Calendr Dysgwyr
Digwyddiadau myfyrwyr sydd i ddod
Noder: Nid yw Grŵp Llandrillo Menai yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Bydd rhai o'r cysylltiadau isod yn mynd a chi i wefannau allanol uniaith Saesneg.
Llun 06 Ion
Wythnos Llesiant - Cadw'n Ddiogel
Dydd Llun 06 Ionawr 2025 - Dydd Gwener 10 Ionawr 2025
Llun 20 Ion
Wythnos Fawr Arbed Ynni
Dydd Llun 20 Ionawr 2025 - Dydd Gwener 24 Ionawr 2025
https://www.citizensadvice.org...
Beth yw Wythnos Fawr Arbed Ynni 2024?
Mae Wythnos Fawr Arbed Ynni 2024 yn gynllun wythnos o hyd sy’n canolbwyntio ar rymuso pobl i reoli a gwneud penderfyniadau gwybodus am eu defnydd o ynni. Mae'n rhoi cyngor ar sut i leihau gwastraff ynni, gwella inswleiddiad cartrefi, a chael cymorth ariannol ar gyfer biliau ynni.
Sut i Gymryd Rhan yn Wythnos Fawr Arbed Ynni 2024?
- Rhannu'r Neges: Rhannwch awgrymiadau a gwybodaeth am arbed ynni gyda ffrindiau a theulu i'w helpu nhw i arbed arian ar eu biliau ynni hefyd.
- Cael Cymorth Ariannol: Gwiriwch a ydych chi'n gymwys ar gyfer grantiau neu raglenni cymorth ariannol y llywodraeth i helpu gyda biliau ynni, yn enwedig os ydych chi ar incwm isel.
- Diffoddwch y goleuadau
- Caewch y drysau i gadw'r gwres i mewn
- Tynnwch y plwg o ddyfeisiau nad ydynt yn cael eu defnyddio
- Diffoddwch offer sydd ar ‘standby’
Llun 20 Ion
Diwrnod Crefydd y Byd
Dydd Llun 20 Ionawr 2025
Archwilio Straeon Crefyddol y Byd a Myfyrdod Personol - Adnoddau Grŵp Tiwtorial
Mae Diwrnod Crefydd y Byd yn cael ei ddathlu ar y trydydd Sul ym mis Ionawr bob blwyddyn ac mae’n ein hatgoffa o’r angen am gytgord a dealltwriaeth rhwng crefyddau a systemau ffydd.
Gwe 24 Ion
Diwrnod Santes Dwynwen
Dydd Gwener 24 Ionawr 2025
Dathlu Diwrnod Santes Dwynwen hefo Grŵp Llandrillo Menai
- Bisgedi ‘rhamantus’ - Coleg Llandrillo / Friars / Dolgellau
- Sesiynau Gwallt a Harddwch - Friars / Dolgellau
- Playlis't caneuon cariad
- Cariad at Gymru - ILS Dolgellau / Glynllifon
- Fideos gan ein Llysgennhadon ar Instagram / Twitter
Sad 25 Ion
"Brit Challenge"
Dydd Sadwrn 25 Ionawr 2025 - Dydd Mawrth 25 Mawrth 2025
Llun 27 Ion
Diwrnod Cofio'r Holocost
Dydd Llun 27 Ionawr 2025
Cynhelir Diwrnod Cofio’r Holocost (HMD) ar 27 Ionawr bob blwyddyn ac mae’n amser i gofio’r miliynau o bobl a lofruddiwyd yn ystod yr Holocost, o dan Erledigaeth y Natsïaid ac yn yr hil-laddiadau a ddilynodd yn Cambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur.
Gwe 31 Ion
Pencampwriaeth Y Chwe Gwlad - Rygbi
Dydd Gwener 31 Ionawr 2025, 00:01 - Dydd Sadwrn 15 Mawrth 2025
Sad 01 Chw
Amser i Siarad
Dydd Sadwrn 01 Chwefror 2025
Ar Ddiwrnod Amser i Siarad rydym yn gofyn wrth y genedl i gael sgwrs am iechyd meddwl. Nod y diwrnod yw creu cymunedau cefnogol drwy siarad â theulu, ffrindiau neu gydweithwyr am iechyd meddwl. Mae gan bob un ohonon ni iechyd meddwl, a thrwy siarad amdano, gallwn ni helpu ein hunain ac eraill.
Ewch i'r dolenni canlynol am gefnogaeth :
https://www.timetochangewales....
Sad 01 Chw
Mis Hanes LHDT+
Dydd Sadwrn 01 Chwefror 2025 - Dydd Sadwrn 01 Mawrth 2025
Nod cyffredinol mis Hanes LHDT+ yw hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth er budd y cyhoedd.
Gwneir hyn gan:
- Cynyddu amlygrwydd pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol (“LHDT+”), eu hanes, eu bywydau a'u profiadau yng nghwricwlwm a diwylliant sefydliadau addysgol a sefydliadau eraill, a'r gymuned ehangach;
- Codi ymwybyddiaeth a hyrwyddo addysg ar faterion sy'n effeithio ar y gymuned LHDT+;
- Gweithio i wneud sefydliadau addysgol a sefydliadau eraill yn fannau diogel i bob cymuned LHDT+; a
- Hyrwyddo lles pobl LHDT+, trwy sicrhau bod y system addysg yn cydnabod ac yn galluogi pobl LHDT+ i gyflawni eu llawn botensial, fel eu bod yn cyfrannu'n llawn at gymdeithas ac yn byw bywydau bodlon, gan felly fod o fudd i'r gymdeithas gyfan.
Llun 03 Chw
Diwrnod hijab
Dydd Llun 03 Chwefror 2025
Mae Diwrnod Hijab y Byd yn ddigwyddiad blynyddol sy’n annog merched o bob cefndir i brofi a deall yr hijab, gan feithrin ymwybyddiaeth a hybu goddefgarwch crefyddol.
Llun 03 Chw
Wythnos Lles - Amser i Siarad
Dydd Llun 03 Chwefror 2025 - Dydd Gwener 07 Chwefror 2025
Coleg Llandrillo Peintio Crochenwaith
Coleg Menai Peintio Crochenwaith
Coleg Meirion Dwyfor Peintio Crochenwaith
https://www.mentalhealth.org.u...
https://www.mentalhealth.org.u...
https://www.mentalhealth.org.u...
https://www.mind.org.uk/cy/gwy...
https://www.mind.org.uk/cy/gwy...
Gwe 07 Chw
Diwrnod Miwsig Cymru
Dydd Gwener 07 Chwefror 2025
P’un a ydych chi’n hoffi miwsig indi, roc, pync, ffync, gwerin, electronica, hip hop neu unrhyw beth arall, mae miwsig anhygoel yn cael ei greu yn y Gymraeg i chi ei ddarganfod. Mae’r diwrnod yn dathlu pob math o fiwsig Cymraeg.
Maw 11 Chw
Safer Internet Day
Dydd Mawrth 11 Chwefror 2025
Mae Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yn cael ei ddathlu’n fyd-eang ym mis Chwefror bob blwyddyn, i hyrwyddo defnydd diogel a chadarnhaol o dechnoleg ddigidol gan blant a phobl ifanc ac i ysbrydoli trafodaeth yn genedlaethol.
Gwelwch isod rai adnoddau a allai fod yn ddefnyddiol i chi:
Bwcio gwyliau a theithiau ar-lein yn ddiogel
Awgrymiadau ar gyfer prynu'n ddiogel ar-lein
Defnyddio dyfeisiau symudol ac apiau yn ddiogel
Am fwy o wybodaeth ewch i : https://hwb.gov.wales/parthau/cadwn-ddiogel-ar-lein/
Maw 11 Chw
Diwrnod Merched a Genethod mewn Gwyddoniaeth
Dydd Mawrth 11 Chwefror 2025
Diwrnod Merched a Genethod mewn Gwyddoniaeth - Adnoddau Grŵp Tiwtorial
Sad 01 Maw
Dydd Gwyl Dewi - St. David's Day
Dydd Sadwrn 01 Mawrth 2025
Bydd dathliadau ar draws y safleoedd i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.
- Bydd perfformiad byw gan Tesni Hughes am 1 o'r gloch yn ffreutur safle Llangefni.
- Gwisgwch coch, gwyn a gwyrdd i ddathlu'r diwrnod!
Dyma adnoddau ychwanegol i gefnogi gyda'r dathliadau:
Llun 03 Maw
Diwrnod Dim Gwahaniaethu
Dydd Llun 03 Mawrth 2025
Deall pwysigrwydd Diwrnod Dim Gwahaniaethu - Adnoddau Grŵp Tiwtorial
Iau 06 Maw
Diwrnod y Llyfr
Dydd Iau 06 Mawrth 2025
Diwrnod i ddathlu darllen a llyfrau!
- Chwilio am syniadau i ddathlu Diwrnod y Llyfr? Dyma daflen gyda 80 o syniadau!
- Gweithgaredd! Faint o gymeriadau llyfrau plant Cymraeg fedrwch chi eu canfod yn y poster hwn? Rhowch eich ymatebion yn y Google Form hwn, bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar ddydd Gwener, 3ydd o Fawrth.
Gwe 07 Maw
Diwrnod Rhyngwladol y Merched
Dydd Gwener 07 Mawrth 2025
Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn ddiwrnod byd-eang sy'n dathlu llwyddiannau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol menywod. Mae hefyd yn ein hatgoffa o'r angen parhaus am gydraddoldeb rhyw. Yn cael ei arsylwi’n flynyddol ar Fawrth 8fed, mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn amser i gydnabod ac anrhydeddu cyfraniadau menywod trwy gydol hanes ac yn y gymdeithas gyfoes.
https://www.internationalwomensday.com/
International Women's Day Banner
Llun 17 Maw
Opsiynau ar gyfer y dyfodol, Cyflogadwyedd a Dilyniannau
Dydd Llun 17 Mawrth 2025 - Dydd Gwener 21 Mawrth 2025
Llun 17 Maw
Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc
Dydd Llun 17 Mawrth 2025
https://carers.org/young-carers-action-day-2022/diwrnod-gweithredu-gofalwyr-ifanc-2022