Rhifedd Byw - Lluosi: Cyrsiau Mathemateg i Oedolion
Beth yw prosiect Lluosi?
Arweiniodd Grŵp Llandrillo Menai y prosiect Lluosi ar draws Gwynedd, Ynys Môn, Conwy a Dinbych. Roedd y prosiect yn cefnogi oedolion 19 oed a hŷn i wella eu hyder gyda rhifau mewn bywyd bob dydd.
Roedd y prosiect yn cynnig cymorth heb ei achredu mewn sgiliau rhifedd wedi’u seilio ar y byd go iawn. Roedd hefyd yn rhoi tiwtoriaeth i unigolion ennill cymhwyster hyd at lefel 2 mewn Mathemateg (naill ai cymhwyster TGAU neu Gymhwyso Rhif). Roedd hyn yn galluogi unigolion i wella eu sgiliau mathemateg er mwyn datblygu eu gyrfa, symud ymlaen i addysg bellach neu i well cyfleoedd gwaith.
Mae yna ddigon o gyfleoedd eraill i chi barhau i ddysgu a datblygu eich sgiliau gydag adran Potensial (dysgu gydol oes) Grŵp Llandrillo Menai.
Mae Potensial yn cynnig ystod eang o gyrsiau i oedolion gael datblygu sgiliau newydd. Beth bynnag fo'ch oedran, ble bynnag yr ydych chi'n byw, beth bynnag fo'ch diddordebau neu'ch rhesymau dros fod eisiau datblygu sgiliau newydd neu ddysgu rhagor – gall Grŵp Llandrillo Menai eich helpu i wireddu eich Potensial llawn.
Ewch i wefan Potensial am ragor o wybodaeth.

Help gyda Mathemateg
P'un a ydych chi'n ddechreuwr neu eisiau gwella'ch sgiliau, mae ein fideos yma i'ch helpu chi bob cam o'r ffordd.
Am ragor o wersi mathemateg am ddim, edrychwch ar ein rhestr chwarae lawn a dechreuwch ddysgu heddiw!- Sylfeini Excel - Fformatio a Swyddogaethau Allweddol
- Sylfeini Excel - Fformiwlâu syml
- Ffracsiynau GCSE - Rhan 1
- Ffracsiynau GCSE - Rhan 1
- Canran o Werth TGAU (heb gyfrifiannell)
- Canrannau o Werth (gyda cyfrifiannell) a Chywerthedd TGAU
- Theorem Pythagoras TGAU
- Dulliau Lluosi a Rhannu
- Dulliau Lluosi a Rhannu Degolion
- Defnyddio Ffracsiynau mewn Bywyd Bob Dydd
Yn awyddus i dreiddio'n ddyfnach i fyd dysgu? Cofrestrwch ar gyfer un o'n cyrsiau a datblygwch eich sgiliau ymhellach!

Newyddion diweddaraf / Gweld holl newyddion

Cynllun Lluosi yn gadael ei ôl yn barhaol drwy rwydwaith o hybiau addysg
Mae tîm Lluosi Grŵp Llandrillo Menai wedi darparu offer i ganolfannau cymunedol ledled siroedd Conwy, Dinbych, Gwynedd ac Ynys Môn i sicrhau cefnogaeth barhaus i oedolion sy'n dychwelyd at ddysgu

Lluosi yn helpu’r GIG i ddod o hyd i'r fformiwla gywir
Tîm Lluosi Grŵp Llandrillo Menai yn cynnal cwrs Excel i helpu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i ddysgu sut i ddefnyddio taenlenni'n effeithiol

Lluosi yn galluogi teuluoedd i fagu hyder yn eu sgiliau rhifedd yn ddwyieithog
Mae tîm Lluosi Grŵp Llandrillo Menai wedi cyfieithu adnoddau National Numeracy Family Maths i’r Gymraeg, gan ddosbarthu’r pecynnau o weithgareddau i ysgolion ledled siroedd Conwy, Dinbych, Gwynedd a Môn
Mae’r prosiect hwn yn cael ei gyllido gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Grŵp Llandrillo Menai sy'n arwain prosiect Lluosi yn siroedd Gwynedd, Môn, Conwy a Dinbych.
Rhaglen hyfforddi arloesol a ariennir drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig yw Lluosi a'r bwriad yw helpu pobl i wella eu dealltwriaeth a'u defnydd o fathemateg yn eu bywyd bob dydd, gartref ac yn y gwaith. Efallai eu bod am wneud hynny i wella'r sefyllfa ariannol yn y cartref, i helpu eu plant gyda'u gwaith cartref, i ddeall y ffeithiau a gyflwynir ar y cyfryngau'n well neu i wella'r sgiliau rhifedd penodol sydd eu hangen arnynt yn eu gwaith.
