Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Llangefni

Saif Campws Llangefni mewn llecyn gwledig hardd ar gyrion y dref, ac mae ar y llwybr cludiant cyhoeddus.

Mae'r campws hwn wedi elwa ar y buddsoddi mawr a wnaed mewn cyfleusterau newydd fel y Ganolfan Astudiaethau Gofal, y Ganolfan Sgiliau Adeiladu, y Ganolfan Ynni a'r Ganolfan Hyfforddi ym maes Peiriannau Trwm.

Ymhlith y cyfleusterau mae ffreutur, siop, caffi Costa Coffee, llyfrgell a chanolfan adnoddau.

Cyfleusterau Chwaraeon Llangefni

Mae'r ganolfan chwaraeon ar ein campws yn Llangefni yn gartref i'r dechnoleg a'r offer diweddaraf ar gyfer monitro perfformiad a rhagoriaeth chwaraeon, gan gynnwys beiciau wat, peiriannau Seca i ddarparu dadansoddiad cyfansoddiad corff llawn gradd feddygol, a melin draed arbenigol yn cynnwys system dadansoddi bagiau nwy Douglas i asesu Vo2max.

Dewch i wybod mwy...

Lleoliad y Campws


Ffordd Penmynydd
Llangefni
LL77 7HY

01248 383 348

Llywio i'r lleoliad hwn:



Cyfeiriad 'what3words'     ///dozed.prelude.excavated

Gwybodaeth ychwanegol am sut i gyrraedd y campws

Os ydych chi'n dod i gampws Llangefni oddi ar gyffordd 6 yr A55 ac yn defnyddio Google Maps, bydd angen i chi anwybyddu'r cyfarwyddiadau a gewch wrth i chi ddod i'r gylchfan gyda'r garreg fawr a’r arwydd "Parc Bryn Cefni" (gweler y llun isod). Wrth gyrraedd y gylchfan hon (cylchfan 1) bydd angen i chi ddilyn y cyfarwyddiadau isod:

Mynd yn syth ymlaen yn y gylchfan a ddangosir yn y llun isod, ac yn y tair cylchfan nesaf (4 i gyd).

Arwydd Parc Bryn Cegin


Yn ystod y tymor (pan fydd gwersi'n cael eu cynnal)

Bydd angen i chi fynd i'r chwith yn y bumed gylchfan, yna'n syth trwy'r giatiau gwyrdd i'r maes parcio mawr. Mae'r maes parcio ar gau yn ystod y gwyliau. Y cyfeiriad “What 3 Words” ar gyfer y maes parcio hwn yw: lemmings.debate.compiler

Yn ystod y gwyliau (y Pasg, Hanner Tymor, yr Haf)

Bydd angen i chi fynd yn syth ymlaen yn y bumed gylchfan ac i'r chwith yn y chweched gylchfan. Y cyfeiriad “What 3 Words” ar gyfer y maes parcio hwn yw: trend.testy.resettle

Os ydych chi'n mynd i CIST

Ar ôl i chi droi i'r chwith yn y chweched gylchfan, yn hytrach na dilyn y ffordd i'r dde mae angen i chi fynd yn syth ymlaen gan ddilyn yr arwydd CIST. Y cyfeiriad “What 3 Words” ar gyfer y maes parcio hwn yw: ordinary.qualifier.magnum

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date