Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Archif Calendr Dysgwyr

Digwyddiadau i Fyfyrwyr sydd wedi bod

Noder: Nid yw Grŵp Llandrillo Menai yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Bydd rhai o'r cysylltiadau isod yn mynd a chi i wefannau allanol uniaith Saesneg.

Dewch i weld digwyddiadau myfyrwyr sydd i ddod

Llun 18 Medi

Ffair y Glas campws Parc Menai

  • Coleg Menai, Parc Menai (Celf a Dylunio)

Dydd Llun 18 Medi 2023, 10:00


Myfyrwyr AB ac AU yn yr ardal arddangos ym Mharc Menai.

Llun 26 Chw

Cynhadledd Llais y Dysgwr

    Dydd Llun 26 Chwefror 2024

    Sul 31 Maw

    Diwrnod Gwelededd Traws

      Dydd Sul 31 Mawrth 2024


      Mae Diwrnod Gwelededd Trawsrywiol Rhyngwladol yn ddigwyddiad blynyddol sy'n cael ei gynnal ar Fawrth 31. Mae’n ddiwrnod sydd wedi’i neilltuo i ddathlu pobl drawsryweddol ac i godi ymwybyddiaeth o wahaniaethu a wynebir gan bobl drawsryweddol ledled y byd, yn ogystal â dathliad o'u cyfraniadau i gymdeithas.

      Diwrnod Dathlu Trawsrywedd

      Llun 08 Ebr

      Digwyddiadau Elusennol Undeb Myfyrwyr Traws Grŵp

        Dydd Llun 08 Ebrill 2024 - Dydd Gwener 12 Ebrill 2024

        Llun 03 Meh

        Wythnos Lles - Ein Hamgylchedd

          Dydd Llun 03 Mehefin 2024 - Dydd Gwener 07 Mehefin 2024


          Dysgwch mwy am waith yr Undeb Myfyrwyr a syniadau am sut i ofalu am yr amgylchedd, cliciwch yma

          Maw 10 Medi

          Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd

            Dydd Mawrth 10 Medi 2024


            Mae Medi 10fed yn Ddiwrnod Atal Hunanladdiad y Byd - amser i godi ymwybyddiaeth ac annog sgyrsiau am iechyd meddwl. Os ydych chi'n cael trafferth gyda'ch iechyd meddwl, mae'n bwysig eich bod yn gwybod nad ydych ar eich pen eich hun.

            Mae Tîm Lles y Grŵp yma i'ch cefnogi. Gallwch estyn allan drwy e-bost staysafe@gllm.ac.uk, neu os yw'n well gennych, gallwch alw i mewn i Wasanaethau i Ddysgwyr a gofyn am gael gweld aelod o'r tîm lles. Isod mae'r pwyntiau cyswllt ar gyfer pob campws:

            Coleg Llandrillo: Tam Jones - Cydlynydd Cefnogi Myfyrwyr
            Coleg Menai: Sioned Fever - Swyddog Lles
            Rhyl: Kieran Homer - Swyddog Lles
            Coleg Meirion Dwyfor: Alison Margaret Davies - Swyddog Lles

            Rydym yn eich annog i geisio cymorth os oes ei angen arnoch, a chofiwch ei bod yn iawn gofyn am help.

            Maw 10 Medi

            Ffair y Glas campws Llandrillo-yn-Rhos

            • Coleg Llandrillo, Llandrillo-yn-Rhos

            Dydd Mawrth 10 Medi 2024, 12:00


            Dysgwyr AB ac AU. Wedi'i leoli yn y Lolfa'r myfyrwyr.

            Mer 11 Medi

            Ffair y Glas Bangor

            • Coleg Menai, Bangor (Campws Newydd)

            Dydd Mercher 11 Medi 2024, 09:30


            Dysgwyr AB ac AU.

            Iau 12 Medi

            Ffair y Glas Llangefni

            • Coleg Menai, Llangefni

            Dydd Iau 12 Medi 2024, 13:00


            Croeso i bob dysgwr yn yr Adeilad Newydd yn y Ganolfan Adeiladau ac Ynni

            Llun 16 Medi

            Ty’d Am Sgwrs Cyn Gadael Cwrs

              Dydd Llun 16 Medi 2024 - Dydd Gwener 27 Medi 2024


              Wyt ti wedi dechrau cwrs yn y coleg, ond ddim yn siŵr a wyt ti wedi gwneud y dewis iawn?

              Dydi hi ddim yn rhy hwyr i newid dy gwrs os wyt ti'n ailfeddwl.

              Tyrd i siarad â ni – rydyn ni yma i helpu.

              Bydd cynghorwyr cyfeillgar ein Gwasanaeth i Ddysgwyr yn rhoi cyngor diduedd i ti er mwyn dy helpu i wneud y penderfyniad sy'n iawn i ti.

              Os wyt ti'n ystyried newid dy gwrs neu adael y coleg, llenwa'r Google Form erbyn 27 Medi neu siarada â dy diwtor personol, a bydd rhywun o’r Gwasanaethau i Ddysgwyr yn cysylltu â thi.

              Bydd y Google Form ar gael hefyd drwy ddolen ar eDrac y Dysgwyr, neu mae croeso i ti alw heibio i'r Gwasanaeth i Ddysgwyr ar dy gampws.


              Llun 16 Medi

              Diwrnod Owain Glyndŵr

                Dydd Llun 16 Medi 2024

                Maw 17 Medi

                Ffair y Glas Rhyl

                • Coleg Llandrillo, Y Rhyl

                Dydd Mawrth 17 Medi 2024, 12:00


                Dysgwyr AB yn y brif dderbynfa

                Iau 19 Medi

                Ffair y Glas Glynllifon

                • Coleg Meirion-Dwyfor, Glynllifon

                Dydd Iau 19 Medi 2024, 13:30


                Dysgwyr AB yn y brif dderbynfa

                Llun 23 Medi

                Mer 25 Medi

                Diwrnod Rhyngwladol ar gyfer Ieithoedd Arwyddion

                  Dydd Mercher 25 Medi 2024

                  Mer 25 Medi

                  Ffair y Glas campws Pwllheli

                  • Coleg Meirion-Dwyfor, Pwllheli

                  Dydd Mercher 25 Medi 2024, 10:00


                  Dysgwyr AB yn y brif dderbynfa

                  Iau 26 Medi

                  Ffair y Glas campws Dolgellau

                  • Coleg Meirion-Dwyfor, Dolgellau

                  Dydd Iau 26 Medi 2024, 10:00


                  Dysgwyr AB ac AU. Wedi'i leoli yn y brif neuadd.

                  Maw 01 Hyd

                  Mis Hanes Pobl Ddu

                    Dydd Mawrth 01 Hydref 2024 - Dydd Iau 31 Hydref 2024


                    https://www.blackhistorymonth.org.uk

                    Maw 01 Hyd

                    Mis Ymwybyddiaeth ADHD

                      Dydd Mawrth 01 Hydref 2024 - Dydd Iau 31 Hydref 2024

                      Maw 01 Hyd

                      Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron

                        Dydd Mawrth 01 Hydref 2024 - Dydd Iau 31 Hydref 2024, 23:45


                        Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron

                        Pob blwyddyn yng Nghymru mae tua 2,600 o bobl yn cael diagnosis o ganser y
                        fron. Mae 80% o achosion o ganser y fron ymhlith merched dros 50 oed. Mae
                        75% o'r achosion mewn dynion ymhlith y rhai dros 60 oed, ac mae 99% o
                        achosion canser y fron ymhlith merched

                        Credir bod gan 5-10% o'r merched sydd â chanser y fron enyn a etifeddwyd
                        sy'n cynyddu eu risg

                        Mae canser y fron mewn dynion yn brin gyda dim ond 400 o achosion newydd
                        yn y Deyrnas Unedig bob blwyddyn, o gymharu â thua 55,000 o achosion
                        newydd mewn merched

                        Mae bron i 9 o bob 10 (86%) o ferched yn goroesi canser y fron am 5 mlynedd
                        neu fwy

                        Bob blwyddyn mae tua 11,500 o ferched ac 85 o ddynion yn marw o ganser y fron yn y
                        Deyrnas Unedig - mae hyn yn bron i 1,000 o farwolaethau bob mis, 31 marwolaeth bob dydd,
                        neu un bob 45 munud

                        I lawer, gall effeithiau emosiynol a chorfforol llethol y clefyd fod yn barhaol
                        Mae tua 55,000 o ferched a 400 o ddynion yn cael diagnosis o ganser y fron
                        yn y Deyrnas Unedig bob blwyddyn

                        Iau 10 Hyd

                        Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd

                          Dydd Iau 10 Hydref 2024


                          Mae Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yn rhoi cyfle i siarad am iechyd meddwl yn gyffredinol, sut mae angen i ni ofalu amdano, a pha mor bwysig yw hi i siarad am bethau a chael help os ydych yn cael trafferth. Gall hefyd helpu i godi ymwybyddiaeth am gyflyrau iechyd meddwl a pha gymorth sydd ar gael.

                          https://meddwl.org/event/diwrn...

                          Llun 14 Hyd

                          Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg

                            Dydd Llun 14 Hydref 2024 - Dydd Gwener 18 Hydref 2024


                            Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg, 12-18Hydref

                            Unwaith eto eleni, mae Radio Cymru a BBC Cymru Fyw yn cynnal Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg ac eleni mae S4C yn ymuno yn y fenter gydag eitemau ar Prynhawn da a Heno. Dyma flas ar arlwy Radio Cymru:

                            Sadwrn 12 Hydref

                            Shelley a Rhydian - Sgwrs Diwrnod Shwmae ym Merthyr Tudful

                            Sul 13 Hydref

                            Bore Sul – Doctor Cymraeg yn brif westai

                            Rhaglen Ffion Dafis – Anne Spooner ac Ewan Smith sef siaradwyr Cymraeg newydd yn adolygu dwy gyfrol ar gyfer dysgwyr. Hefyd sgwrs gyda’r siaradwr newydd Irram Irshad am ei chyfrol dwyieithog o straeon ysbrydion i ddysgwyr.

                            Caniadaeth y Cysegr – Cael ei gyflwyno gan Y Gwir Barchedig David Morris, Esgob Enlli.

                            Dei Tomos - Sgwrs efo Carolyn Hodges, sef Golygydd llyfrau Saesneg Gwasg y Lolfa. Sgwrs ddifyr iawn. Wedi dysgu Cymraeg ar ôl clywed Gwreiddiau Dwfn gan Super Furries gafodd hi gan ffrind pan oedd hi’n byw yn Rhufain.

                            Cymru Fyw - darn gyda ‘Y Doctor Cymraeg’ – Stephen Rule

                            Llun 14 Hydref

                            Aled Hughes – Bethan Jones-Ollerton yn lawnsio ymgyrch Hapus i Siarad ar ran Mentrau Iaith Cymru

                            Dros Ginio – Sgwrs yn edrych ar y berthynas rhwng tiwtor a’r dysgwr, ac yn mynd i fod yn holi’r tiwtor Angharad Lewis a dysgwr Sylfia Strand.

                            Caryl - Martyn Croydon yn adolygu rhaglenni teledu

                            Mawrth 15 Hydref (diwrnod Shwmae Su’mae)

                            Bore Cothi – Siaradwyr Newydd y Gerddorfa

                            Cymru Fyw - Hanes diwrnod Shwmae Su’mae

                            Mercher 16 Hydref

                            Caryl – Siaradwr newydd – Llyfr wrth Ochr Fy ngwely - Elinor Staniforth

                            Iau 17 Hydref

                            Cymru Fyw - Dylanwad Daniel Owen wrth ddysgu Cymraeg. Stori Nigel Ruck, y dyn sy'n byw yng nghartref Daniel Owen, a gafodd ei ysbrydoli i ddysgu Cymraeg

                            Holi’r Cyflwynwyr

                            Nos Iau, 17 Hydref bydda i’n holi tri o gyflwynwyr Radio Cymru: Emma Walford, Rhys Meirion a Rhodri Llewellyn. Atodir poster a gellir cofrestru yma erbyn 15 Hydref: Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg - Cwrdd â'r cyflwynwyr! | Dysgu Cymraeg. Mae’r sesiwn wedi’i anelu at Canolradd, Uwch a Gloywi.

                            Podlediad newydd

                            I lansio Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg, bydd Radio Cymru’n cyhoeddi podlediad newydd o’r enw Pont. Mae Dr Angharad Lewis yn holi siaradwyr newydd sydd wedi dysgu mewn dosbarthiadau. Bydd y podlediad cyntaf yn cael ei ryddhau ar Hydref 11eg.

                            Adnoddau

                            Os ydych chi’n dysgu lefel Sylfaen, mae rhai o ddeialogau’r cwrs (fersiwn y de ar hyn o bryd) ar gael nawr ar YouTube ar ffurf fideos Vyond. Maen nhw ar gael yma: Sgyrsiau Sylfaen (De Cymru) - YouTube.

                            Cylchlythyr S4C

                            Bob mis, mae Sara Peacock yn anfon cylchlythyr dwyieithog allan ar gyfer pobl sy’n dysgu’r Gymraeg. Gellir tanysgrifio i’r cylchlythyr yma: Mailchimp Survey (list-manage.com).

                            Golwg 360

                            Yn dilyn llwyddiant eitemau ‘Fy Hoff Raglen’ ar Golwg 360, maen nhw nawr am wneud cyfres o erthygl ar ‘Fy Hoff Le’ ac yn gwahodd dysgwyr i gymryd rhan. Mae’r holl fanylion yma: https://lingo.360.cymru/2024/gynnoch-hoff-nghymru/. Os oes gennych ddiddordeb mewn datblygu gwaith ysgrifennu creadigol yn eich dosbarthiadau, cofiwch am sesiwn Pegi Talfryn ddydd Gwener, 8 Rhagfyr am 2pm. Cofrestrwch ar Academi.

                            Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam

                            Bydd Eisteddfod Genedlaethol 2025 yn cael ei lansio yfory ac felly mae’n bryd i ni ddechrau hyrwyddo ein cystadlaethau ni. Dw i wedi atodi PowerPoint i chi ei ddefnyddio.

                            Maw 15 Hyd

                            Diwrnod Shwmae Su’mae

                              Dydd Mawrth 15 Hydref 2024


                              Diwrnod Shwmae Su’mae - Dolen i'r poster

                              Mer 16 Hyd

                              Diwrnod Rhagenwau Rhyngwladol

                                Dydd Mercher 16 Hydref 2024 - Dydd Sadwrn 19 Hydref 2024


                                https://pronounsday.org/

                                Gwe 18 Hyd

                                Diwrnod Dangoswch y Cerdyn Coch

                                  Dydd Gwener 18 Hydref 2024


                                  Diwrnod Dangoswch y Cerdyn Coch!

                                  Gadewch i ni sefyll gyda'n gilydd yn erbyn gwahaniaethu, hiliaeth, ac anghydraddoldeb. Mae'n amser cael gwared â chasineb!

                                  #DangoswchYCerdynCochiHiliaieth #DiweddiHiliaieth #UndodMewnGwahaniaeth #gllm

                                  Llun 21 Hyd

                                  Wythnos Ymlaen I'r Dyfodol

                                    Dydd Llun 21 Hydref 2024 - Dydd Gwener 25 Hydref 2024


                                    Cefnogaeth UCAS

                                    Beth allaf i ei wneud nesaf?

                                    Yn pendroni beth i'w wneud nesaf? Chwiliwch ar wefan UCAS am wybodaeth a syniadau a allai eich cynorthwyo i benderfynu pa lwybr sy'n iawn i chi - DOLEN I'R WEFAN⁠

                                    Gallwch archebu lle ar ddiwrnodau agored, chwilio ac archwilio llwybrau gyrfa gwahanol a gweld ydy prifysgol yn iawn i chi.

                                    Gwybodaeth am y Farchnad Lafur:

                                    Mae Gwybodaeth am y Farchnad Lafur (a elwir hefyd yn LMI) yn cynnwys gwybodaeth am dueddiadau gwaith cyfredol a thueddiadau gwaith y dyfodol.

                                    Mae hyn yn bwysig i chi fel dysgwyr oherwydd mi fydd yn eich helpu i gadw i fyny â'r hyn sy'n digwydd yn y farchnad lafur, ac mae gwybodaeth fel hyn yn hanfodol i unrhyw un sy'n gwneud penderfyniadau sy'n ymwneud â'u gyrfa.

                                    Dylech fod yn ymwybodol o:

                                    1. Pa gyfleoedd sydd ar gael i mi?
                                    2. Pa swyddi fydd ar gael yn y dyfodol?
                                    3. Pa sgiliau a chymwysterau sydd eu hangen arnoch?
                                    4. Sut i baratoi ar gyfer marchnad lafur sy'n newid o hyd.

                                    Mae llawer o adnoddau LMI ar wefan Gyrfa Cymru, yn cynnwys gwybodaeth am swyddi a chyngor ar sut i gysylltu eich pynciau yn y coleg a'ch gyrfa newydd.

                                    Ewch i'r wefan i Gyrfa Cymru - LMI i gael rhagor o fanylion.

                                    Gallwch hefyd alw heibio aelod o dîm Gwasanaethau i Ddysgwyr am gyngor pellach.

                                    Maw 22 Hyd

                                    Cynaliadwyedd: Sero Net

                                      Dydd Mawrth 22 Hydref 2024


                                      Beth yw Sero-Net?

                                      Mae'n golygu cydbwyso faint o nwyon tŷ gwydr rydyn ni'n eu cynhyrchu â faint rydyn ni'n ei dynnu o'r atmosffer

                                      Grymuso ar gyfer Sero-Net

                                      Cyngor Ar Arbed Ynni

                                      Beth yw Carbon Niwtral





                                      Gwe 01 Tach

                                      Movember - Mis Ymwybyddiaeth Iechyd Dynion

                                        Dydd Gwener 01 Tachwedd 2024 - Dydd Sadwrn 30 Tachwedd 2024


                                        Isod mae amrywiaeth o wefannau sy'n ymwneud ag Iechyd Dynion. Estynnwch allan nawr.

                                        Ymgyrch iechyd dynion mis Tachweddd / Movember - Mis ymwybyddiaeth iechyd dynion: ymunwch â'r ymgyrch! Cliciwch ar y ddolen i gael gwybodaeth am iechyd meddwl dynion, canser y brostad a chanser y ceilliau, ac ystod o wybodaeth iechyd a lles arall.

                                        iCAN Gogledd Cymru - gwefan yn rhestru ystod o wasanaethau yn lleol ac yn genedlaethol i gefnogi iechyd meddwl dynion, gan gynnwys dolenni i Men's Sheds.

                                        Dynion ac iechyd meddwl - gwybodaeth gan y Sefydliad Iechyd Meddwl

                                        Dynion ac iechyd meddwl - gwybodaeth yn Gymraeg gan Meddwl

                                        Hunan-wiriadau canser y ceilliau - mae'n bwysig cynnal archwiliadau rheolaidd.

                                        Prostate cancer UK - gwybodaeth, a gwiriwr risg



                                        Llun 11 Tach

                                        Wythnos Ymwybyddiaeth Traws

                                          Dydd Llun 11 Tachwedd 2024


                                          Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Trawsrywedd wedi'i neilltuo i godi ymwybyddiaeth am y gymuned draws, hyrwyddo dealltwriaeth, a dathlu amrywiaeth. Mae’n gyfle i ddysgu mwy am brofiadau, heriau a chyfraniadau pobl draws mewn cymdeithas. Drwy gydol yr wythnos, byddwch yn gweld gwybodaeth ar sgriniau, mewn llyfrgelloedd a mannau eraill sy'n ceisio chwalu camsyniadau, tynnu sylw at bwysigrwydd cydraddoldeb, ac annog cynghreiriaid. Yng Ngrŵp Llandrillo Menai, mae Wythnos Ymwybyddiaeth Traws yn helpu i ddatblygu amgylchedd cefnogol a chynhwysol lle mae pawb yn cael eu parchu am bwy ydyn nhw, gan greu cymuned sy'n gwerthfawrogi derbyniad ac sy'n grymuso unigolion i fod yn wir eu hunain.
                                          Trans Awareness Week (13 - 19 Nov)
                                          Trans Awareness Week - YouTube

                                          Llun 11 Tach

                                          Wythnos Rhyng-ffydd

                                            Dydd Llun 11 Tachwedd 2024 - Dydd Gwener 15 Tachwedd 2024


                                            Wythnos rhyng-ffydd / Interfaith week Presentation

                                            Mae Wythnos Rhyng-ffydd yn amser arbennig i ddysgu am a dathlu'r gwahanol grefyddau a chredoau sy'n rhan o'n cymunedau. Mae’n gyfle i archwilio sut mae ffydd yn siapio bywydau pobl ac i ddeall y gwerthoedd a rennir sy’n ein huno, megis parch, caredigrwydd, a helpu eraill. Yn ystod yr wythnos, byddwch yn cael cyfleoedd yn ystod eich tiwtorial personol ac o amgylch y campws i ymuno â thrafodaethau, digwyddiadau a chwis sy’n hybu deialog a chydweithio rhwng pobl o wahanol ffydd. Trwy gymryd rhan, gallwch ehangu eich dealltwriaeth, herio stereoteipiau, a chyfrannu at amgylchedd mwy cynhwysol a pharchus yng Ngrŵp Llandrillo Menai.

                                            What is Inter Faith Week? | World Religion Explained for Kids - YouTube

                                            Mae nifer o ddigwyddiadau allanol gallwch gymryd rhan ynddyn nhw, cliciwch ar y posteri isod am ragor o wybodaeth:

                                            GWERTHOEDD A RENNIR: Y RHEOL AUR

                                            Paallam Diwali fest'24(z).png
                                            Final 9th Nov Diwali poster 1.jpg
                                            Diwali Night 3rd Nov.jpg
                                            Diwali 16th Nov Welsh.jpg

                                            Llun 11 Tach

                                            Dydd y Cofio

                                              Dydd Llun 11 Tachwedd 2024


                                              Mae Dydd y Cofio yn gyfle i ni oedi a myfyrio, rhoi diolch ac anrhydeddu'r rhai a roddodd eu bywydau i amddiffyn ein rhyddid democrataidd ni.

                                              Nid yw cofio eraill yn y modd yma yn clodfori gwrthdaro. Yn hytrach na hynny, ei nod yw uno pobl o wahanol ffydd, diwylliant a chefndir wrth gymryd ennyd i gofio am fywydau a gollwyd a dathlu bywydau'r rhai a fu'n gwasanaethu ac sy'n gwasanaethu nawr.

                                              Rydym ni'n cymryd rhan yn y Cofio fel na fyddwn ni byth yn anghofio. Cofiwn am ffrindiau, aelodau'r teulu a chydnabod sydd wedi dangos dewrder, undod ac aberth yn ystod gwasanaeth milwrol, o'r rhai yn y Rhyfel Byd Cyntaf hyd at heddiw.

                                              Llun 11 Tach

                                              Wythnos Gwrth-fwlio, (Aflonyddwch gan Gyfoedion)

                                                Dydd Llun 11 Tachwedd 2024 - Dydd Gwener 15 Tachwedd 2024


                                                Aflonyddu Rhywiol rhwng Cyfoedion - Adnoddau Grŵp Tiwtorial

                                                Diwrnod Sanau Od - Dydd Llun 13 Tachwedd.

                                                Wythnos Gwrth-fwlio: thema'r DU eleni yw 'estyn allan'. Mae bwlio ac aflonyddu yn effeithio ar filiynau o fywydau a gall ein gadael yn teimlo'n anobeithiol. Ond nid oes rhaid iddo fod fel hyn. Os byddwn yn ei herio, gallwn ei newid. Ac mae'n dechrau trwy estyn allan. Yn y coleg, gartref, yn y gymuned neu ar-lein, gadewch i ni estyn allan a dangos i'n gilydd y gefnogaeth sydd ei hangen arnom. Estynnwch allan at rywun rydych yn ymddiried ynddo os oes angen i chi siarad. Estynnwch allan at rywun rydych chi'n ei adnabod sy'n cael ei fwlio neu ei aflonyddu. Estynnwch allan ac ystyried ymagwedd newydd.

                                                Mae aflonyddu rhwng cyfoedion yn unrhyw fath o gam-drin corfforol, rhywiol, emosiynol ac ariannol, a rheolaeth orfodol a arferir rhwng plant/pobl ifanc, ac o fewn eu perthnasoedd (agos a phersonol), cyfeillgarwch, a chysylltiadau cyfoedion ehangach. Gall gynnwys

                                                • gwneud sylwadau rhywiol, sylwadau, jôcs naill ai wyneb yn wyneb neu ar-lein

                                                • codi sgertiau neu dynnu llun o dan ddillad person heb yn wybod iddynt

                                                • gwneud sylwadau cas am gorff, rhyw, rhywioldeb rhywun neu edrych i achosi cywilydd, trallod neu ddychryn

                                                • cam-drin ar sail delwedd, megis rhannu llun neu fideo noethlymun/lled-nude heb ganiatâd y person yn y llun

                                                • anfon ffotograffau/fideos rhywiol, eglur neu bornograffig digroeso at rywun

                                                I estyn allan, cysylltwch â Thîm Lles y coleg neu unrhyw un o'r asiantaethau a rhestrir ar y dolenni uchod.

                                                Llun 02 Rhag

                                                Arbed Arian

                                                  Dydd Llun 02 Rhagfyr 2024 - Dydd Gwener 06 Rhagfyr 2024


                                                  Cael cyngor a chymorth ariannol:

                                                  Cyngor ar
                                                  Bopeth​:
                                                  darparu cyngor cyfrinachol, annibynnol am ddim ar lawer of broblemau. Mae hyn yn cynnwys budd-daliadau, dyled ac arian neu faterion cyfreithiol.

                                                  Helpwr Arian:​ yn darparu cyngor ariannol diduedd am ddim. Gall eich helpu i gynllunio a rheoli eich cyllid a chaiff ei sefydlu gan lywodraeth y DU.

                                                  Cael cyngor ariannol: mae gan dudalen we Dewis Cymru hon ddolenni i amrywiaeth o gyngor a chymorth ariannol

                                                  Cymorth cyllid i fyfyrwyr yng Ngrŵp Llandrillo Menai: cliciwch yma i gael gwybod am y cymorth ariannol sydd ar gael yn y coleg

                                                  TOTUM
                                                  yw'r unig ostyngiad myfyriwr, prawf oedran a cherdyn bywyd campws a llwyfan a argymhellir gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr:

                                                  Gofal Plant am Ddim yng Nghymru i blant 3 - 4 oed:
                                                  cymorth ar gyfer costau gofal plant yng Nghymru

                                                  Llun 02 Rhag

                                                  Wythnos Anabledd Dysgu

                                                    Dydd Llun 02 Rhagfyr 2024 - Dydd Gwener 06 Rhagfyr 2024


                                                    Mae wythnos anabledd dysgu yn ddigwyddiad blynyddol sy’n cael ei neilltuo i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth am anableddau dysgu, eirioli dros gynhwysiant, ac annog newid cadarnhaol i gefnogi unigolion sy'n wynebu heriau dysgu.

                                                    Wythnos Anabledd Dysgu - Adnoddau Grŵp Tiwtorial

                                                    https://www.mencap.org.uk/lear...

                                                    Gwe 06 Rhag

                                                    Diwrnod Hawliau’r Gymraeg

                                                      Dydd Gwener 06 Rhagfyr 2024


                                                      Mae ymgyrch ‘Defnyddia dy Gymraeg’ yn rhedeg rhwng 25 Tachwedd a 9 Rhagfyr 2024. Pwrpas yr ymgyrch hon fydd annog siaradwyr Cymraeg a dysgwyr o bob man yng Nghymru i ddefnyddio’r iaith yn eu bywyd bob dydd - yn y gwaith, gyda’r teulu, gyda chydweithwyr, wrth fynd i’r siop, wyneb yn wyneb neu ar-lein.

                                                      Mae Diwrnod 'Mae gen i Hawl' yn rhan o'r Ymgyrch Defnyddia dy Gymraeg. Mae'r ymgyrch yn fwy gyffredinol- annog pobl i ddefnyddio ei sgiliau lle mae'r diwrnod hawliau yn ffocysu ar godi ymwybyddiaeth o'r hawliau sydd gan unigolion i ddefnyddio'r Gymraeg - sef,

                                                      Llythyrau yn Gymraeg

                                                      Cais am gymorth ariannol yn Gymraeg

                                                      Gwasanaeth Cwnsela yn Gymraeg

                                                      Cyfarfodydd yn Gymraeg

                                                      Tiwtor personol sy'n siarad Cymraeg


                                                      Mae Gen i Hawl
                                                      Mae gen i hawl - YouTube https://www.comisiynyddygymraeg.cymru/eich-hawliau/ymgyrch-defnyddia-dy-gymraeg

                                                      Diwrnod Hawliau Cymraeg https://docs.google.com/forms/...

                                                      Lansio y Llysgenhadon newydd https://drive.google.com/drive/folders/1oUuLwUXDOc23w8CL2DrXoaWL4nujSQWjhttps://drive.google.com/drive/folders/1oUuLwUXDOc23w8CL2DrXoaWL4nujSQWj

                                                      Mae’r tîm Cydraddoldeb a Dwyieithrwydd yn awyddus i feithrin sgiliau Cymraeg dysgwyr Mwyafrif Byd-Eang Grŵp Llandrillo Menai. Bwriad y Grŵp Cefnogi Cymraeg hwn yw estyn croeso i siaradwyr Cymraeg rhugl, dysgwyr sy’n dysgu Cymraeg neu ddysgwyr di- Gymraeg i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg gyda'i gilydd. Yn ogystal, bydd y sesiynau hefyd yn canolbwyntio ar fantais sgiliau Cymraeg a dwyieithog yn y byd gwaith yn y dyfodol. Cynhelir un sesiwn pob mis, gyda’r cyntaf i gael ei chynnal ddydd Mercher, 15 Ionawr o 12yp - 1yp ar-lein. https://drive.google.com/file/d/1B-KjcDxOahjuVy_XAx8jVv2MZ3kEwmWq/view?usp=sharing

                                                      Llun 09 Rhag

                                                      Digwyddiadau Elusennol Undeb Myfyrwyr Traws Grŵp

                                                        Dydd Llun 09 Rhagfyr 2024 - Dydd Gwener 13 Rhagfyr 2024

                                                        Iau 12 Rhag

                                                        Diwrnod Siwmperi Nadolig

                                                          Dydd Iau 12 Rhagfyr 2024

                                                          Llun 06 Ion

                                                          Wythnos Llesiant - Cadw'n Ddiogel

                                                            Dydd Llun 06 Ionawr 2025 - Dydd Gwener 10 Ionawr 2025

                                                            Llun 20 Ion

                                                            Diwrnod Crefydd y Byd

                                                              Dydd Llun 20 Ionawr 2025


                                                              Archwilio Straeon Crefyddol y Byd a Myfyrdod Personol - Adnoddau Grŵp Tiwtorial

                                                              Mae Diwrnod Crefydd y Byd yn cael ei ddathlu ar y trydydd Sul ym mis Ionawr bob blwyddyn ac mae’n ein hatgoffa o’r angen am gytgord a dealltwriaeth rhwng crefyddau a systemau ffydd.

                                                              Adnodd Cymraeg

                                                              Llun 20 Ion

                                                              Wythnos Fawr Arbed Ynni

                                                                Dydd Llun 20 Ionawr 2025 - Dydd Gwener 24 Ionawr 2025


                                                                https://www.citizensadvice.org...

                                                                Beth yw Wythnos Fawr Arbed Ynni 2025?

                                                                Mae Wythnos Fawr Arbed Ynni 2025 yn gynllun wythnos o hyd sy’n canolbwyntio ar rymuso pobl i reoli a gwneud penderfyniadau gwybodus am eu defnydd o ynni. Mae'n rhoi cyngor ar sut i leihau gwastraff ynni, gwella inswleiddiad cartrefi, a chael cymorth ariannol ar gyfer biliau ynni.

                                                                Sut i Gymryd Rhan yn Wythnos Fawr Arbed Ynni 2025?

                                                                • Rhannu'r Neges: Rhannwch awgrymiadau a gwybodaeth am arbed ynni gyda ffrindiau a theulu i'w helpu nhw i arbed arian ar eu biliau ynni hefyd.
                                                                • Cael Cymorth Ariannol: ⁠Gwiriwch a ydych chi'n gymwys ar gyfer grantiau neu raglenni cymorth ariannol y llywodraeth i helpu gyda biliau ynni, yn enwedig os ydych chi ar incwm isel.
                                                                • Diffoddwch y goleuadau
                                                                • Caewch y drysau i gadw'r gwres i mewn
                                                                • Tynnwch y plwg o ddyfeisiau nad ydynt yn cael eu defnyddio
                                                                • Diffoddwch offer sydd ar ‘standby’

                                                                Gwe 24 Ion

                                                                Diwrnod Santes Dwynwen

                                                                  Dydd Gwener 24 Ionawr 2025


                                                                  Dathlu Diwrnod Santes Dwynwen hefo Grŵp Llandrillo Menai

                                                                  • Bisgedi ‘rhamantus’ - Coleg Llandrillo / Friars / Dolgellau
                                                                  • Sesiynau Gwallt a Harddwch - Friars / Dolgellau
                                                                  • Playlis't caneuon cariad
                                                                  • Cariad at Gymru - ILS Dolgellau / Glynllifon
                                                                  • Fideos gan ein Llysgennhadon ar Instagram / Twitter

                                                                  Cliciwch yma i weld stori Santes Dwynwen

                                                                  Llun 27 Ion

                                                                  Diwrnod Cofio'r Holocost

                                                                    Dydd Llun 27 Ionawr 2025


                                                                    Cynhelir Diwrnod Cofio’r Holocost (HMD) ar 27 Ionawr bob blwyddyn ac mae’n amser i gofio’r miliynau o bobl a lofruddiwyd yn ystod yr Holocost, o dan Erledigaeth y Natsïaid ac yn yr hil-laddiadau a ddilynodd yn Cambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur.

                                                                    Diwrnod Cofio’r Holocost

                                                                    Adnoddau dwyieithog

                                                                    Sad 01 Chw

                                                                    Amser i Siarad

                                                                      Dydd Sadwrn 01 Chwefror 2025


                                                                      Ar Ddiwrnod Amser i Siarad rydym yn gofyn wrth y genedl i gael sgwrs am iechyd meddwl. Nod y diwrnod yw creu cymunedau cefnogol drwy siarad â theulu, ffrindiau neu gydweithwyr am iechyd meddwl. Mae gan bob un ohonon ni iechyd meddwl, a thrwy siarad amdano, gallwn ni helpu ein hunain ac eraill.

                                                                      Ewch i'r dolenni canlynol am gefnogaeth :

                                                                      https://www.timetochangewales....

                                                                      https://www.mind.org.uk/get-in....

                                                                      https://www.samaritans.org/?na...

                                                                      Llun 03 Chw

                                                                      Diwrnod hijab

                                                                        Dydd Llun 03 Chwefror 2025


                                                                        Mae Diwrnod Hijab y Byd yn ddigwyddiad blynyddol sy’n annog merched o bob cefndir i brofi a deall yr hijab, gan feithrin ymwybyddiaeth a hybu goddefgarwch crefyddol.

                                                                        Diwrnod Hijab y Byd - Adnoddau Grŵp Tiwtorial

                                                                        https://worldhijabday.com/

                                                                        Gwe 07 Chw

                                                                        Diwrnod Miwsig Cymru

                                                                          Dydd Gwener 07 Chwefror 2025


                                                                          P’un a ydych chi’n hoffi miwsig indi, roc, pync, ffync, gwerin, electronica, hip hop neu unrhyw beth arall, mae miwsig anhygoel yn cael ei greu yn y Gymraeg i chi ei ddarganfod. Mae’r diwrnod yn dathlu pob math o fiwsig Cymraeg.

                                                                          Spotify Playlist

                                                                          Rhannwch eich hoff gân Cymraeg!

                                                                          Maw 11 Chw

                                                                          Safer Internet Day

                                                                            Dydd Mawrth 11 Chwefror 2025


                                                                            Mae Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yn cael ei ddathlu’n fyd-eang ym mis Chwefror bob blwyddyn, i hyrwyddo defnydd diogel a chadarnhaol o dechnoleg ddigidol gan blant a phobl ifanc ac i ysbrydoli trafodaeth yn genedlaethol.

                                                                            Gwelwch isod rai adnoddau a allai fod yn ddefnyddiol i chi:

                                                                            Bwcio gwyliau a theithiau ar-lein yn ddiogel

                                                                            Awgrymiadau ar gyfer prynu'n ddiogel ar-lein

                                                                            Defnyddio dyfeisiau symudol ac apiau yn ddiogel

                                                                            Am fwy o wybodaeth ewch i : https://hwb.gov.wales/parthau/cadwn-ddiogel-ar-lein/

                                                                            Cysylltu â ni

                                                                            Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

                                                                            Request date