Gwella eich dyfodol drwy weithio i ni
Grŵp Llandrillo Menai yw rhiant-sefydliad Coleg Llandrillo, Coleg Menai a Choleg Merion-Dwyfor sy'n cyflogi dros 1,500 o staff i gefnogi dros 20,000 o ddysgwyr.
Ynghylch Grŵp Llandrillo Menai
Ni yw un o’r colegau mwyaf yn y DU, sy’n ymroddedig i wella dyfodol pobl ar draws ehangder rhai o’r lleoedd mwyaf rhyfeddol yng Ngogledd Cymru.Fel un o gyflogwyr mwyaf y maes, mae’r Grŵp yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu eich gyrfa ar draws amrywiaeth o broffesiynau boed hynny fel rhan o’r tîm darlithio rheng flaen neu ym maes cefnogi a rheoli busnes. Beth bynnag fo’ch sgiliau a’ch dyheadau, os oes gennych ymroddiad i addysg a gwasanaethau cyhoeddus, byddwn yno i’ch annog a’ch cefnogi i gyrraedd eich potensial.
Ein Gyrfaoedd
Rydym yn cyflogi dros 1,500 o staff gan gynnig cyfleoedd mewn amrywiaeth eang o broffesiynau.
Proffesiynau
Pa sgiliau bynnag sydd gennych, mae gennym swydd sy’n addas i chi. Mae’r swyddi hyn yn cynnwys:
- Cynghori ac Arwain
- Gweinyddu
- Datblygu Busnes
- Prosiectau Cyfalaf
- Gofalu am Adeiladau
- Cynorthwywyr Ystafell Ddosbarth a Gweithwyr Cymorth
- Glanhau
- Hyfforddi ac Asesu
- Rheolaeth Ystâd
- Rheolaeth Fferm
- Cyllid
- Rheoli Cerbydau’r Coleg
- Iechyd a Diogelwch
- Lletygarwch ac Arlwyo
- Adnoddau Dynol
- TGCh
- Cymorth Dysgu
- Gwasanaethau Llyfrgell
- Marchnata
- Rheoli
- Caffael
- Rheoli Prosiectau
- Ansawdd
- Staff y Derbynfeydd
- Technegwyr
Darlithwyr
Wrth gwrs, ni fyddai dim yn bosibl heb ein darlithwyr sy’n arbenigo mewn pob math o feysydd, yn cynnwys:
- Celf a Dylunio
- Busnes
- Cyfrifiadura
- Adeiladu
- Peirianneg
- Trin Gwallt a Therapi Harddwch
- Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
- Lletygarwch ac Arlwyo
- Sgiliau Byw’n Annibynnol
- Astudiaethau Diwydiannau’r Tir
- Technoleg Forol
- Cyfryngau, Teledu a Ffilm
- Technoleg Cerbydau Modur
- Cerddoriaeth
- Celfyddydau Perfformio
- Gwasanaethau Cyhoeddus
- Chwaraeon ac Addysg Awyr Agored
- Teithio a Thwristiaeth
Felly, os oes gennych yr awydd, gallwn gynnig i chi yrfa lewyrchus, hir ac amrywiol.
Ein Buddion
Yn ogystal â chael cyflog cystadleuol, gall gweithwyr Grŵp Llandrillo Menai fanteisio ar nifer o fuddion ychwanegol.
Cyflog
Mae ein graddfeydd cyflog yn cymharu’n ffafriol â’r hyn a gynigir gan gyflogwyr eraill yng Ngogledd Cymru. Gall y staff addysgu dderbyn hyd at £47,000 y flwyddyn, gyda swyddi rheoli a chefnogi yn talu hyd at £66,000 y flwyddyn.
Pensiwn
Yn ogystal â chael cyflog cystadleuol, cewch ymuno ag un ai’r Cynllun Pensiwn Athrawon neu’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Mae’r ddau gynllun yn cynnig buddion na cheir eu tebyg yn y sector preifat gan eich helpu i wireddu eich breuddwydion tymor hir.
Gwyliau
Caiff darlithwyr 46 diwrnod o wyliau’r flwyddyn, gyda rheolwyr a staff cefnogi busnes yn cael rhwng 28 a 37 diwrnod. Beth bynnag fo’ch swydd, rydym yn rhoi hyd at 5 diwrnod o wyliau ychwanegol i bawb dros y Nadolig. Rydych yn gweithio’n galed, felly’n mae’n bwysig eich bod yn treulio amser gyda’r teulu ac yn cael cyfle i gael eich gwynt atoch.
Hyblygrwydd
Rydym yn awyddus i gefnogi staff i gael cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, ac mae contractau cenedlaethol amrywiol wedi’u cytuno â’r undebau er mwyn sicrhau hyn. Mae’r oriau a’r dyddiau gwaith yn cael eu cytuno er mwyn bodloni anghenion yr unigolyn a’r sefydliad.
Hyfforddi a datblygu
Drwy gynnig gyrfa i chi mae’r Grŵp yn ymroi i ddarparu datblygiad proffesiynol parhaus a chyfleoedd i gael hyfforddiant arbenigol, un ai yn y Grŵp neu gan bartneriaid ledled y wlad.
Cyfleusterau
Mae gan y Grŵp gyfleusterau diguro. Cewch ddefnyddio’r rhain i gyd, o’r bwytai sydd wedi ennill gwobrau lu i’r campfeydd, y llyfrgelloedd a’r salonau gwallt a harddwch. Cewch hefyd ddefnyddio cyfleusterau sefydliadau eraill.
Amgylcheddol
Rhaid i’r Grŵp chwarae ei ran yn yr ymdrech i fynd i’r afael â newid hinsawdd. Rydym yn aelod o’r ‘cynllun beicio i’r gwaith’ ac mae gennym hefyd gynllun mewnol i rannu ceir.
TGCh
Mae’r dechnoleg ddiguro a’r gefnogaeth a geir gan arbenigwyr brwd yr adran TGCh yn galluogi staff i weithio’n hyblyg ar holl safleoedd y Grŵp ac o adref.
Gwasanaethau Iechyd Galwedigaethol a Chwnsela
Mae pawb angen cymorth o bryd i’w gilydd. Os bydd angen gallwch gael cyngor a chefnogaeth gan wasanaeth iechyd galwedigaethol proffesiynol, ac mae hyn yn cynnwys gwasanaeth cwnsela. Mae eich iechyd corfforol a meddyliol yn hanfodol i lwyddiant y Grŵp, felly rydym yn darparu adolygiadau rheolaidd i sicrhau bod eich gwaith a’ch amgylchedd yn eich cefnogi i gyflawni eich potensial.
Gostyngiadau i staff
Mae ein partneriaeth â Vectis yn eich galluogi i hawlio gostyngiadau mewn cannoedd o siopau ledled y wlad. Drwy aberthu cyflog, gallwch fanteisio ar gynlluniau sy’n cynnig talebau gofal plant. Trwy’r Grŵp gallwch hefyd fanteisio ar gynllun buddion ceir sy’n ffordd glyfar o redeg car. Caiff cyfanswm penodol ei gymryd yn uniongyrchol o’ch cyflog gros bob mis sy’n golygu eich bod yn gwneud arbedion ac yn cael car newydd sbon.
Daearyddiaeth
O fyw yng Ngogledd Cymru gallwch fanteisio ar brisiau tai cystadleuol a mwynhau cyfoeth naturiol y mynyddoedd, y llynnoedd a’r môr.
Y Gymraeg
Y Grŵp yw darparwr mwyaf cyrsiau hyfforddi cyfrwng Cymraeg yng Nghymru. Beth bynnag fo’ch sgiliau, mae’r Coleg wedi ymrwymo i’ch helpu i’w datblygu ymhellach drwy ddefnyddio tiwtoriaid, cyrsiau a chyfleusterau ar-lein. Ac wrth gwrs, mae’r amgylchiadau a geir yma’n ddelfrydol ar gyfer ymarfer yr iaith.
Aelodaeth o Undeb
Mae gan y Coleg berthynas ragorol â’r undebau sydd wedi cael cydnabyddiaeth ffurfiol i gefnogi darlithwyr, rheolwyr a staff cefnogi busnes. Ar sail eich gyrfa, anogir chi felly i ystyried ymaelodi ag un ai UCU, UCAC, UNSAIN, UNITE neu NEU.
Sesiynau Cynefino ac Ymgysylltiad Staff
Mae’r dyddiau, yr wythnosau a’r misoedd cyntaf yn hollbwysig i weithwyr newydd.
Gan fod y Grŵp wedi ymrwymo i feithrin y berthynas gynnar hon, mae’n cynnig rhaglen gynefino gynhwysfawr a thrylwyr sydd wedi’i theilwra’n arbennig i chi a’ch swydd newydd.
Bydd yr adran AD a’ch rheolwr llinell yn egluro hyn i chi, a bydd eich cynnydd yn cael ei fonitro yn eich ffeil ar-lein bersonol.
Bydd y daith bersonol hon yn cynnwys:
- Cyflwyniadau i’ch tîm, eich cydweithwyr a’ch adrannau
- Manylion systemau TG, yn cynnwys rhoi eich cyfrineiriau i chi
- Cyflwyniad i gyfleusterau hyfforddiant ar-lein
- Cyflwyniad i drefnau iechyd a diogelwch
- Cyflwyniad i’ch mentor personol
- Cyflwyniad i safle’r coleg a’r adran
- Eglurhad o’r swydd, y dyletswyddau a’r disgwyliadau
- Golwg gyffredinol ar y cyfleusterau ar-lein, yn cynnwys y polisïau AD. Bydd cyfle hefyd i ofyn cwestiynau a dysgu rhagor amdanom.
Pam gweithio i ni?
Diffiniadau o sgiliau iaith
Canllawiau i Ddarlithwyr
Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
Swyddi eraill
Mae gennym nifer o swyddi eraill gan gyflogwyr mewn busnesau bach a mawr ledled yr ardal. Mae'r cyflogwyr a restrir yma'n awyddus i roi cyfle i'r person ifanc iawn.