Rhoi sylw i Rhyl
Pam dewis coleg Y Rhyl?
Campysau Coleg Llandrillo sydd â'r dewis ehangaf o raglenni dysgu llawn amser, rhan-amser, prentisiaethau a graddau yng Ngogledd Cymru! Yn wir, mae ganddynt 1000oedd o ddewisiadau i ddiwallu eich anghenion a'ch helpu i gyrraedd eich potensial.
Ar gampws Coleg Llandrillo yn y Rhyl mae ein myfyrwyr yn cael canlyniadau rhagorol yn gyson ac yn dewis un ai parhau â'u hastudiaethau mewn prifysgol neu fynd ymlaen i fyd gwaith.
Yn 2021, roedd cyfradd llwyddo dysgwyr Chweched y Rhyl – canolfan chweched dosbarth bwrpasol ar y campws – yn 100% ac ar ben hynny enillodd 43% ohonynt raddau A* ac A ar draws bron i 20 pwnc gwahanol!
Felly, os dewiswch astudio yng Ngholeg Llandrillo yn y Rhyl byddwch yn gadael gyda chymwysterau cydnabyddedig a fydd yn eich galluogi i gael y swydd neu’r brentisiaeth yr ydych wedi rhoi'ch bryd arni neu i gael lle mewn prifysgol o’ch dewis.
I'r rhai sydd am feithrin sgiliau mwy ymarferol, mae'r coleg hefyd yn cynnig dewis helaeth o gyrsiau galwedigaethol llawn amser mewn meysydd fel Adeiladu, Peirianneg, Gwasanaethau Cyhoeddus, Gwallt a Harddwch, Iechyd a Gofal a Thechnoleg Cerbydau Modur.
Gwnaeth dysgwyr galwedigaethol Grŵp Llandrillo Menai'n rhagorol yr haf hwn gyda 600 ohonynt ar draws campysau'r coleg yn ennill eu cymwysterau lefel 3. Rydym yn hynod falch bod 46% o'r dysgwyr oedd yn cwblhau cymwysterau'r Ddiploma Estynedig wedi ennill y graddau uchaf posibl sef Rhagoriaeth neu Ragoriaeth*.
Enillodd 11 o'r 12 myfyriwr oedd yn astudio Gwasanaethau Cyhoeddus yn y Rhyl le mewn prifysgol i ddilyn amrywiaeth o wahanol gyrsiau gradd: Gwyddorau Parafeddygol, Plismona Proffesiynol, Troseddeg a Gwyddorau Fforensig Digidol.
Mae buddsoddiad Coleg Llandrillo yn y Rhyl mewn technoleg werdd a chynaliadwy'n parhau yn dilyn ychwanegu car trydan Tesla gwerth £40,000 at fflyd y Ganolfan Technoleg Cerbydau Modur. Hyd yma buddsoddwyd bron i £100,000 yn fflyd cerbydau trydan/hybrid y coleg, ac mae hyn am fod o fudd aruthrol i'r myfyrwyr sy'n astudio technoleg cerbydau modur ac i'r diwydiant lleol.
Dyfarnodd arolygiad diwethaf y llywodraeth bod ansawdd y gofal, y gefnogaeth a'r arweiniad a roddwn i fyfyrwyr yn 'rhagorol' – felly cewch bob gofal yn ystod eich amser yn y coleg. Gallwch gael cyngor ac arweiniad gan staff ymroddedig ein Gwasanaethau i Ddysgwyr ar amrywiaeth o faterion, gan gynnwys diogelu, lles, cymorth ychwanegol i astudio, materion ariannol, cyngor gyrfaol a gwasanaethau cwnsela cyfrinachol.
Os dewiswch astudio gyda ni, cewch elwa ar gyfarpar modern ac amgylcheddau gweithio sy'n adlewyrchu'r byd go iawn. Pan na fyddwch mewn gwers, cewch ddefnyddio'r amrywiol gyfleusterau sy'n cynnwys y llyfrgell a'r gweithdy TG, mynd am damaid i'w fwyta yn y ffreutur neu ymlacio gyda phaned o goffi yn ein caffi Starbucks newydd.
Yn ddiweddar, mae myfyrwyr llwyddiannus Coleg y Rhyl wedi cynnwys...
Leighton Brown a gwblhaodd gyrsiau Trin Gwallt Lefel 1, 2 a 3 ar gampws y Rhyl ac sydd erbyn hyn yn rhedeg salon trin gwallt fegan ac ecogyfeillgar ym Mhrestatyn. Yn ddiweddar enillodd Eden Hairdressing wobr am fod y busnes harddwch mwyaf arloesol yng Nghymru!
Yn y ganolfan Cerbydau Modur, enillodd Tiler y fedal Aur am Drwsio Cyrff Cerbydau Modur yn rownd derfynol WorldSkills UK 2021 yn ogystal â gwobr talent newydd gorau'r diwydiant! Meddai Tiler: "Dw i ar ben fy nigon gyda'r fedal aur, a fedra i ddim aros i weld a fydda i'n cael cynrychioli Prydain yn rownd derfynol ryngwladol WorldSkills."