Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Prosiect Lluosi i Ddysgwyr Unigol

Ydych chi'n awyddus i roi hwb i'ch gyrfa, neu dim ond am fod yn fwy hyderus wrth drin rhifau a gwella ansawdd cyffredinol eich bywyd? Mae Prosiect Lluosi wedi cefnogi cannoedd o ddysgwyr fel chi yng ngogledd Cymru.

Ydych chi’n teimlo bod eich diffyg hyder mewn mathemateg yn eich dal chi'n ôl? Peidiwch â phoeni, nid chi ydi'r unig un! Mae arolygon diweddar yn dangos bod 49% o oedolion yn teimlo'n ddihyder wrth ddefnyddio rhifau mewn bywyd bob dydd.

Dyna pam mae Prosiect Lluosi yn cynnig Cymorth AM DDIM i bobl dros 19 oed yn siroedd Dinbych, Conwy, Gwynedd a Môn sydd eisiau gwella eu sgiliau rhifedd. ⁠

Os ydych chi am wella eich cyfleoedd yn y gwaith, meithrin sgiliau newydd er mwyn cael dyrchafiad, dychwelyd i addysg neu wella eich lles cyffredinol – gallwn ni eich helpu.

Cyrsiau i bawb
Beth bynnag yw lefel eich rhifedd, gallwn ni helpu i wella eich hyder gyda rhifau.

Er enghraifft, rydyn ni wedi helpu dysgwyr sydd heb ddefnyddio mathemateg ers gadael yr ysgol ac sy'n ystyried lefel eu gallu yn isel. Rydyn ni hefyd wedi helpu dysgwyr sydd â sgiliau mwy datblygedig, ond sydd angen hwb ychwanegol i gyrraedd eu nod.

Hyblygrwydd y ddarpariaeth
Rydyn ni’n deall y gall bywyd fod yn brysur, a dyna pam rydyn ni’n gallu cyflwyno cyrsiau ar amseroedd ac mewn lleoliadau sy'n gyfleus i’n dysgwyr. Gallwn gynnal cyrsiau neu gymorth 1:1 mewn canolfannau cymunedol, llyfrgelloedd neu gampysau lleol ac rydyn ni hefyd yn cynnig sesiynau ar-lein i'r rhai sydd angen hynny.

Y prosiect hyd yn hyn
Dyma enghraifft o'r cyrsiau rydyn ni wedi'u cynnal i ddysgwyr yn siroedd Dinbych, Conwy, Gwynedd a Môn:

  • Cyllidebu
  • Arbed arian wrth siopa am fwyd
  • Rhifau wrth drin ceir
  • Rhifau mewn DIY
  • Rhifau mewn crefftau
  • Rhifau wrth goginio
  • Helpu eich plentyn gyda mathemateg
  • Rhedeg eich busnes eich hun
  • Posau a gemau rhif
  • Rhifau mewn ffotograffiaeth
  • Deall slipiau cyflog
  • Mathemateg ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu.

Nid yw'r rhestr hon yn cynnwys popeth a gallwn ddatblygu cyrsiau sydd wedi eu teilwra ar gyfer eich anghenion a'ch gobeithion chi.

Cymwysterau ffurfiol
Gall Prosiect Lluosi hefyd gynnig sesiynau tiwtora AM DDIM i unigolion sy'n dymuno ennill cymwysterau mathemateg ffurfiol, fel cymhwyster TGAU neu gymhwyster 'Cymhwyso Rhif' Sgiliau Hanfodol Cymru sy'n gyfwerth â TGAU. ⁠

Mae Prosiect Lluosi hefyd yn talu costau cofrestru arholiadau. Mae ennill cymhwyster mathemateg ffurfiol yn agor y drws i amrywiaeth eang swydd, addysg a hyfforddiant a gall ein tiwtoriaid arbenigol hefyd eich helpu i benderfynu pa gymhwyster sydd orau i chi.

Sut i gael mynediad i'r gefnogaeth sydd ar gael
Gallwch weld ein cyrsiau ac archebu lle arnynt ar y dudalen hon: https://www.gllm.ac.uk/cy/online-prospectus/multiply

Methu gweld cwrs sydd at eich dant?
Gallwch gysylltu â ni i drafod lefel eich rhifedd ar hyn o bryd, eich diddordebau a'r hyn yr hoffech ei gyflawni. Yna gall ein tîm edrych ar y syniad o ddatblygu cwrs pwrpasol i chi.

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date