Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Aseswr Dysgu yn y Gweithle – Gofal Plant a Cynorthwyydd Addysgu

Mae'r adran gofal plant yn cynnig ystod o gymwysterau sef gofal plant, plant a phobl ifanc, cynorthwyydd addysgu a hefyd mewn gwaith chwarae. Golyga'r swydd hon fod yn gyfrifol am recriwtio, cadw a rheoli llwyth achosion safonol o ddysgwyr sydd wedi dewis cofrestru ar gymwysterau Gofal Plant/ neu Plant a Phobl ifanc.

Mae'r Asesydd yn gyfrifol am ddarparu hyfforddiant, asesu, a sicrhau ansawdd gwaith y dysgwyr. Bydd yr asesydd yn goruchwylio dealltwriaeth a chymhwysedd ymarferol y dysgwyr yn y gweithle.

Bydd disgwyl i’r aseswr recriwtio, cefnogi ac annog gweithgareddau marchnata yn unol â maes y Rhaglen, ac ymgysylltu â digwyddiadau ymgysylltu â chyflogwyr ar gyfer amrywiaeth o gymwysterau mewn Gofal Plant, Cynorthwywyr Addysgu, Plant a Phobl ifanc a Gwaith Chwarae a chefnogi cyd-aseswyr. Mae’n rhaid i’r aseswr gefnogi a monitro cynnydd y dysgwyr a chwblhau’n amserol, a mynychu cyfarfodydd Maes Rhaglen a safoni.

O ddydd i ddydd bydd y swydd yn golygu cyfarfod â dysgwyr a chyflogwyr mewn lleoliadau gwaith gwahanol. Ar y cyfan, bydd hyn yn digwydd yn ddigidol ond bydd peth teithio'n ddisgwyliedig, gan weithio'n annibynnol i sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion cymwysterau.

Bydd gofyn i'r asesydd feddu ar y sgiliau i gynllunio ymweliadau mewn modd rhesymegol o ran cyfyngu ar deithio a gwneud y defnydd gorau o amser. Yn ogystal, bydd yn darparu adnoddau a chefnogaeth i fodloni anghenion unigol pob dysgwr yn ei ddewis iaith.

Manylion Swydd

Cyfeirnod y Swydd

BD/149/25

Cyflog

£17,470.45 - £18,958.16 y flwyddyn (cyflog gwirioneddol), yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Lleoliad Gwaith

  • Bangor
  • Dolgellau

Hawl gwyliau

  • 28 diwrnod y flwyddyn, yn codi i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor (01 Medi i 31 Awst).
  • Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
  • Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod ar gau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.
  • Bydd gan y rhai ar gontractau Rhan-amser hawl pro rata i'r hyn a nodir uchod

Patrwm gweithio

22.5 awr yr wythnos

Hawliau Pensiwn

Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Math o gytundeb

Rhan Amser Parhaol

Dyddiad cau

31 Maw 2025
12:00 YH (Ganol dydd)

Sut i wneud cais

Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg neu’r Saesneg; ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol nac yn arwain at unrhyw oedi.

  1. Lawrlwythwch eich ffurflen gais a’i chadw ar eich cyfrifiadur/dyfais (e.e. ffolder My Documents neu Downloads).
  2. Ewch i'r ffolder sy'n cynnwys y ffurflen gais ac agor y PDF gan ddefnyddio rhaglen megis Adobe Acrobat Reader.
    Peidiwch ag agor y ddogfen yn eich porwr oherwydd efallai na fyddwch yn gallu ei chadw.
  3. Llenwch y ffurflen, gan gynnwys y ffurflen monitro cyfle cyfartal.
  4. Anfonwch eich ffurflen gais orffenedig i jobs@gllm.ac.uk. Dylid defnyddio teitl y swydd a ymgeisir admdani fel llinell pwnc eich e-bost.

Cysylltwch a ni drwy ebost jobs@gllm.ac.uk os ydych angen cymorth neu os oes gennych ymholiad pellach.

Lawrlwytho'r Ffurflen Gais pdf

Mae ein ffurflen gais ar ffurf PDF. Bydd angen rhaglen megis Adobe Acrobat Reader ar eich cyfrifiadur / dyfais i agor a golygu'r ddogfen hon.

Swyddi eraill

Mae gennym nifer o swyddi eraill gan gyflogwyr mewn busnesau bach a mawr ledled yr ardal. Mae'r cyflogwyr a restrir yma'n awyddus i roi cyfle i ddysgwyr Grŵp Llandrillo Menai.

Hysbysfwrdd Swyddi Cyflogwyr

Achrediadau Cyflogaeth

Logo Leaders in diversity

Datganiad Gwrth-hiliaeth

Yng Ngrŵp Llandrillo Menai, rydym yn rhoi blaenoriaeth i'r egwyddorion sylfaenol o Degwch, Parch, Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant ac Ymgysylltu (FREDIE) ym mhob agwedd ar waith y sefydliad. Rydym yn gadarn yn ein hymrwymiad i feithrin gweithle lle mae pob unigolyn yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi a'i rymuso.

Rydym yn dathlu amrywiaeth ac yn falch o fod yn gymuned lle gall pob unigolyn ffynnu a chyflawni ei botensial. Safwn yn gadarn yn erbyn pob math o hiliaeth, gwahaniaethu, a rhagfarn. ⁠Mae ein perthynas â’r Black Leadership Group yn tanlinellu ein hymrwymiad i ysgogi newid systematig ac i gefnogi tegwch mewn addysg a chyflogaeth.

Fel cyflogwr, rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. ⁠Rydym yn annog ceisiadau gan unigolion o bob cefndir ac yn ymroddedig i sicrhau proses recriwtio gynhwysol a diragfarn.

Tegwch, Parch, Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant ac Ymgysylltu (FREDIE)

  • Mae tegwch wrth wraidd ein gweithrediadau, gan sicrhau triniaeth ddiduedd ar bob lefel.
  • Mae parch yn arwain ein rhyngweithiadau, gan feithrin diwylliant o empathi.
  • Nid nod yn unig yw cydraddoldeb, ond safon ofynnol, gan hyrwyddo cyfle cyfartal waeth beth fo'i gefndir.
  • Mae amrywiaeth yn cael ei ddathlu, gan gydnabod cryfder ein gwahaniaethau a sut y gallant ein gyrru ymlaen.
  • Mae cynhwysiant yn ffynnu trwy ddeialog agored a llwybrau hygyrch i bob llais.
  • Mae ymgysylltu yn hanfodol, gan ein bod yn cynnwys cyflogeion yn weithredol yn y broses o wneud penderfyniadau, gan greu ymdeimlad o berthyn.

Trwy addysg barhaus, ymwybyddiaeth, a mentrau ymroddedig, rydym yn hyrwyddo FREDIE i greu gweithle cytûn a ffyniannus i bawb.

I drafod mater cydraddoldeb ac amrywiaeth, e-bostiwch gt.williams@gllm.ac.uk

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date