Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Dydi hi ddim yn rhy hwyr i wneud cais – mae yna lefydd ar gael o hyd!

Fel y coleg mwyaf yng Nghymru, rydym yn cynnig ystod eang o gyfleoedd - o gyrsiau galwedigaethol a chyrsiau Lefel A i gyrsiau gradd a chymwysterau proffesiynol. Beth bynnag yw'ch nod, mae gennym gwrs sy'n addas i chi.

Wyt ti'n chwilio am gyfleoedd newydd neu'n awyddus i newid gyrfa? Mae gennym ni lefydd ar gael o hyd yma yn y coleg ar gyrsiau llawn amser, cyrsiau rhan-amser a chyrsiau lefel gradd.

Oes angen help arnat ti i ddewis y cwrs iawn?
Os na elli di ddod o hyd i'r cwrs rwyt ti'n chwilio amdano neu os oes angen help arnat ti gyda dy gais, yna cysyllta â thimau cyfeillgar ein Gwasanaethau i Ddysgwyr.

Gwnewch gais ar ein gwefan heddiw, neu cysylltwch â ni ar: generalenquiries@gllm.ac.uk neu ffoniwch y llinell cyngor ar gyrsiau ar 01492 542 338 yn achos Coleg Llandrillo, 01758 701 385 yn achos Coleg Meirion-Dwyfor, a 01248 383 333 yn achos Coleg Menai.

Grŵp o ddysgwyr gyda'u ffolderi gwaith y tu allan i'r coleg

Cyrsiau Llawn Amser

Gallai dod i’r coleg newid eich bywyd! Yn ôl ein cyn-fyfyrwyr, bu’r cyfleusterau tan gamp, y ffrindiau newydd a wnaethant a’r gefnogaeth a gawsant gan diwtoriaid yn fodd iddynt gael profiadau gwych yn y coleg, ac yn help iddynt gyrraedd targedau na chredent oedd yn bosibl

Ydych chi’n ystyried beth i’w wneud ar ôl gorffen eich arholiadau TGAU, yn awyddus i gael swydd newydd neu â’ch bryd ar fynd i brifysgol? Wel, mae gennym lwybr sy’n addas i chi.

Ar fin gadael yr ysgol?⁠

Os ydych chi'n meddwl am eich cam nesaf ar ôl gadael yr ysgol, mae gennym gwrs sy'n addas i chi. Mae gennym amrywiaeth eang o ddewisiadau cyffrous, wedi'u teilwra'n benodol i'ch rhoi ar ben y ffordd.

Ydych chi'n ddysgwr dros 19 oed?

Dydy addysg ddim yn dod i ben ar ddiwedd cyfnod ysgol. Fel oedolyn, mae dychwelyd i fyd addysg i gyflawni eich breuddwydion yn haws nag erioed o'r blaen.

Gallwn hefyd gynnig cymorth i gael mynediad at gefnogaeth ariannol fydd yn eich cynorthwyo i astudio a chyflawni eich cyfrifoldebau ac ymrwymiadau ar yr un pryd.

Felly os ydych chi am newid gyrfa neu wella eich sgiliau, ⁠dechreuwch eich stori a gwnewch gais heddiw

Chwilio drwy ein holl gyrsiau llawn amser
Pobl yn defnyddio gliniadur

Cyrsiau Rhan-amser

Gyda channoedd o gyrsiau rhan-amser ar gael, rydym yn cynnig cyfleoedd ar draws ein campysau yng ngogledd Cymru.

P’un ai'n 18 neu’n 80 oed, dydych chi byth rhy hen i ddysgu. ⁠ Rydym yn denu myfyrwyr o bob oed, ac o bob math o wahanol gefndiroedd. A pha bynnag gwrs a ddewiswch, bydd ein tiwtoriaid ar gael i'ch cefnogi yn ystod eich astudiaethau.

Chwilio drwy ein holl gyrsiau rhan-amser