Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Tystebau

Darllenwch ragor am y dysgwyr a'r sefydliadau sydd wedi gweithio gyda ni.

Sir Ynys Môn

Elusen

Elusen Edwards-Jones, Dysgwr Lluosi - TGAU Mathemateg

Chefais i mo'r cymorth yr oeddwn ei angen i lwyddo mewn Mathemateg yn yr ysgol gan fy mod yn cael trafferth yn y pwnc oherwydd bod dyscalcwlia a dyslecsia arnaf. Mae fy hyder wedi gwella'n fawr, a dw i'n sylwi bod fy mathemateg wedi gwella yn gyffredinol.

Mae'r tiwtoriaid a'r staff yn awyddus i chi lwyddo ac felly'n eich annog i wneud eich gorau. Mae fel cael sgwad o gefnogwyr personol ar gyfer eich mathemateg!

Dewch i wybod mwy
AnnWilliams

Ann Williams, Dysgwr Lluosi - Cyflwyniad i Sgiliau Gwnïo

Yr hyn sy'n allweddol i allbwn gwnïo rhagorol yw bod yn fanwl gywir gyda'ch meintiau, felly mae dealltwriaeth dda o rifau yn hollbwysig. Dw i wedi mwynhau'r cwrs yn fawr; roedd y tiwtor yn ardderchog ac mi wnes i fwynhau'r cyfeillgarwch o ddysgu gydag eraill fel grŵp.

Mae’n bosibl y bydd y peiriant gwnïo a brynodd fy ngŵr i mi flynyddoedd yn ôl yn cael ei ddefnyddio o’r diwedd, diolch i’r sgiliau gwnïo a rhifedd dw i wedi’u datblygu ar y cwrs yma.

Sir Conwy

Tom Ward

Tom Ward, Cyfarwyddwr, Cymuned Bae Colwyn Hwb - Coginio ar Gyllideb

Roedd angen help arna i i drefnu cyrsiau coginio i gleientiaid. Mae hi'n anodd i bobl ac mae'r banc bwyd yn gwbl hanfodol. Nid dysgu sgiliau rhifedd yn unig sy'n digwydd yma, rydych chi'n dysgu sut mae siarad ag eraill.

Os bydd gofyn i chi weithio mewn grŵp, rydych yn dysgu sut mae siarad mewn grŵp. Roedd y tiwtor yn wych ac yn barod iawn i helpu. Roedd yn hawddgar iawn ac yn amyneddgar iawn gyda'r rhai oedd angen rhagor o gymorth.

Andrew

Andrew Clark, Cydlynydd Cefnogaeth yn y Gwaith, Crest Cooperative - Cyllidebu Mewn Bywyd

Mae amrywiaeth o gyrsiau Lluosi ar gael y gellir eu haddasu ar eich cyfer. Mi wnes i grybwyll cynnwys cyrsiau wythnosol a misol ar gyllidebu ac ychwanegu pethau atynt, ac mae'r tiwtor wedi bod yn barod iawn i'n cynorthwyo.

Dyma un o'r pethau mwyaf defnyddiol i ni eu gwneud, defnyddio sylfaen y cwrs ac addasu hwnnw gan ychwanegu ato i gynnwys y pethau rydych angen eu dysgu.

Sir Ddinbych

David Walsh

David Walsh, Dysgwr Lluosi - Cymhwyso Rhif Lefel 2

Dydw i ddim wastad wedi bod yn gyfforddus gyda mathemateg. Mae fy mhrofiadau yn y gwaith wedi bod o gymorth ond roedd tiwtoriaid y cyrsiau hyn yn deall ein gallu ac yn barod iawn i'n cynorthwyol. Maen nhw'n diwtoriaid ardderchog sydd yn gofalu amdanom ar y cyrsiau.

Lluosi ydy'r lle i ddod oherwydd maen nhw'n deall nad ydy mathemateg yn hawdd i bawb, ac mae'n dda i mi oherwydd gall fod o gymorth i'ch plant hefyd. Wel, wyrion yn fy achos i!

Dewch i wybod mwy
Fiona

Fiona Murray, Hyfforddwr Swyddi, Co-options - Rhifau am Oes: Rhifedd Byw

Rydyn ni'n cefnogi ystod eang o ddysgwyr yma yn Co-Options ac mae gallu pawb o ran rhifedd yn wahanol. Fodd bynnag, mae Lluosi yn gallu addasu sesiynau ar gyfer pob dysgwr ac rydyn ni wedi gweld cynnydd mawr mewn hyder a gallu ymhlith yr holl ddysgwyr. Un o'r pethau pwysicaf yw bod pob sesiwn Lluosi wedi bod yn hwyliog a difyr.

Mae’r ffaith y gall y dysgwyr ychwanegu cyrsiau Lluosi at eu CV a mynd â thystysgrifau i gyfweliadau swyddi yn wych ac mae wir yn rhoi hwb i’w rhagolygon yn y byd gwaith.

Sir Gwynedd

Bernadette Ann Archbold

Bernadette Ann Archbold, Dysgwr Lluosi - Cyflwyniad Sylfaenol i Weldio

Yn ystod y cwrs, dwi wedi datblygu'r sgil o weldio yn ogystal â defnyddio rhifau, a gweld fy mod yn ei fwynhau, a bod gen i sgil newydd dwi'n dda am ei gwneud. Roedd y tiwtor yn garedig iawn ac yn dda am egluro beth i'w wneud. Roeddwn yn gallu bod yn greadigol ac ymarfer gwahanol dechnegau weldio.

Dw i'n bendant yn meddwl y dylai mwy o bobl fod yn ymwybodol o'r cyrsiau Lluosi a chymryd mantais ohonyn nhw. Wyddoch chi byth, efallai y bydd yn rhywbeth y byddwch chi'n ei fwynhau trwy ddefnyddio rhifedd.

Gwydion

Gwydion Evans, Dysgwr Lluosi - TGAU Mathemateg

Ro'n i’n meddwl bod y gwersi un-i-un yn ddefnyddiol iawn ar gyfer dysgu pethau’n weddol gyflym a chael wedi ei deilwra i mi a oedd yn gadael i mi gael gafael iawn arno. Dwi'n eithaf hapus hefo fy ngradd, dwi'n meddwl bod Lluosi wedi rhoi’r help yr oedd ei angen arna‘ i i gael y canlyniad hwn.

Dwi wedi bod ar lawer o wahanol fathau o gyrsiau yn ystod y cyfnod hwn yn fy mywyd ac mi wnes i ddarganfod bod llawer ohonyn nhw ddim yn gweithio cystal i mi, ond roedd Lluosi yn gallu cadw fy niddordeb tan y diwedd.