Y Rhyl
Yn ogystal â chynnig dewis eang o gyrsiau galwedigaethol, Campws Y Rhyl yw cartref Canolfan Cyrsiau Lefel A Chweched Y Rhyl.
Yn y Ganolfan Technoleg Cerbydau Modur, ceir yr offer diweddaraf sy'n bodloni safonau'r diwydiant ac fe'i datblygwyd yn ddiweddar i gynnwys Canolfan Weldio a Thrwsio Cyrff Cerbydau.
Pam Dewis Campws Y Rhyl?
Canlyniadau Rhagorol
Bob blwyddyn, bydd ein myfyrwyr yn cael canlyniadau rhagorol ac yn dewis un ai parhau a'u hastudiaethau mewn prifysgol neu fynd ymlaen i fyd gwaith. Enillodd 84% o'r dysgwyr raddau A* i C yn eu harholiadau Lefel A a chafodd dros draean y dysgwyr raddau A* ac A yn 2022.
Yn ogystal, enillodd 600 myfyrwyr eu cymwysterau BTEC yn 2022, gyda 46% yn cael graddau Rhagoriaeth* neu Ragoriaeth.
Cefnogaeth Ragorol i Fyfyrwyr
Dyfarnodd arolygiad diwethaf y llywodraeth bod safon y gofal, y gefnogaeth a'r arweiniad a roddwn i fyfyrwyr yn 'rhagorol' – felly cewch bob gofal yn ystod eich amser yn y coleg. Fel myfyriwr llawn amser, bydd eich Tiwtor Personol yn eich helpu i ymgynefino â bywyd yn y coleg a bydd yn cynllunio ac adolygu eich cynnydd er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cyrraedd eich targedau.
Gallwch gael cyngor ac arweiniad gan staff ymroddedig ein Gwasanaethau i Ddysgwyr ar amrywiaeth o faterion, gan gynnwys diogelu, lles, cymorth ychwanegol i astudio, materion ariannol, cyngor gyrfaol a gwasanaethau cwnsela cyfrinachol.
Dewisiadau Eang
Rydym yn cynnig dewis helaeth o gyrsiau llawn amser mewn meysydd sy'n cynnwys adeiladu, peirianneg, gwallt a harddwch, iechyd a gofal a thechnoleg cerbydau modur.
Ochr yn ochr â'n cyrsiau galwedigaethol, rydym hefyd yn cynnig cyrsiau Lefel AS/Lefel A mewn bron i 20 pwnc gwahanol!
Lleoliad Cyfleus
Mae'r campws y Rhyl wedi'i leoli ychydig y tu allan i ganol y dref, felly mae'n gyfleus iawn i'r myfyrwyr ac mae digon o le i barcio. Wedi'i leoli ychydig oddi ar Ffordd Cefndy, ger Parc Gwyliau'r Marine, mae campws modern y Rhyl yn darparu amgylchedd dysgu cyfeillgar a chefnogol.
Canolfan Chweched Dosbarth
Y campws yw cartref Chweched y Rhyl, canolfan chweched dosbarth bwrpasol sy'n cynnig dewis helaeth o bynciau i ddysgwyr Lefel A. Yn y ganolfan hon ceir cyfleusterau arbenigol fel labordai gwyddoniaeth, mannau addysgu ac ystafelloedd astudio.
Cyfleusterau Ardderchog
Os dewiswch astudio gyda ni, cewch elwa ar gyfarpar modern ac amgylcheddau gweithio sy'n adlewyrchu'r byd go iawn. Pan na fyddwch mewn gwers, cewch ddefnyddio'r amrywiol gyfleusterau sy'n cynnwys y llyfrgell a'r gweithdy TG, mynd am damaid i'w fwyta yn y ffreutur neu ymlacio gyda phaned o goffi yn ein caffi Starbucks.
Dosbarthiadau Bach
Mae myfyrwyr ar y campws yn elwa ar ddosbarthiadau bychan a hyfforddiant arbenigol gan ein tiwtoriaid hynod gymwys a phrofiadol.
Canolfan Beirianneg - Coleg Llandrillo
Mae Canolfan Beirianneg y Rhyl yn gyfleuster tri llawr o’r radd flaenaf sy’n ymestyn dros 3000m² ac yn cynnwys gwerth dros £2m o’r offer hyfforddi arbenigol diweddaraf. O roboteg a pheiriannau prototeipio cyflym i beiriannau torri metel diwydiannol mawr a reolir gan gyfrifiaduron, mae’r ganolfan wedi’i chynllunio i ddarparu profiadau dysgu na ellir eu curo.
Beth allwch chi ei astudio yma
Prosbectws rhan amser ar-lein campws Y Rhyl
Cyfrifiadura a Thechnoleg Gwybodaeth
Cyfrifiadura a Sgiliau Digidol - Pob Lefel
Courses
Cyflwyniad i Sgiliau Cwnsela Sylfaenol Lefel 2 15 wythnos - Y Rhyl Chwefror 25
Sgiliau ar gyfer bywyd a gwaith
Mathemateg a Saesneg i Bawb
Mathemateg a Saesneg i Bawb
Hyfforddiant Athrawon
Cyflwyniad i fod yn Cynorthwyydd Dysgu
Lleoliad y Campws
Ffordd Cefndy
Y Rhyl
LL18 2HG