherwydd efallai na fyddwch yn gallu ei chadw. - Llenwch y ffurflen, gan gynnwys y ffurflen monitro cyfle cyfartal.
- Anfonwch eich ffurflen gais orffenedig i jobs@gllm.ac.uk. Dylid defnyddio teitl y swydd a ymgeisir admdani fel llinell pwnc eich e-bost.
Cysylltwch a ni drwy ebost jobs@gllm.ac.uk os ydych angen cymorth neu os oes gennych ymholiad pellach.
Mae ein ffurflen gais ar ffurf PDF. Bydd angen rhaglen megis Adobe Acrobat Reader ar eich cyfrifiadur / dyfais i agor a golygu'r ddogfen hon.
Pam gweithio i ni?
Diffiniadau o sgiliau iaith
Canllawiau i Ddarlithwyr
Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
Swyddi eraill
Mae gennym nifer o swyddi eraill gan gyflogwyr mewn busnesau bach a mawr ledled yr ardal. Mae'r cyflogwyr a restrir yma'n awyddus i roi cyfle i'r person ifanc iawn.
Achrediadau Cyflogaeth
Datganiad Gwrth-hiliaeth
Yng Ngrŵp Llandrillo Menai, rydym yn rhoi blaenoriaeth i'r egwyddorion sylfaenol o Degwch, Parch, Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant ac Ymgysylltu (FREDIE) ym mhob agwedd ar waith y sefydliad. Rydym yn gadarn yn ein hymrwymiad i feithrin gweithle lle mae pob unigolyn yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi a'i rymuso.
Rydym yn dathlu amrywiaeth ac yn falch o fod yn gymuned lle gall pob unigolyn ffynnu a chyflawni ei botensial. Safwn yn gadarn yn erbyn pob math o hiliaeth, gwahaniaethu, a rhagfarn. Mae ein perthynas â’r Black Leadership Group yn tanlinellu ein hymrwymiad i ysgogi newid systematig ac i gefnogi tegwch mewn addysg a chyflogaeth.
Fel cyflogwr, rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn annog ceisiadau gan unigolion o bob cefndir ac yn ymroddedig i sicrhau proses recriwtio gynhwysol a diragfarn.
Tegwch, Parch, Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant ac Ymgysylltu (FREDIE)
- Mae tegwch wrth wraidd ein gweithrediadau, gan sicrhau triniaeth ddiduedd ar bob lefel.
- Mae parch yn arwain ein rhyngweithiadau, gan feithrin diwylliant o empathi.
- Nid nod yn unig yw cydraddoldeb, ond safon ofynnol, gan hyrwyddo cyfle cyfartal waeth beth fo'i gefndir.
- Mae amrywiaeth yn cael ei ddathlu, gan gydnabod cryfder ein gwahaniaethau a sut y gallant ein gyrru ymlaen.
- Mae cynhwysiant yn ffynnu trwy ddeialog agored a llwybrau hygyrch i bob llais.
- Mae ymgysylltu yn hanfodol, gan ein bod yn cynnwys cyflogeion yn weithredol yn y broses o wneud penderfyniadau, gan greu ymdeimlad o berthyn.
Trwy addysg barhaus, ymwybyddiaeth, a mentrau ymroddedig, rydym yn hyrwyddo FREDIE i greu gweithle cytûn a ffyniannus i bawb.
I drafod mater cydraddoldeb ac amrywiaeth, e-bostiwch gt.williams@gllm.ac.uk