Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Gwybodaeth Bwysig i Rieni, Gofalwyr a Gwarcheidwaid

Diolch i chi am ein hystyried ni ar gyfer taith addysgol eich plentyn. Gyda’n gilydd, gadewch i ni ei roi ar lwybr clir i lwyddiant.

Rydym yn credu mewn meithrin potensial pob dysgwr i gael dyfodol llwyddiannu

Yn y coleg rydym yn rhoi blaenoriaeth i greu amgylchedd dysgu diogel a chefnogol. Trwy gyfathrebu’n agored â rhieni a darparu gwybodaeth reolaidd ar gynnydd dysgwyr, rydym yn sicrhau eich
bod yn cael gwybod popeth sydd ei angen arnoch am daith academaidd eich plentyn.

Credwn fod cydweithrediad rhwng rhieni, dysgwyr a chymuned y coleg yn bwysig, a’n bod yn gweithio gyda’n gilydd i sicrhau’r profiadau gorau posibl ar gyfer addysg a thwf personol eich plentyn.

Our aim is to ensure that all our learners are treated with respect and that we equip them with the skills and qualities to succeed in life. Our values at the college are based on:

Ein nod yw sicrhau bod ein holl ddysgwyr yn cael eu trin â pharch a’n bod yn eu harfogi â’r sgiliau a’r rhinweddau i lwyddo mewn bywyd. Mae ein gwerthoedd yn y coleg yn seiliedig ar:

  • Cydraddoldeb
  • Ymddiriedaeth
  • Tegwch
  • Gonestrwydd
  • Uchelgais

Ac rydym yn disgwyl y bydd ein dysgwyr yn:

  • Trin ei gilydd, staff ac ymwelwyr â pharch a chwrteisi
  • Parchu a dathlu amrywiaeth
  • Ymfalchïo yn niwylliant ac iaith Cymru
  • Lleisio eu barn a chymryd rhan yn eu cymunedau
  • Manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd o ran addysg a hyfforddiant a ddarperir ar eu cyfer
  • Ymgyrraedd at y safonau uchaf
  • Ymddwyn yn gyfrifol, gan barchu eu lles a’u diogelwch eu hunain ac eraill
  • Parchu’r amgylchedd a’r adnoddau a ddarperir ar eu cyfer
  • Cydweithio’n effeithiol ac yn broffesiynol â’u cyd-ddysgwyr
  • Ymdrechu i fagu hyder a meithrin sgiliau cyflogadwyedd

Safonau a Disgwyliadau
Rydym bob amser y pwysleisio pwysigrwydd ymddygiad proffesiynol ymhlith ein dysgwyr, a rhaid iddynt i gyd:

  • Fod â phresenoldeb a phrydlondeb rhagorol
  • Gwisgo eu laniardau adnabod bob amser - mae’r rhain yn helpu i gadw ein campysau’n ddiogel
  • Cadw’r safonau a ddisgwylir mewn dosbarthiadau a gweithdai, e.e. gwisgo cyfarpar diogelu personol (PPE)
  • Parchu ei gilydd a’r gymuned leol
  • Ymddwyn yn broffesiynol ar y campws

Rydym o ddifri ynghylch ein cyfrifoldeb i ddatblygu dysgwyr i fod yn ‘ddinasyddion da’, yn y gweithle ac yn y gymuned ehangach.

Myfyriwr mewn labordy gwyddoniaeth

Beth sy’n rhan o raglen astudio lawn amser?

Beth bynnag yw’ch nod ar gyfer dyfodol eich plentyn, mae gennym gwrs a fydd at ei ddant. Yn ogystal â chwricwlwm Safon Uwch eang, mae gennym hefyd ddewis helaeth o gyrsiau galwedigaethol mewn dros 25 maes pwnc.

Ar ben hyn, bydd eich plentyn yn datblygu sgiliau cyfathrebu a rheoli amser a sgiliau sy’n gysylltiedig â meithrin annibyniaeth, gwaith tîm, sgiliau cymdeithasol a phrofiad gwaith fel ei fod yn barod am fyd gwaith neu addysg uwch pan fydd yn gadael y coleg.

Mae rhaglen astudio pob dysgwr wedi’i theilwra i’w anghenion unigol er mwyn ei helpu i gyflawni ei nodau addysgol a gyrfaol. Bydd pob rhaglen astudio’n
seiliedig ar y cymwysterau mynediad cychwynnol ac yn dangos llwybr clir i sut y gall pob dysgwr symud ymlaen o’r coleg i gyflogaeth.

Ochr yn ochr â’i gwrs llawn amser, bydd eich plentyn hefyd yn astudio:

Saesneg/Cymraeg a Mathemateg:

Os na lwyddodd eich plentyn i sicrhau TGAU gradd C neu uwch mewn Mathemateg/Rhifedd a/neu Gymraeg/Saesneg, rydym yn cefnogi dysgwyr i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o’u rhaglen astudio.

Ond, gan y bydd ailsefyll y cymwysterau TGAU hyn yn dreth ychwanegol ar eu hamser, bydd o fantais iddynt wneud eu gorau glas i gael graddau da’r tro cyntaf y byddant yn eu sefyll. Beth bynnag yw eu canlyniadau TGAU, bydd disgwyl i’r holl ddysgwyr ddatblygu eu sgiliau rhifedd a llythrennedd. Bydd cyfleoedd i wneud hyn yn rhan annatod o dasgau aseiniad cyrsiau, yn ogystal â phrofiad gwaith a gweithgareddau eraill. Yn achos llawer o gyrsiau, rydym yn gofyn am nifer penodol o TGAU gradd A*-C a gorau oll os ydynt yn cynnwys Mathemateg a Chymraeg/Saesneg.

Sgiliau Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd:

Os yw’ch plentyn wedi sicrhau TGAU mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg pan fydd yn dechrau yn y coleg, bydd yn cwblhau cymhwyster Llythrennedd Digidol a/neu Cyflogadwyedd yn rhan o’i raglen astudio.

Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch:

Mae’r cymhwyster newydd ac arloesol hwn wedi’i raddio A*-E ac yn cynnwys yr un pwyntiau UCAS â Lefel A ychwanegol.

Mae’r cwrs yn helpu eich plentyn i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy hanfodol i’w gefnogi i ddod yn ddinesydd effeithiol, cyfrifol a gweithgar. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr. Yn rhan o’r cymhwyster, bydd yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, yn ymgysylltu â’r gymuned, yn gweithio ar ei lwybr gyrfa a’i gyrchfan nesaf ac yn cwblhau Prosiect Ymchwil Unigol ar bwnc o’i ddewis.

Myfyriwr trin gwallt

Pam dewis dod i'r coleg?

Addysg o Ansawdd Uchel
Addysg eich plentyn yw ein blaenoriaeth. Mae ein tiwtoriaid profiadol a brwdfrydig wedi ymroi i ddarparu addysg o ansawdd uchel sy’n mynd y tu hwnt
i’r hyn a geir mewn gwerslyfrau. Rydym yn ymdrechu i ysbrydoli, herio, ac ennyn diddordeb dysgwyr drwy gynnig profiadau dysgu deinamig.

Mae ein tiwtoriaid yn arbenigwyr yn eu meysydd ac yn dod â gwybodaeth am ddiwydiant i’r ystafell ddosbarth – gan baratoi ein dysgwyr at fyd gwaith.

Drwy ddewis dod i’r coleg i astudio caiff eich plentyn fynediad at ystod eang o gyrsiau, offer ac adnoddau arbenigol, a darlithwyr ymroddgar sydd â phrofiad proffesiynol yn eu maes.

Cyfleoedd i Gyfoethogi Profiadau Dysgwyr
Rydym yn sylweddoli nad yn yr ystafell ddosbarth yn unig y mae dysgu’n digwydd, felly mae gennym raglen amrywiol i gyfoethogi profiadau dysgwyr
mewn meysydd allweddol fel cydraddoldeb, materion amgylcheddol, cadw’n ddiogel, iechyd a ffitrwydd a sut i ofalu am ein hiechyd meddwl.

Cynhelir gweithgareddau drwy gydol y flwyddyn ac fe’u cefnogir gan ein hundeb myfyrwyr sydd wedi ennill gwobrau am ei waith ac sy’n gweithio gyda ni i lunio’r
rhaglen gyfoethogi ac i annog cyfranogiad.

Gall hyn gynnwys cymryd rhan mewn amrywiol chwaraeon, am hwyl neu’n gystadleuol, yn ogystal â nifer o weithgareddau drwy gydol y flwyddyn academaidd a
fydd yn cyfoethogi eu profiadau. Gall y gweithgareddau hyn eu helpu i feithrin annibyniaeth, sgiliau ymdrin â phobl, hyder a rhoi profiad gwerthfawr iddynt o fywyd.

Canlyniadau Rhagorol
Bob blwyddyn, bydd ein dysgwyr yn cael canlyniadau rhagorol ac yn dewis un ai parhau â’u hastudiaethau mewn prifysgol neu fynd ymlaen i fyd gwaith. O feddygon i bobl fusnes, mae llawer o’n dysgwyr wedi mynd ymlaen i gael llwyddiannau rhyfeddol mewn amrywiol feysydd.

Rydym yn hynod falch o’r ffordd mae’r coleg yn cyfrannu’n gadarnhaol at sicrhau dyfodol disglair i’n myfyrwyr.

Yn 2024, roedd cyfradd llwyddo ein dysgwyr Safon Uwch yn 99% ac aeth llawer ohonynt ymlaen i astudio ym mhrifysgolion Caergrawnt a Rhydychen a phrifysgolion blaenllaw eraill sy’n perthyn i Grŵp Russell.

Mae ein prentisiaid wedi ennill llu o wobrau nodedig sy’n cynnwys gwobr ‘Prentis y Flwyddyn’ Redrow a ‘Medal Ragoriaeth’ yn rownd derfynol cystadleuaeth
WorldSkills. Mae llawer o ddysgwyr yn cymryd rhan yng nghystadlaethau WorldSkills ac athletwyr talentog o’r academïau wedi mynd ymlaen i gynrychioli Cymru ar lefel ryngwladol.

Cyfleusterau Penigamp

Bydd eich plentyn yn elwa ar gyfleusterau o’r radd flaenaf sydd ddim ond ar gael yma yn y coleg.

Ymhlith ein buddsoddiadau diweddar mae canolfan chwaraeon newydd gwerth £7m ar ein campws yn Llangefni a chanolfan beirianneg gwerth £13m ar
gampws y Rhyl. Ond dim ond cyfran fechan o’n buddsoddiad yw hyn i sicrhau bod gan y coleg rai o’r cyfleusterau gorau yng Nghymru.

O ystafelloedd realiti rhithwir i salonau harddwch, mae ein safleoedd yn cynnig yr offer diweddaraf sydd o’r un safon ag a geir mewn diwydiant. Bydd hyn yn rhoi
profiad i’ch plentyn o’r byd go iawn ac yn ei baratoi ar gyfer cael gyrfa.

Cymorth i Ddysgwyr
Yma yn y coleg, rydym yn deall pwysigrwydd cefnogaeth, ac mae gennym dîm pwrpasol sydd wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd cefnogol i bob dysgwr.

Dyfarnodd arolygiad diwethaf y llywodraeth bod safon y gofal, y gefnogaeth a’r arweiniad a roddwn i ddysgwyr yn ‘rhagorol’ – felly gallwch fod yn dawel eich meddwl y caiff eich plentyn bob gofal yn y coleg.

O gymorth academaidd i ddatblygiad personol, rydyn ni yma i’n dysgwyr bob cam o’r ffordd.

I gael gwybodaeth am yr holl gymorth sydd ar gael i fyfyrwyr ewch i'n hyb cymorth i fyfyrwyr.

Cymorth Ariannol
Fe all cymorth ariannol fod ar gael i helpu eich plentyn i dalu am ei astudiaethau. Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, gallai eich plentyn fod yn gymwys i gael cymorth ariannol i astudio. Mae gennym dîm o gynghorwyr a fydd yn gallu eich tywys trwy’r manylion. Gall y cymorth ariannol sydd ar gael gynnwys:

  • Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA)
  • Cronfa Cefnogi Dysgwyr
  • Lwfans Dyddiol ar gyfer Pryd Bwyd
  • Brecwast am Ddim

Am wybodaeth ewch i'n tudalen cymorth ariannol.

Gwasanaeth Cludiant y Coleg
Mae gan y Grŵp gampysau ledled Gogledd Cymru a darpara sawl ffordd o fynd â myfyrwyr yn ôl a blaen o’u prif safle astudio.

Cewch ragor o wybodaeth ar dudalen Gwasanaethau Cludiant y Coleg.

Cynghorydd myfyrwyr

Beth allwch chi ei wneud i helpu

Dyma restr o bethau y gallwch chi eu gwneud a fydd yn helpu i gefnogi cynnydd eich plentyn ac yn sicrhau ei fod yn llwyddo yn y coleg.

Sicrhau bod eich plentyn yn mynd i’r sesiynau cynefino
Bydd y dysgwyr i gyd yn cael gwybod pa ddiwrnodau y bydd eu sesiynau cynefino’n digwydd – gwnewch yn siŵr fod eich plentyn yn mynd i’r rhain. Mae’r sesiynau
cynefino’n rhoi gwybodaeth bwysig i’r dysgwyr am eu cwrs a dechrau yn y coleg.

Annog presenoldeb rhagorol

Gwyddom fod y dysgwyr hynny sydd â phresenoldeb da yn mynd ymlaen i gael gwell canlyniadau.

Annog eich plentyn i wisgo ei laniard

Rhaid i ddysgwyr, aelodau staff ac ymwelwyr wisgo eu laniardau ar y campws. Mae hyn yn ein helpu i sicrhau bod ein campysau yn amgylcheddau dysgu diogel.

Sicrhau bod eich plentyn yn gwneud ei waith cartref

Yn ystod ei gwrs mae pob dysgwr yn cael gwaith cartref rheolaidd.

Dod i’r nosweithiau rhieni

Byddwch yn cael eich gwahodd i nosweithiau rhieni lle byddwn yn gweithio’n agos gyda chi i wneud yn siŵr eich bod yn gwybod sut mae eich plentyn yn dod ymlaen yn y coleg.

Gwirio a yw’ch plentyn yn gymwys i gael cymorth ariannol

Yn dibynnu ar incwm eich cartref, gallai eich plentyn fod yn gymwys i gael cymorth ariannol.

Dathlu cyflawniadau a llwyddiannau eich plentyn

Yn ogystal ag ennill cymwysterau, mae ein dysgwyr yn cymryd rhan mewn cystadlaethau amrywiol. Dathlwch eu llwyddiannau gyda nhw.
Rhiant a myfyriwr gyda'r athro

Cwestiynau cyffredin...

Sut mae fy mhlentyn yn gwneud cais am gwrs?
Mae gennym ni gyfarwyddiadau hawdd eu dilyn ar ein gwefan a fydd o help wrth wneud cais am gwrs

A oes cefnogaeth ar gael dros wyliau'r haf?
Oes, mae gennym ni dîm ymroddedig o Gynghorwyr Myfyrwyr ar gael ar bob campws. Ewch i'n tudalen gyswllt am fanylion.

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng y chweched dosbarth a'r coleg?
Mae'r Coleg yn rhoi'r dewis o astudio pynciau Lefel A yn un o'n canolfannau chweched dosbarth uchel eu parch neu⁠ astudio yn un o'n canolfannau galwedigaethol arbenigol.

Oes rhaid i chi astudio am oriau hir yn y coleg?
Na, bydd gan bob cwrs amserlen unigol ond fel arfer mae cyrsiau llawn amser yn golygu rhwng 3 a 4 diwrnod yn y coleg.

A all cyrsiau galwedigaethol gael fy mhlentyn i'r brifysgol?
Gallant, bydd cwblhau cwrs galwedigaethol lefel 3 llawn amser yn rhoi'r pwyntiau UCAS angenrheidiol i'ch plentyn wneud cais am gwrs addysg uwch mewn maes astudio cysylltiedig.

Mae fy mhlentyn wedi cael ei wahodd i gyfweliad. Oes angen paratoi?
Os gwahoddir eich plentyn i gyfweliad bydd yn cyfarfod â'i diwtor am sgwrs anffurfiol am y cwrs. Bydd y tiwtor yn ei holi am ei gymwysterau blaenorol, ei raddau disgwyliedig ac unrhyw anghenion cymorth, felly byddai cael y wybodaeth hon yn ddefnyddiol. Dyma gyfle gwych i ofyn cwestiynau a dod i wybod rhagor am y cwrs.

Beth os nad yw fy mhlentyn yn adnabod unrhyw un yn y coleg?
Daw plant i'r coleg o sawl ardal yng ngogledd Cymru. Mae'r coleg yn lle gwych i gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau am oes. Cynhelir gweithgareddau yn yr ystafell ddosbarth sy'n annog cyfeillgarwch a gwaith tîm. Ar ben hynny, bydd tiwtor personol eich plentyn a thimau cyfoethogi profiadau a thimau lles y coleg yn ei helpu i ffynnu yn ei amgylchedd newydd.

Pe bai fy mhlentyn yn dod i'r coleg a fyddwn i'n cael adroddiadau/diweddariadau rheolaidd ar ei berfformiad a'i ymddygiad?
Neilltuir tiwtor personol i bob dysgwr llawn amser. Bydd y tiwtor hwn yn monitro cynnydd eich plentyn yn erbyn cynlluniau gweithredu y cytunwyd arnynt. Bydd y tiwtor personol yn paratoi adroddiadau rheolaidd ac yn eich gwahodd i nosweithiau rhieni. Bydd yn cysylltu â chi i rannu newyddion da yn ogystal ag unrhyw bryderon. Credwn mai cydweithio sy'n rhoi’r cyfle gorau i’ch plentyn lwyddo felly byddwch yn cael eich hysbysu’n llawn am gynnydd, ymddygiad a phresenoldeb eich plentyn.

A fydd fy mhlentyn yn cael cymorth i wneud cais am le mewn prifysgol?
Darperir cefnogaeth ac arweiniad helaeth i helpu eich plentyn i gael lle yn y brifysgol sydd ar frig ei restr ddewisiadau. Ar y safle mae gennym staff UCAS arbenigol ac arbenigwyr ar gyllid i fyfyrwyr Addysg Uwch. Ar y cyd â'r tiwtor personol gallant gefnogi eich plentyn i wneud cais i ble bynnag y mae'n ei ddewis.

Eisteddodd y myfyrwyr ar wal

Rhagor a wybodaeth

Mae tîm ein Gwasanaethau i Ddysgwyr yma i roi cyngor, gwybodaeth ac arweiniad i’ch plentyn a hefyd i ateb cwestiynau gan rieni/gwarcheidwaid.

Am fanylion ar sut i gysylltu â ni, ewch i'n tudalen gyswllt.

Digwyddiadau Agored
Rydym yn cynnal digwyddiadau agored trwy gydol y flwyddyn lle cewch chi a’ch plentyn ymweld â’n campysau a siarad â’n staff cyfeillgar am eich dewisiadau.

I gael rhagor o wybodaeth am ein dyddiadau a’n hamseroedd, ewch i’n tudalen digwyddiadau ar y wefan.

Cynghorydd Myfyrwyr