Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Digwyddiadau Agored - Dysgu Oedolion a Chymunedol

Os ydych chi awydd cael dechrau newydd, datblygu eich sgiliau neu gyfarfod ffrindiau newydd a chael hwyl, mae gennym gyrsiau at ddant pawb!

Mae ein digwyddiadau agored yn gyfle i gyfarfod â'r tiwtoriaid ac i ddod i wybod rhagor am addysg oedolion a'r dewis eang o gyrsiau sydd ar gael yn y gymuned. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Celf a Dylunio
  • Cyfrifiadura a Sgiliau Digidol
  • Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL)
  • Saesneg a Mathemateg
  • Sgiliau Bywyd
  • Sgiliau Gwaith

Beth bynnag yw’ch nod, mae timau cyfeillgar y Gwasanaethau i Ddysgwyr ar gael i’ch helpu i wneud eich dewisiadau.

Gallwch hefyd lawrlwytho'r fersiynau diweddaraf o'n Prosbectysau Rhan-amser oddi ar ein gwefan, neu glicio yma i weld ein prosbectws ar-lein.

Dyddiadau

Coleg Menai:

  • Campws Bangor: Dydd Mercher 6 Medi, 10am-2pm
  • Campws Caernarfon: Dydd Llun 11 to Dydd Iau 14 Medi, 10am-2pm
  • Campws Holyhead: Dydd Llun 11 to Dydd Iau 14 Medi, 10am-2pm
Myfyriwr ac athro yn defnyddio cyfrifiadur